Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
2. Yn Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, ar ôl rheoliad 22 mewnosoder—
“Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE
23.—(1) Nid yw rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011—
(a)os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b)pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.
(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig arfer y pwerau o dan reoliad 11(1) mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011—
(a)os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b)pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.”