Mae Gweinidogion Cymru’n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a)mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);
(b)mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972();
(c)mewn perthynas â gweddill y Rheoliadau, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018().
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi () at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran—
(d)mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu();
(e)atal, lleihau a rheoli gwastraff().
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.