Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019

Y weithdrefn ar ôl ymchwiliad

22.—(1Ar ôl i ymchwiliad gau, rhaid i’r arolygydd arweiniol gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, a rhaid i’r adroddiad hwnnw gynnwys—

(a)ystyriaeth yr arolygydd arweiniol o’r cais neu’r cais i amrywio;

(b)yr ystyriaeth gan unrhyw arolygwr ychwanegol o’r materion sy’n ymwneud â’r cais neu’r cais i amrywio y mae’r arolygydd ychwanegol wedi ei gyfarwyddo i’w hystyried;

(c)casgliadau’r arolygydd arweiniol; a

(d)argymhellion yr arolygydd arweiniol, neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.

(2Pan fo asesydd wedi ei benodi, caiff yr asesydd, ar ôl i’r ymchwiliad gau, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r arolygydd mewn cysylltiad â’r materion y penodwyd yr asesydd i roi cyngor yn eu cylch.

(3Pan fo asesydd yn cyflwyno adroddiad yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r arolygydd atodi’r adroddiad hwnnw i’w adroddiad ei hun, a rhaid i’r arolygydd ddatgan yn yr adroddiad hwnnw i ba raddau y mae’n cytuno neu’n anghytuno ag adroddiad yr asesydd a, phan fo’r arolygydd yn anghytuno â’r asesydd, y rhesymau dros yr anghytuno hwnnw.

(4Wrth wneud eu penderfyniad, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig, unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a geir ar ôl i’r ymchwiliad gau.

(5Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i ymchwiliad gau—

(a)yn anghydweld ag arolygydd ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllir mewn casgliad a lunnir gan yr arolygydd, neu yr ymddengys iddynt hwy ei fod yn berthnasol i gasgliad o’r fath; neu

(b)yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru),

ac oherwydd hynny yn penderfynu anghytuno ag argymhelliad a wneir gan yr arolygydd arweiniol, ni chânt ddod i benderfyniad sy’n groes i’r argymhelliad hwnnw heb yn gyntaf hysbysu yn ysgrifenedig y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad eu bod yn anghytuno, a’r rhesymau dros hynny; a rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddynt hwy neu (os yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd, nad yw’n fater o bolisi Gweinidogion Cymru) ofyn am ailagor yr ymchwiliad.

(6Rhaid i’r personau hynny sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu’n gofyn am ailagor yr ymchwiliad o dan baragraff (5) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y sylwadau hynny neu’r archiadau hynny o fewn tair wythnos o ddyddiad hysbysiad Gweinidogion Cymru o dan y paragraff hwnnw.

(7Caiff Gweinidogion Cymru, fel y gwelant yn dda, beri i ymchwiliad gael ei ailagor, a rhaid iddynt wneud hynny os gofynnir iddynt wneud hynny gan y ceisydd neu awdurdod cynllunio cymwys o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (5) ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (6).

(8Pan fo ymchwiliad yn cael ei ailagor (pa un ai gan yr un arolygydd arweiniol neu gan arolygydd arweiniol gwahanol)—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir cyflwyno rhagor o dystiolaeth yn eu cylch;

(b)mae paragraffau (3) i (7) o reoliad 15 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn y paragraffau hynny yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir; ac

(c)mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai’r cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at y cyfarfod rhagymchwiliad yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir.