Search Legislation

Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 349 (Cy. 83)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Gwnaed

22 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 11, 203(9) a (10) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 11 o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Gorchymyn Sefydlu” yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(2).

Newid ardaloedd ac enwau byrddau iechyd lleol

3.—(1Mae prif ardal llywodraeth leol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei throsglwyddo o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae’n rhan o ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf(3).

(2Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf wedi ei ailenwi, ac mae i’w alw, yn Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

(3Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi ei ailenwi, ac mae i’w alw, yn Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe.

(4Yn unol â hynny, yn lle Atodlen 1 i’r Gorchymyn Sefydlu rhodder yr Atodlen 1 newydd a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Yn yr erthygl hon, ystyr “prif ardal llywodraeth leol” yw’r brif ardal llywodraeth leol at ddibenion Deddf Llywodraeth Leol 1972(4).

Diwygiadau i Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009

4.—(1Yn Atodlen 4 i Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009(5) (y prifysgolion a gaiff enwebu aelod i fwrdd iechyd lleol), mae’r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn 2—

(a)yn rhes 2, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”;

(b)yn rhes 4, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”.

Diwygiadau i Reoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009

5.  Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009(6), yn y diffiniad o “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol”, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Diwygiadau i Orchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010

6.—(1Yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010(7) (enwau cynghorau iechyd cymuned ac ardaloedd byrddau iechyd lleol y sefydlir hwy ar eu cyfer), mae’r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn(8).

(2Yng ngholofn 1 (enwau cynghorau iechyd cymuned)—

(a)yn rhes 2, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe”;

(b)yn rhes 5, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg”.

(3Yng ngholofn 2 (ardaloedd byrddau iechyd lleol y sefydlir y cyngor iechyd cymuned ar eu cyfer)—

(a)yn rhes 2, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”;

(b)yn rhes 5, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”.

Diwygiadau i Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010

7.—(1Mae Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl yn Atodlen 1 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi yn aelodau o Gyngor gan y cyrff sy’n penodi)—

(a)yng ngholofn 1 (enw’r cyngor iechyd cymuned)—

(i)yn rhes 2, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe”;

(ii)yn rhes 5, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg”;

(b)yng ngholofn 2 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi gan awdurdodau lleol perthnasol)—

(i)yn rhes 2, yn lle “9” rhodder “6”;

(ii)yn rhes 5, yn lle “6” rhodder “9”;

(c)yng ngholofn 3 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi gan sefydliadau gwirfoddol)—

(i)yn rhes 2, yn lle “9” rhodder “6”;

(ii)yn rhes 5, yn lle “6” rhodder “9”;

(d)yng ngholofn 4 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi gan Weinidogion Cymru)—

(i)yn rhes 2, yn lle “18” rhodder “12”;

(ii)yn rhes 5, yn lle “12” rhodder “18”.

(3Yn y tabl yn Atodlen 2 (cynghorau iechyd cymuned ac ardaloedd awdurdod lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt), yng ngholofn 2 (ardaloedd awdurdod lleol)—

(a)yn rhes 2—

(i)hepgorer “i. Pen-y-bont ar Ogwr”, a

(ii)ailrifer gweddill y cofnodion “i. Castell-nedd Port Talbot” a “ii. Abertawe”;

(b)yn rhes 5, ar ôl “ii. Rhondda Cynon Taf” mewnosoder “iii. Pen-y-bont ar Ogwr”.

Diwygiadau i Reoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012

8.—(1Yn Atodlen 2 i Reoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012(10) (y ddarpariaeth ranbarthol a’r partneriaid iechyd meddwl lleol), mae’r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn 1 (ardaloedd yr awdurdodau lleol (neu’r rhannau ohonynt) a gymhwysir fel rhanbarthau)—

(a)yn rhes 3, hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;

(b)yn rhes 5, ar ôl “Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful” mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”.

(3Yng ngholofn 2 (y partneriaid iechyd meddwl lleol)—

(a)yn rhes 3—

(i)yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”, a

(ii)hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;

(b)yn rhes 5—

(i)ar ôl “Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful” mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”, a

(ii)yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”.

Diwygiadau i Reoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014

9.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014(11) (dehongli), yn y diffiniad o “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol”, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Diwygiadau i Reoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015

10.—(1Mae Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl yn Atodlen 1 (ardaloedd byrddau diogelu)—

(a)yng ngholofn 1 (enw’r ardal bwrdd diogelu)—

(i)yn rhes 2, yn lle “Cwm Taf” rhodder “Cwm Taf Morgannwg”;

(ii)yn rhes 6, yn lle “Bae’r Gorllewin” rhodder “Gorllewin Morgannwg”;

(b)yng ngholofn 2 (rhychwant yr ardal bwrdd diogelu)—

(i)yn rhes 2, ar ôl “Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful” mewnosoder “, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;

(ii)yn rhes 6, hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,”.

(3Yn y tabl yn Atodlen 2 (partneriaid arweiniol), yng ngholofn 1 (ardal bwrdd diogelu)—

(a)yn rhes 2, yn lle “Cwm Taf” rhodder “Cwm Taf Morgannwg”;

(b)yn rhes 6, yn lle “Bae’r Gorllewin” rhodder “Gorllewin Morgannwg”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

22 Chwefror 2019

Erthygl 3(4)

YR ATODLENYr Atodlen sydd i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i’r Gorchymyn Sefydlu

Erthyglau 3 a 4

ATODLEN 1Enwau Byrddau Iechyd Lleol a Phrif Ardaloedd Llywodraeth Leol y Sefydlir hwy ar eu cyfer

Colofn 1

Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3

Colofn 2

Prif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar eu cyfer

1 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin BevanBlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thor-faen
2 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf MorgannwgMerthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf
3 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r FroCaerdydd a Bro Morgannwg
4 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae AbertaweAbertawe a Chastell-nedd Port Talbot
5 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel DdaCeredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
6 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi CadwaladrConwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn newid ardaloedd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae hefyd yn newid eu henwau.

Mae prif ardal llywodraeth leol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei throsglwyddo o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae’n rhan o ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi ei ailenwi’n Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe ac mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf wedi ei ailenwi’n Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae diwygiadau sy’n rhoi effaith i’r newidiadau hyn wedi eu gwneud i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 a Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009.

Mae’r newidiadau i ardaloedd byrddau iechyd lleol yn cael yr effaith o newid ardal y Cynghorau Iechyd Cymuned perthnasol. Yn unol â hynny, mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 i adlewyrchu’r newidiadau i ardaloedd byrddau iechyd lleol. Yn ogystal, mae Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf wedi ei ailenwi’n Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg ac mae Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg wedi ei ailenwi’n Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe. Mae diwygiadau hefyd wedi eu gwneud i nifer aelodau’r Cynghorau hynny.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud diwygiadau i offerynnau statudol eraill sy’n codi o’r newidiadau a ddisgrifir uchod.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

Enw blaenorol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf oedd Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ond fe’i hailenwyd gan erthygl 2(b) o O.S. 2013/2918 (Cy. 286).

(4)

1972 p. 70. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).

(8)

O dan erthygl 4(2) o Orchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010, os yw ardal y bwrdd iechyd lleol a neilltuir ar gyfer cyngor iechyd cymuned yn cael ei hamrywio, mae ardal y cyngor iechyd cymuned i’w hamrywio yn unol â hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources