Hysbysu am benderfyniad
23.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon hysbysiad ysgrifenedig am eu penderfyniad ynghylch cais neu gais i amrywio, a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw, at—
(a)y ceisydd;
(b)pob person a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd; ac
(c)unrhyw berson arall a oedd wedi ymddangos gerbron yr ymchwiliad, sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu am y penderfyniad.
(2) Tybir bod hysbysiad ysgrifenedig am benderfyniad a’r rhesymau drosto wedi ei roi i berson at ddibenion y rheoliad hwn pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru a’r person wedi cytuno y caiff y penderfyniadau a’r rhesymau y mae’n ofynnol eu rhoi yn ysgrifenedig o dan y rheoliad hwn gael eu cyrchu yn hytrach gan y person hwnnw drwy wefan;
(b)y penderfyniad a’r rhesymau yn benderfyniad a rhesymau y mae’r cytundeb hwnnw yn gymwys iddynt;
(c)Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan; a
(d)y person yn cael ei hysbysu, yn y dull y cytunir arno am y tro rhwng y person hwnnw a Gweinidogion Cymru, am—
(i)cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan;
(ii)cyfeiriad y wefan; a
(iii)ymhle ar y wefan y gellir cyrchu’r penderfyniad a’r rhesymau, a sut y gellir eu cyrchu.
(3) Pan na fo copi o adroddiad yr arolygydd arweiniol wedi ei anfon gyda’r hysbysiad am y penderfyniad, rhaid i ddatganiad o gasgliadau’r arolygydd arweiniol ac unrhyw argymhellion a wneir ganddo fynd gyda’r hysbysiad, ac os nad yw person sydd â hawl i gael ei hysbysu am y penderfyniad wedi cael copi o’r adroddiad hwnnw, rhaid anfon copi ohono at y person hwnnw ar gais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(4) Yn y rheoliad hwn mae “adroddiad” yn cynnwys unrhyw adroddiad asesydd a atodir i adroddiad arolygydd ac adroddiad arolygydd ychwanegol a atodir i adroddiad yr arolygydd arweiniol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw ddogfennau eraill a atodir felly; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, o fewn chwe wythnos o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru, am gyfle i edrych ar unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff (3) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y cais o fewn pedair wythnos o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru.