Search Legislation

Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1363 (Cy. 236)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

Gwnaed

18 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Hydref 2019

Yn dod i rym

12 Tachwedd 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126(3) o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a daw i rym ar 12 Tachwedd 2019.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol(4) yng Nghymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddogfen” yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” dyddiedig Medi 2019(5).

Y Ddogfen

2.  Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2019 at ddibenion penderfynu—

(a)y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a

(b)amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018(6) wedi ei ddirymu i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol yng Nghymru.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol (o fewn ystyr adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)) yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“y Ddogfen”). Gellir canfod y Ddogfen ar wefan Llywodraeth Cymru, www.llyw.cymru.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2019 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).

Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018 fel y mae’n gymwys yng Nghymru (erthygl 3).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned Strategaeth y Gweithlu, Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2002 p. 32. Diwygiwyd adrannau 122 a 123 gan adran 5(1) o O.S. 2010/1158 a chan baragraff 11 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).

(3)

Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon o’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).

(4)

Diffinnir “school teacher” at y dibenion hyn yn adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources