- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Dehongli Deddfwriaeth, Cymru
Gwnaed
10 Hydref 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 38 a 44(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2019” yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 .
2. Daw Rhan 2 o Ddeddf 2019 i rym at bob diben sy’n weddill ar 1 Ionawr 2020.
3. Yn adran 3(1) o Ddeddf 2019—
(a)ym mharagraff (b), yn lle “y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn neu ar ôl y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn” rhodder “1 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw”;
(b)ym mharagraff (c), yn lle “y diwrnod hwnnw”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “1 Ionawr 2020”.
4. Yn lle adran 23B o Ddeddf Dehongli 1978(2)—
(a)yn is-adran (1)(b), yn lle “the day on which Part 2 of that Act (interpretation and operation of Welsh legislation) comes fully into force” rhodder “1 January 2020 (the day on which Part 2 of that Act comes fully into force)”;
(b)yn is-adrannau (2)(b) a (3)(a), yn lle “the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force” rhodder “1 January 2020”.
Mark Drakeford
Prif Weinidog Cymru
10 Hydref 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn Rhan 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2020. Felly bydd Rhan 2 o’r Ddeddf yn gymwys i Ddeddfau’r Cynulliad sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Ionawr 2020 neu ar ôl 1 Ionawr 2020, ac i is-offerynnau Cymreig a wneir ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Mae’r Gorchymyn hefyd yn diwygio darpariaethau sy’n cyfeirio at y diwrnod y daw Rhan 2 i rym, er mwyn iddynt gyfeirio at 1 Ionawr 2020 yn lle hynny.
2019 dccc 4. Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 38 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39.
1978 p. 30. Mewnosodwyd adran 23B gan baragraff 11 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) ac fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2019.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: