Y weithdrefn yn dilyn dileu penderfyniad
24.—(1) Pan fo penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch cais neu gais i amrywio y cynhelir ymchwiliad mewn cysylltiad ag ef yn cael ei ddileu mewn achos gerbron unrhyw lys—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y personau a oedd â hawl i ymddangos a ymddangosodd gerbron yr ymchwiliad ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir rhagor o sylwadau mewn cysylltiad â hwy at ddibenion ystyried ymhellach y cais neu’r cais i amrywio;
(b)rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle i’r personau hynny gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddynt hwy mewn cysylltiad â’r materion hynny neu ofyn am ailagor yr ymchwiliad; ac
(c)caiff Gweinidogion Cymru, fel y gwelant yn dda, beri i’r ymchwiliad gael ei ailagor (pa un ai gan yr un arolygydd arweiniol neu arolygydd gwahanol).
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn peri i ymchwiliad gael ei ailagor—
(a)mae paragraffau (3) i (7) o reoliad 15 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn y paragraffau hynny yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir; a
(b)mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 10 yn gymwys mewn perthynas â’r ymchwiliad a ailagorir fel pe bai cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at y cyfarfod rhagymchwiliad yn gyfeiriadau at yr ymchwiliad a ailagorir.
(3) Rhaid i’r personau hynny sy’n cyflwyno sylwadau neu’n gofyn am ailagor yr ymchwiliad o dan baragraff (1)(b) sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael y sylwadau hynny neu’r archiadau hynny o fewn tair wythnos o ddyddiad y datganiad ysgrifenedig a anfonwyd o dan baragraff (1)(a).