Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 233 (Cy. 52)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

12 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Chwefror 2019

Yn dod i rym

29 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d), 10(4), 11(3)(a)(iii) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(2);

ystyr “y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol” (“the Annual Returns Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017(3).

Diwygiadau i’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol

2.  Maeʼr Rheoliadau Datganiadau Blynyddol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.

Gwybodaeth arall

3.  Yn rheoliad 6, ar ôl “gwasanaeth cymorth cartref” mewnosoder “, gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli”.

Amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf

4.  Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—

Amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf

9A.(1) Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2020.

(2) Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2021.

(3) Os yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaethau a restrir ym mharagraffau (1) a (2), nid oes angen i ddatganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth mewn perthynas â’r gwasanaethau hynny sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (2) tan 2021.

Yr Atodlen

5.  Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5—

(a)yn is-baragraff (j), yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder y canlynol—

ond nid yw is-baragraffau (d), (e), (h) ac (i) yn gymwys os nad yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru ond i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.

Diwygiadau i’r Rheoliadau Cofrestru

6.  Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 i 11.

Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan ymgeisydd

7.  Yn rheoliad 3(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.

Yr wybodaeth sydd i’w darparu gan ddarparwr gwasanaeth i amrywio cofrestriad – adran 11(1)(a)(i) a (ii)

8.  Yn rheoliad 6(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.

9.  Yn rheoliad 7(c), yn lle “o fan” rhodder “mewn perthynas â man”.

Atodlen 1 – yr wybodaeth sy’n ofynnol am y gwasanaeth sydd i’w ddarparu

10.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 31 mewnosoder—

31A.  Yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man a bennir yn y cais.

Atodlen 2 – yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben

11.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(ea)yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli—

(i)enw’r gwasanaeth;

(ii)yr ardal y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi;

(iii)cyfeiriadau’r swyddfa neu’r swyddfeydd y darperir y gwasanaeth ohoni neu ohonynt;

(iv)cyfeiriadau unrhyw swyddfa arall neu unrhyw swyddfeydd eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth;.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

12 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Cofrestru”).

Mae rheoliad 6 (gwybodaeth arall) o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol wedi ei ddiwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, fel y’i pennir yn yr Atodlen, fel rhan o’u datganiad blynyddol.

Mae rheoliad 9A (amser ar gyfer cyflwyno’r datganiadau blynyddol cyntaf) wedi ei fewnosod i bennu’r flwyddyn y mae’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol i’w chyflwyno gan briod ddarparwyr gwasanaethau.

Mae paragraff 5 o’r Atodlen (gwybodaeth am staffio) wedi ei ddiwygio i wahaniaethu rhwng categorïau’r swyddi sydd wedi eu llenwi a’r swyddi gwag y mae’n ofynnol i briod ddarparwyr gwasanaethau eu cynnwys yn y datganiad blynyddol.

Mae Atodlen 1 (yr wybodaeth sy’n ofynnol am y gwasanaeth sydd i’w ddarparu) o’r Rheoliadau Cofrestru wedi ei diwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.

Mae Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben) wedi ei diwygio i gynnwys y darparwyr gwasanaethau hynny sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources