- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
11 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Chwefror 2019
Yn dod i rym
1 Ebrill 2019
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(3) (“Rheoliadau 1992”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 47(1) (traddodi i garchar), ar ôl “a billing authority” mewnosoder “in England”.
(3) Yn rheoliad 54 (atebolrwydd cyd ac unigol: gorfodi), yn lle paragraff (7) rhodder—
“(7) Where the Schedule 12 procedure has been used against two or more joint taxpayers in respect of an amount, a billing authority in England may, subject to paragraph (8), apply for a warrant of commitment at any time against one of them or different warrants may be applied for against more than one of them: but no such application may be made in respect of any of them who has not attained the age of 18 years.”
3.—(1) Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2 yn gymwys mewn achos pan fo awdurdod bilio yng Nghymru, cyn 1 Ebrill 2019, wedi gwneud cais i lys ynadon o dan reoliad 47 o Reoliadau 1992 am ddyroddi gwarant i draddodi’r dyledwr i garchar.
(2) Ond mewn achos o’r fath, ni chaiff awdurdod bilio yng Nghymru adnewyddu cais o dan reoliad 48(3) o Reoliadau 1992 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613) (“Rheoliadau 1992”).
Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 1992 i ddileu pŵer awdurdodau bilio yng Nghymru i wneud cais i lys ynadon am ddyroddi gwarant i draddodi dyledwr treth gyngor i garchar.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae unrhyw achosion pan fo awdurdod bilio yng Nghymru wedi gwneud cais am warant i draddodi cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau i gael eu trin o dan y cynllun a oedd yn gymwys cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym. Fodd bynnag, ni chaiff awdurdodau bilio yng Nghymru ddefnyddio’r pŵer yn rheoliad 48(3) o Reoliadau 1992 i adnewyddu cais ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1992 p. 14. Diwygiwyd adran 113 gan baragraffau 40, 52(1) a (2) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) ac adran 80(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Diwygiwyd paragraffau 1 ac 8 o Atodlen 4 gan baragraff 107 o Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 1992/613, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/3008, 1993/773, 1994/505, 2013/630 a 2014/600.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: