- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
18 Chwefror 2019
Gwnaed
4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 132(1) a (2) a 135 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Gweithlu Addysg fel sy’n ofynnol gan adran 132(4) o’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Cynulliad ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol (Cofrestru Athrawon Dros Dro o Wladwriaethau Ewropeaidd Perthnasol) (Cymru a Lloegr) 2009(3) wedi eu dirymu.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau 2005”, rhodder—
“ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(5)”.
(3) Yn rheoliad 3(1)(d), yn lle “Rheoliadau 2005”, rhodder “Rheoliadau 2015”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 4 o Atodlen 2, rhodder—
“4.—(1) Personau sydd â’r hawlogaeth, mewn perthynas â phroffesiwn athro neu athrawes ysgol, i ymarfer yn unol â Rheoliadau 2007 neu Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015, gan gynnwys yn unol ag—
(a)penderfyniad a wneir neu hawl a gronnir o dan Reoliadau 2007 neu Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015 cyn y diwrnod ymadael yn unol â pharagraff 40 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019(7);
(b)penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015 yn unol â pharagraff 44 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019; neu
(c)penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau 2007 yn unol â pharagraff 48 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Yn y paragraff hwn—
ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007(8);
ystyr “Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015” (“the 2015 European Union Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(9).”
(3) Ar ôl paragraff 4 o Atodlen 2, mewnosoder—
“4A.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), personau nas crybwyllir yn unrhyw baragraff arall o’r Atodlen hon ac sy’n meddu ar gymwysterau neu hyfforddiant proffesiynol ffurfiol sy’n caniatáu iddynt gael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol, neu ddilyn y proffesiwn hwnnw, mewn ysgol a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan y llywodraeth yn y wladwriaeth y dyfarnwyd y cymhwyster ynddi neu yr ymgymerwyd â’r hyfforddiant ynddi.
(2) Nid yw’r cymwysterau neu’r hyfforddiant proffesiynol a grybwyllir yn is-baragraff (1), ym marn Gweinidogion Cymru, yn sylweddol wahanol i’r cymwysterau neu’r hyfforddiant proffesiynol penodol sy’n ofynnol i gael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru neu i ddilyn y proffesiwn hwnnw.
(3) Nid yw personau yn destun unrhyw benderfyniad gan gorff, neu achosion gerbron corff sy’n cyfyngu neu a all gyfyngu ar allu person i addysgu mewn unrhyw wladwriaeth neu sydd wedi eu gwahardd fel arall rhag cael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol neu rhag dilyn y proffesiwn hwnnw.”
4.—(1) Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(1), yn lle “bodloni un neu fwy o’r amodau”, rhodder “bodloni’r amod a ganlyn”.
(3) Yn rheoliad 7(2), hepgorer “cyntaf”.
(4) Mae rheoliad 7(3) wedi ei ddirymu.
5.—(1) Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015(11) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a)hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;
(b)yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau”, rhodder—
“ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(12)”;”.
(3) Yn erthygl 3(1) hepgorer “at ddiben y Gyfarwyddeb”.
6.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 8 o Atodlen 2, rhodder—
“8. Person sy’n athro neu athrawes gymwysedig a ddaeth yn gymwysedig felly yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a chan baragraff 4 neu 4A o Atodlen 2 iddynt.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Maent hefyd wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau yn adrannau 132 a 135 o Ddeddf Addysg 2002.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i gydnabod cymwysterau athrawon yng Nghymru.
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol
2002 p. 32. Gweler adran 212(1) am ystyr “regulations”. Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 2009/3200, dirymwyd y Rheoliadau hyn o ran Lloegr gan O.S. 2012/1153.
O.S. 2005/1227 (Cy. 85), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1769 (Cy. 196).
O.S. 2015/2059, a ddiwygiwyd gan adran 211 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) ac Atodlen 19 iddi, O.S. 2016/696, 2016/1094, 2016/1030, O.S. 2018/838.
O.S. 2012/724 (Cy. 96), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2015/484 (Cy. 41).
O.S. 2007/2871, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2015/2059.
O.S. 2015/2059, a ddiwygiwyd gan adran 211 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) ac Atodlen 19 iddi, O.S. 2016/696, 2016/1094, 2016/1030, O.S. 2018/838.
O.S. 2015/2059, a ddiwygiwyd gan adran 211 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) ac Atodlen 19 iddi, O.S. 2016/696, 2016/1094, 2016/1030, O.S. 2018/838.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: