Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1378 (Cy. 244)

Iechyd Planhigion, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

22 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Hydref 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir—

(a)

mewn perthynas â rheoliad 1, gan y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (b) ac (c);

(b)

mewn perthynas â rheoliad 2, gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1);

(c)

mewn perthynas â rheoliad 3, gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.

(3Maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

2.—(1Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 5—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)yn lle “£250” rhodder “£750”;

(bb)yn lle’r geiriau o “yng ngholofn 3” hyd at y diwedd rhodder “yng ngholofn 2 y tabl hwnnw”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “yng ngholofn 4” hyd at y diwedd rhodder “yng ngholofn 3 y tabl hwnnw”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “yng ngholofnau 3 a 4” rhodder “yng ngholofnau 2 a 3”;

(c)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)yn lle “£250” rhodder “£750”;

(bb)yn lle “£7.43” rhodder “£7.88”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “£14.86” rhodder “£15.76”.

(3Yn lle Atodlen 3, rhodder—

Erthygl 5(1)

ATODLEN 3Ffioedd gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio

(1)

Gwasanaeth

(2)

Ffi (£)

(3)

Ffi (£)

Arolygiad o lwyth31.90 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 63.8063.80 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 127.60
Archwiliad o arolygiad grawn a gynhelir yn unol ag erthygl 3(3)13.20 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 26.4026.40 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 52.80
Archwiliad mewn labordy16.78 am bob sampl a brofir

33.56 am bob sampl a brofir

Dyroddi tystysgrif12.76 am bob tystysgrif25.52 am bob tystysgrif
Diwygio tystysgrif ar archiad yr allforiwr7.88 am bob tystysgrif15.76 am bob tystysgrif.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

3.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “sydd ar ffurf” rhodder “i’r graddau y mae’n cynnwys”;

(ii)ar y diwedd mewnosoder “neu unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth”;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “£9.71” rhodder “£10.51”;

(ii)yn lle is-baragraffau (b) ac (c), rhodder—

(b)yn achos—

(i)llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—

(aa)un lot o flodau wedi eu torri, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r blodau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

(bb)dwy lot neu ragor o flodau wedi eu torri, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

(ii)llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—

(aa)un lot o ffrwythau neu lysiau, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r ffrwythau neu’r llysiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

(bb)dwy lot neu ragor o ffrwythau neu lysiau, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

(c)yn achos llwyth—

(i)sy’n cynnwys canghennau wedi eu torri o Phoenix spp. sy’n tarddu o Costa Rica ac nad yw’n cynnwys unrhyw ganghennau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r canghennau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

(ii)yn achos unrhyw lwyth arall y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(aa)pan fo’r llwyth yn cynnwys unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth, ffi o £5.98;

(bb)pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, y ffi neu’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r planhigion hynny, y cynhyrchion planhigion hynny neu’r gwrthrychau eraill hynny yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;;

(iii)yn is-baragraff (d), yn lle “£157.08” rhodder “£147.35”;

(c)ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o “pla planhigion a reolir”, mewnosoder—

(aa)mae i “Ewrop” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018;

(ab)ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;

(ac)ystyr “llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys blodau wedi eu torri o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw flodau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;

(ad)ystyr “llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys ffrwythau neu lysiau o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw ffrwythau na llysiau eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3” rhodder “ffi a bennir ym mharagraff (3)”;

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae ffi o £61.58 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £123.16.;

(c)ym mharagraff (4), yn lle “£18.78” rhodder “£20.66”.

(4Yn rheoliad 6(1), yn lle “£60.40” rhodder “£70.83”.

(5Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (4), yn lle “£14.76” rhodder “£15.76”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Pan fo person yn cyflwyno cais ar gyfer darparu labelau argraffedig, mae’r ffi ychwanegol a ganlyn yn daladwy—

(a)yn achos cais a gyflwynir ar-lein, £11.45;

(b)yn achos cais a gyflwynir ar bapur, £15.61..

(6Yn lle rheoliad 9(2) rhodder—

(2) Mae ffi o £26.00 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £52.00..

(7Yn lle Atodlen 1 rhodder—

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1Ffioedd arolygu mewnforio

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Ffi (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau173.91
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had)182.38
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws)205.04
Hadau, meithriniad meinwe128.13
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn182.38
Blodau wedi eu torri42.75
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri)33.99
Coed Nadolig wedi eu torri119.64
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog71.68
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)53.10
Cloron tatws156.69
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl119.64
Grawn142.98
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd22.73.

(8Yn lle Atodlen 2 rhodder—

Rheoliad 3(2)(c)

ATODLEN 2Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Gwlad tarddiad

Colofn 3

Ffi (£)

Blodau wedi eu torri
AsterZimbabwe32.06
DianthusColombia1.28
Ecuador6.41
Kenya2.14
Twrci6.41
RosaColombia1.28
Ecuador0.43
Ethiopia2.14
Kenya4.28
Tanzania21.38
Zambia4.28
Canghennau gyda Deiliant
PhoenixCosta Rica17.00
Ffrwythau
ActinidiaUnrhyw drydedd wlad2.66
Carica papayaUnrhyw drydedd wlad2.66
CitrusYr Aifft39.83
Moroco1.59
Periw5.31
Twrci1.59
UDA13.28
Citrus limon a citrus aurantifoliaIsrael13.28
CydoniaUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop2.66
FragariaUnrhyw drydedd wlad2.66
MalusAriannin18.59
Brasil26.55
Chile2.66
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop2.66
Seland Newydd5.31
De Affrica2.66
MangiferaBrasil26.55
PassifloraColombia3.72
Kenya13.28
De Affrica18.59
Fiet-nam13.28
Zimbabwe26.55
Persea americanaUnrhyw drydedd wlad2.66
PrunusAriannin39.83
Chile5.31
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop2.66
Moroco26.55
Twrci18.59
UDA26.55
Prunus ac eithrio prunus persicaDe Affrica2.66
PyrusAriannin7.97
Chile7.97
Tsieina26.55
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop2.66
De Affrica5.31
RibesUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop2.66
RubusUnrhyw drydedd wlad2.66
VacciniumAriannin13.28
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop2.66
VitisUnrhyw drydedd wlad2.66
Llysiau
Solanum lycopersiconYr Ynysoedd Dedwydd2.66
Moroco2.66
Solanum melongenaTwrci13.28.

(9Hepgorer Atodlen 3.

(10Yn lle Atodlen 4 rhodder—

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 4Ffioedd trwydded iechyd planhigion

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2020;

ystyr “cyfnod 2” yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar 30 Medi 2020.

Colofn 1

Y math o gais neu arolygiad

Colofn 2

Dyddiad y cais

Colofn 3

Ffi (£)

Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu, ac eithrio—

  • trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall

  • trwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

995.36
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau995.36, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall, ac eithrio trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau745.41
Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau745.41, plws 52.45 am bob eitem dros 5
Cais i amrywio trwydded gyda newidiadau y mae asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol ar eu cyfer380.25
Cais am unrhyw drwydded arall42.50
Dyroddi llythyr awdurdodi blynyddol42.50
Monitro a gydymffurfir ag amodau a thelerau trwyddedYn achos monitro a wneir yng nghyfnod 1

69.75 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 139.50

Yn achos monitro a wneir yng nghyfnod 281.25 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 162.50
Yn achos monitro a wneir ar 1 Hydref 2020 neu ar ôl hynny92.67 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 185.34.

(11Yn lle Atodlen 5 rhodder—

Rheoliad 8(1)

ATODLEN 5Tatws hadyd: ffioedd

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

Samplu a phrofi pridd ar gyfer Llyngyr Tatws
Samplu a phrofi pridd at ddibenion paragraff 4, 7 neu 9 o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(6)24.75 am bob hectar (neu ran ohono) sy’n cael ei samplu a’i brofi
Arolygu cnydau sy’n tyfu
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PBTC yr Undeb30.39 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)60.78
Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PB yr Undeb12.16 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir60.75
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd S yr Undeb10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir105.70
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd SE yr Undeb10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir105.70
Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd E yr Undeb10.33 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir103.30
Ardystio yn datws hadyd ardystiedig: Gradd A neu B yr Undeb9.39 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir93.90
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Arolygu40.55 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)81.10
Darparu labelau a seliau mewn cysylltiad â cheisiadau
Labelau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal 50 kg o datws hadyd neu lai0.05 am bob label
Labelau a seliau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal mwy na 50 kg o datws hadyd0.11 am bob label (gan gynnwys sêl)
Labelau a seliau gwag0.16 am bob label (gan gynnwys sêl).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Hydref 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) a Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn 2006 i ddarparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) a gwasanaethau cyn-allforio cysylltiedig, ac i gynyddu’r uchafswm ar gyfer gwasanaethau y mae’r gyfradd gonsesiynol i allforwyr bach yn gymwys iddynt, o £250 i £750.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018, sy’n pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau, fel a ganlyn.

Mae rheoliad 3(2) yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2018 i ddarparu’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer tystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys ffioedd ar gyfer llwythi cymysg) ac ar gyfer profi samplau.

Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffi is ar gyfer awdurdodiad pasbort planhigion.

Mae rheoliad 3(6) yn diwygio rheoliad 9(2) o Reoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffi uwch ar gyfer ardystio planhigion ffrwythau a’u deunydd lluosogi.

Mae rheoliad 3(7) yn amnewid Atodlen 1 i Reoliadau 2018, sy’n nodi ffioedd arolygu mewnforio sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad ar gyfer archwiliadau iechyd planhigion mewn cysylltiad â phlanhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol.

Mae rheoliad 3(8) yn amnewid Atodlen 2 i Reoliadau 2018, sy’n nodi ffioedd gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i lefelau is o archwiliadau iechyd planhigion y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau diogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaeniad o fewn y Gymuned (OJ Rhif 169, 10.7.2000, t.1). Mae’r rheoliad hwn yn rhoi effaith i’r hysbysiad diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd am y lefelau is o archwiliadau iechyd planhigion sy’n gymwys i blanhigion penodol ac i gynhyrchion planhigion penodol (a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2018 ac a ddiwygiwyd ar 15 Ebrill 2019).

Mae rheoliad 3(10) yn amnewid Atodlen 4 i Reoliadau 2018 sy’n nodi’r ffioedd ar gyfer trwyddedau iechyd planhigion ac mae’n cynnwys newid i’r ffi ar gyfer monitro a gydymffurfir â thelerau ac amodau’r drwydded sy’n cael ei chynyddu dros gyfnodau ar wahân.

Mae rheoliad 3(11) yn amnewid Atodlen 5 i Reoliadau 2018 sy’n nodi ffioedd ar gyfer samplu a phrofi pridd ac ardystio tatws hadyd gan gynnwys darparu labelau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1967 p. 8; diwygiwyd adran 3(1) gan baragraff 8(2)(a) a (b) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac O.S. 2011/1043. Mewnosodwyd adran 4A gan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 3 a 4A yn cael eu rhoi i awdurdod cymwys (“competent authority”). Diffinnir “competent authority” yn adran 1(2). Diwygiwyd adran 1(2) gan baragraff 43 o Atodlen 2 i O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae adran 1(2), fel y’i diwygiwyd, yn darparu mai’r awdurdod cymwys ar gyfer Cymru yw Gweinidogion Cymru.

(2)

1973 p. 51; diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043.

(3)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources