RHAN 1Rhagarweiniad
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw Rhannau 1 a 2 o’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y gosodir y Rheoliadau hyn.
(3) Daw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.