RHAN 2Diwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio
Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002
2.—(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16, hepgorer paragraff (dd).
(3) Hepgorer rheoliadau 18 a 18A.
(4) Yn Atodlen 3, paragraff 1, yn lle’r geiriau “ac unrhyw ddull adnabod, enw neu god penodol” rhodder “y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall”.
(1)
O.S. 2002/3188 (Cy. 304), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1913 (Cy. 156), 2011/1043, 2013/755 (Cy. 90), 2018/1216 (Cy. 249).