Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 24

ATODLEN 1

PART 1Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheoleiddiedig

1.  Prawf o bwy yw’r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, â’r wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

3.  Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

4.  Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

5.  Pan fo person wedi gweithio’n flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o’r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu’r swydd i ben.

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7.  Pan fo’n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.

8.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

9.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu eiriolaeth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i’w darparu ar eu cyfer.

10.  Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff o’r fath.

PART 2Dehongli Rhan 1

11.  At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

(a)os nad yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 24(3) neu (6); a

(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers i’r dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

Rheoliad 31

ATODLEN 2Y cofnodion sydd i’w cadw

1.  Mewn cysylltiad â phob unigolyn, cofnodion o—

(a)cynlluniau eirioli a chynlluniau eirioli diwygiedig,

(b)gohebiaeth, adroddiadau a chofnodion mewn perthynas â’r materion y darperir eiriolaeth ar eu cyfer a’r canlyniad.

2.  Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu eiriolaeth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.

3.  Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.

4.  Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, cymwysterau a phrofiad y person,

(b)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person,

(c)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person,

(d)y dyddiadau y mae’r person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly,

(e)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi bob wythnos,

(f)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person,

(g)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

Rheoliad 32

ATODLEN 3Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

1.  Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

2.  Bod y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

3.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.

4.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

5.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

6.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

7.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

8.  Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

9.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

10.  Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

11.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.

12.  Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.

13.  Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff.

14.  Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

15.  Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

16.  Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

17.  Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.

18.  Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.

19.  Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2).

20.  Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009(3), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.

21.  Achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

Rheoliad 54

ATODLEN 4Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1.  Penodi rheolwr (gweler rheoliad 41).

2.  Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

3.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

4.  Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

5.  Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.

6.  Trefniadau interim pan fo’r rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.

7.  Bod rhywun arall ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.

8.  Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neu’n bwriadu peidio, â rheoli’r gwasanaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources