Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2019.

Diwygio Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001

2.  Yn Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001(1), yn rheoliad 7 (cosbi a gorfodi), ym mharagraff (3), yn lle “Atodiad 3 i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y caiff cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ei wirio” rhodder “Atodiad 3 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion”.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

3.  Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

4.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” rhodder—

ystyr “Rheoliadau’r Gymuned” (“the Community Regulations”) yw Rheoliad 852/2004, Rheoliad 853/2004, Rheoliad 2073/2005, Rheoliad 2015/1375, Rheoliad 2017/185, Rheoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae ef ac y maent hwy yn gymwys i fwyd;;

(ii)yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Penderfyniad 2006/766”” rhodder—

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1668/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 931/2011” (“Regulation 931/2011”), “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”), “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”), “Rheoliad 208/2013” (“Regulation 208/2013”), “Rheoliad 210/2013” (“Regulation 210/2013”), “Rheoliad 579/2014” (“Regulation 579/2014”), “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”), “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2018/329” (“Regulation 2018/329”), “Rheoliad 2018/631” (“Regulation 2018/631”), “Rheoliad 2019/66” (“Regulation 2019/66”), “Rheoliad 2019/478” (“Regulation 2019/478”), “Rheoliad 2019/530” (“Regulation 2019/530”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”), “Rheoliad 2019/625” (“Regulation 2019/625”), “Rheoliad 2019/626” (“Regulation 2019/626”), “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”), “Rheoliad 2019/628” (“Regulation 2019/628”), “Rheoliad 2019/723” (“Regulation 2019/723”), “Rheoliad 2019/1012” (“Regulation 2019/1012”), “Rheoliad 2019/1013” (“Regulation 2019/1013”), “Rheoliad 2019/1014” (“Regulation 2019/1014”), “Rheoliad 2019/1081” (“Regulation 2019/1081”), “Rheoliad 2019/1602” (“Regulation 2019/1602”), “Rheoliad 2019/1666” (“Regulation 2019/1666”), “Rheoliad 2019/1715” (“Regulation 2019/1715”), “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) a “Rheoliad 2019/1873” (“Regulation 2019/1873”), yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;;

(iii)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw “Rheoliad 2018/329”, “Rheoliad 2018/631”, “Rheoliad 2019/66”, “Rheoliad 2019/478”, “Rheoliad 2019/530”, “Rheoliad 2019/624”, “Rheoliad 2019/625”, “Rheoliad 2019/626”, “Rheoliad 2019/627”, “Rheoliad 2019/628”, “Rheoliad 2019/723”, “Rheoliad 2019/1012”, “Rheoliad 2019/1013”, “Rheoliad 2019/1014”, “Rheoliad 2019/1081”, “Rheoliad 2019/1602”, “Rheoliad 2019/1666”, “Rheoliad 2019/1715”, “Rheoliad 2019/1793” a “Rheoliad 2019/1873”;;

(b)ym mharagraff (6), yn lle “fel y diwygir unrhyw atodiad iddo” rhodder “fel y’i diwygir”.

5.  Yn rheoliad 5 (gorfodi), yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl, ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;

ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625;

ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad ac sydd wedi’i gymeradwyo neu wedi’i gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 148 o Reoliad 2017/625.

6.  Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

7.  Yn Atodlen 3A (gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(5)), ym mharagraff (d), yn lle “o dan Erthygl 5 o Reoliad 854/2004 fel y’i darllenir gyda phwynt 1 Rhan C o Bennod IX Adran IV o Atodiad I i’r Rheoliad hwnnw, eu harchwilio i weld a oes Trichinosis arnynt, yn digwydd yn y lladd-dy” rhodder “o dan Erthygl 18(2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gydag Erthygl 31 o Reoliad 2019/627, eu harchwilio i weld a oes Trichinella arnynt yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad 2015/1375”.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

8.  Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

9.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y diffiniad o “awdurdod cymwys”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

(ii)yn lle’r diffiniad sy’n dechrau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”” rhodder—

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Penderfyniad 2007/275” (“Decision 2007/275”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1668/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2018/329” (“Regulation 2018/329”), “Rheoliad 2018/631” (“Regulation 2018/631”), “Rheoliad 2019/66” (“Regulation 2019/66”), “Rheoliad 2019/478” (“Regulation 2019/478”), “Rheoliad 2019/530” (“Regulation 2019/530”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”), “Rheoliad 2019/625” (“Regulation 2019/625”), “Rheoliad 2019/626” (“Regulation 2019/626”), “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”), “Rheoliad 2019/628” (“Regulation 2019/628”), “Rheoliad 2019/723” (“Regulation 2019/723”), “Rheoliad 2019/1012” (“Regulation 2019/1012”), “Rheoliad 2019/1013” (“Regulation 2019/1013”), “Rheoliad 2019/1014” (“Regulation 2019/1014”), “Rheoliad 2019/1081” (“Regulation 2019/1081”), “Rheoliad 2019/1602” (“Regulation 2019/1602”), “Rheoliad 2019/1666” (“Regulation 2019/1666”), “Rheoliad 2019/1715” (“Regulation 2019/1715”), “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) a “Rheoliad 2019/1873” (“Regulation 2019/1873”), yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;;

(iii)yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” rhodder—

ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Pennod 5 o Deitl 2 o Reoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae ef ac y maent hwy yn gymwys i gynnyrch fel y’i diffinnir yn rheoliad 22;;

(iv)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625”;

(v)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw “Rheoliad 2018/329”, “Rheoliad 2018/631”, “Rheoliad 2019/66”, “Rheoliad 2019/478”, “Rheoliad 2019/530”, “Rheoliad 2019/624”, “Rheoliad 2019/625”, “Rheoliad 2019/626”, “Rheoliad 2019/627”, “Rheoliad 2019/628”, “Rheoliad 2019/723”, “Rheoliad 2019/1012”, “Rheoliad 2019/1013”, “Rheoliad 2019/1014”, “Rheoliad 2019/1081”, “Rheoliad 2019/1602”, “Rheoliad 2019/1666”, “Rheoliad 2019/1715”, “Rheoliad 2019/1793” a “Rheoliad 2019/1873”;;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Rheoliad 2017/625 neu unrhyw un o’r Rheoliadau UE ym mhecyn Rheoliad 2017/625”.

10.  Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”;

(c)hepgorer paragraff (5);

(d)ym mharagraff (6), yn lle “Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, mae’r dynodiad yn ymestyn o ran Erthygl 31(2)(a) i (e),” rhodder “Erthygl 148 o Reoliad 2017/625, mae’r dynodiad yn ymestyn”.

11.  Yn rheoliad 4 (cyfnewid a darparu gwybodaeth)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “Rheoliad 882/2004” rhodder “Rheoliad 2017/625”.

12.  Yn rheoliad 5 (sicrhau gwybodaeth)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle “gorff rheoli” rhodder “gorff dirprwyedig”, ac yn lle “corff rheoli”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “corff dirprwyedig”;

(ii)yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “corff rheoli” rhodder “corff dirprwyedig”, ac yn lle “gorff rheoli” rhodder “gorff dirprwyedig”.

13.  Yn rheoliad 6 (pŵer i ddyroddi codau o arferion a argymhellir)—

(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”.

14.  Yn rheoliad 12 (yr hawl i apelio), ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth)” rhodder “Erthygl 148(3) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth)”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn)” rhodder “Erthygl 148(4) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn)”;

(c)yn is-baragraff (c), yn lle “Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth)” rhodder “Erthygl 138(2)(j) o Reoliad 2017/625 (atal cymeradwyaeth neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl)”.

15.  Yn rheoliad 14 (staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall), yn lle “Erthygl 36 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 104(3) o Reoliad 2017/625”.

16.  Yn rheoliad 15 (arbenigwyr y Comisiwn), ym mharagraff (1)—

(a)yn lle “er mwyn galluogi’r arbenigydd hwnnw” rhodder “ac arbenigydd cenedlaethol, a benodwyd at ddibenion Erthygl 116(4) o Reoliad 2017/625, i ddod gydag arbenigydd y Comisiwn, ac er mwyn galluogi’r arbenigydd hwnnw o’r Comisiwn”;

(b)yn lle “Erthygl 45 o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 116 o Reoliad 2017/625”.

17.  Yn rheoliad 17 (gweithredu a gorfodi)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “corff rheoli” rhodder “corff dirprwyedig”;

(b)ym mharagraff (5)(b), ar ôl “un o arbenigwyr y Comisiwn” mewnosoder “, a phan fo hynny’n berthnasol, arbenigydd cenedlaethol, ”.

18.  Yn rheoliad 22 (dehongli’r Rhan hon o’r Rheoliadau hyn)—

(a)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd y mae eu mewnforio wedi’u rheoleiddio gan Erthygl 44 o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad yw’n ofynnol iddynt fod yn ddarostyngedig i wiriadau milfeddygol fel y darperir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC;;

(b)yn y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” yn lle “Reoliad 882/2004” rhodder “Reoliad 2017/625”;

(c)yn lle’r diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig” rhodder—

ystyr “darpariaeth fewnforio benodedig” (“specified import provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 2017/625 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 6 ac y disgrifir ei chynnwys yng Ngholofn 2 o’r Atodlen honno;.

19.  Yn rheoliad 23 (cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid a statws awdurdod cymwys)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19” rhodder “Rheoliad 2019/1793”;

(b)hepgorer paragraff (4).

20.  Yn rheoliad 24 (cyfrifoldebau gorfodi bwyd a statws awdurdod cymwys)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19” rhodder “Rheoliad 2019/1793”;

(b)hepgorer paragraff (4).

21.  Yn rheoliad 25 (swyddogaethau’r Comisiynwyr), yn lle “i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 ac Erthygl 10 o Reoliad 669/2009” rhodder “i awdurdodau tollau o dan Erthyglau 46, 57, 75 ac 76 o Reoliad 2017/625 ac Erthygl 4 o Reoliad 2019/1793”.

22.  Yn rheoliad 27 (gohirio gweithredu a gorfodi), ym mharagraff (6), yn lle “Erthygl 15(5) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 47(1)(d) a (2)(b) ac Erthygl 54(4) o Reoliad 2017/625”.

23.  Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “Erthygl 16 o Reoliad 882/2004”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a 45(1), (2) a (4) o Reoliad 2017/625”.

24.  Yn lle rheoliad 30 (atal dynodiad pwyntiau mynediad) rhodder—

Tynnu safleoedd rheoli ar y ffin yn ôl a’u hatal

30.(1) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod safle rheoli ar y ffin wedi peidio â chydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn Erthygl 64 o Reoliad 2017/625 a Rheoliad 2019/1014 caiff dynnu dynodiad y safle rheoli ar y ffin yn ôl ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

(2) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod yr amodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 63(1) o Reoliad 2017/625 yn gymwys caiff atal dynodiad y safle rheoli ar y ffin ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin ac os oes risg ddifrifol i iechyd pobl neu i iechyd anifeiliaid bydd atal y dynodiad yn cael effaith ar unwaith.

(3) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (2), mae’r safle rheoli ar y ffin yn peidio â bod yn safle rheoli ar y ffin dynodedig i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw hyd nes y caiff yr ataliad ei ddiddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw a gyflwynir gan yr Asiantaeth i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

(4) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni ei bod yn rhesymol tynnu’r dynodiad yn ôl neu ei atal am resymau heblaw’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) caiff wneud hynny ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

25.  Yn rheoliad 31 (cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthyglau 46, 65 i 69, 71, a 72 o Reoliad 2017/625”;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mae’r mesurau a gymerir gan yr awdurdod gorfodi o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn unol â pharagraff (1) i’w cymryd ar draul y gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

26.  Yn lle rheoliad 32 (hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 a 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)) rhodder—

Hysbysiadau mewn perthynas â mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd

32.(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 65, 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

(2) Cyn rhoi gorchymyn i’r gweithredydd i weithredu yn unol ag Erthygl 66(3)(a), (b) neu (c), rhaid i’r swyddog gorfodi wrando ar y gweithredydd hwnnw fel y darperir ym mhedwerydd is-baragraff Erthygl 66(3) o Reoliad 2017/625 oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.

(3) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o’r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

27.  Yn lle rheoliad 36 (costau a ffioedd) rhodder—

Costau a ffioedd

36.(1) Mae’r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd y mesurau y mae’r gweithredydd yn atebol amdanynt o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.

(2) Mae’r costau rheolaethau swyddogol a gweithgareddau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 80 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.

28.  Hepgorer rheoliad 43 (treuliau sy’n deillio o reolaethau swyddogol ychwanegol).

29.  Hepgorer rheoliad 44 (treuliau sy’n deillio o gymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn).

30.  Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

31.  Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 882/2004 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

32.  Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 882/2004 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol), rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.

33.  Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig), rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011

34.  Mae Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

35.  Yn rheoliad 7 (treuliau sy’n tarddu o reolaethau swyddogol)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 27(1) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 80 o Reoliad 2017/625”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “Erthygl 54(5) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 138(4) o Reoliad 2017/625”;

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Ym mharagraffau (1) a (2) ac yn rheoliad 8(3), ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.

36.  Yn rheoliad 8 (hysbysiadau a gweithredoedd mewn achos o anghydymffurfiaeth), ym mharagraff (3)(b), yn lle “Erthygl 54(2) a (5) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 138(2) a (4) o Reoliad 2017/625”.

37.  Hepgorer rheoliad 10 (atal dros dro ddynodiad man cyflwyno cyntaf).

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

38.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(3), yn Atodlen 2, yn Rhan 2, ym mharagraff 3, yn lle “labordy rheoli swyddogol o dan Reoliad 882/2004” rhodder “labordy swyddogol o dan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

39.  Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

40.  Yn rheoliad 15 (gweithdrefn mewn perthynas â samplau ar gyfer eu dadansoddi)—

(a)yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c)anfon rhan arall—

(i)at y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw; neu

(ii)at y person a gynigiodd y deunydd i’w werthu drwy gyfrwng cyfathrebu o bell os archebwyd y deunydd oddi wrth berson o’r fath, neu at asiant y person hwnnw; a;

(b)yn lle paragraff (4)(a) a (b) rhodder—

(a)y person y samplwyd y deunydd yn ei fangre, neu at asiant y person hwnnw;

(b)y person a gynigiodd y deunydd i’w werthu drwy gyfrwng cyfathrebu o bell os archebwyd y deunydd oddi wrth berson o’r fath, neu at asiant y person hwnnw; ac

(c)os anfonwyd rhan o’r sampl o dan baragraff (2), at y person yr anfonwyd y rhan honno ato.

41.  Yn rheoliad 33 (atebolrwydd am wariant)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 54(5) (camau gweithredu mewn achos o beidio â chydymffurfio) o Reoliad 882/2004” rhodder “Erthygl 138(4) (camau gweithredu mewn achos o beidio â chydymffurfio) o Reoliad 2017/625”;

(b)hepgorer paragraff (2).

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources