- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
5 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Mawrth 2019
Yn dod i rym
28 Mawrth 2019
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” (“plant passport authority”) yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 28 o’r Gorchymyn;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(3);
ystyr “gwaith adfer” (“remedial work”) yw unrhyw gamau a gymerir gan berson at ddibenion cydymffurfio â hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn;
mae i “gwiriad adnabod” yr ystyr a roddir i “identity check” gan Erthygl 13a(1)(b)(ii) o’r Gyfarwyddeb;
mae i “gwiriad dogfennol” yr ystyr a roddir i “documentary check” gan Erthygl 13a(1)(b)(i) o’r Gyfarwyddeb;
mae i “gwiriad iechyd planhigion” yr ystyr a roddir i “plant health check” gan Erthygl 13a(1)(b)(iii) o’r Gyfarwyddeb;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned(4);
ystyr “hysbysiad adfer” (“remedial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan erthygl 31(1) neu (4) neu 33(3) o’r Gorchymyn;
ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth o fewn yr ystyr a roddir i “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o’r Gyfarwyddeb, neu lwyth y mae gan arolygydd amheuaeth resymol ei fod yn lwyth o’r fath, o unrhyw un neu ragor o’r deunyddiau perthnasol a ganlyn y mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn gymwys iddynt—
rhisgl wedi ei wahanu o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 3 neu Ran B, paragraff 3 i’r Gorchymyn; neu
pren o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 4 neu Ran B, paragraff 1 i’r Gorchymyn, ac eithrio deunydd pecynnu pren a ddefnyddir mewn gwirionedd wrth gludo gwrthrychau o bob math;
mae i “man arolygu a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved place of inspection” yn erthygl 3 o’r Gorchymyn; ac
ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded i gynnal unrhyw weithgaredd y mae erthygl 38 neu 39 o’r Gorchymyn yn gymwys iddo.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn y Gorchymyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gorchymyn.
3.—(1) Mae ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy i Weinidogion Cymru.
(2) Mae’r ffi sy’n daladwy am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw wedi ei phennu yn Atodlen 1.
(3) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded (gan gynnwys cais i estyn neu amrywio trwydded), am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â chais am drwydded neu er mwyn monitro cydymffurfedd â thelerau ac amodau trwydded wedi ei phennu yn Atodlen 2.
(4) Rhaid i fewnforiwr llwyth a reolir dalu—
(a)yn achos gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir ar gyfer y math perthnasol o lwyth yn eitem 1 neu 2 o’r tabl yn Atodlen 3;
(b)yn achos gwiriad dogfennol mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 1 o’r tabl yn Atodlen 4;
(c)yn achos gwiriad adnabod mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 2 o’r tabl yn Atodlen 4.
(5) Pan fo gwiriad iechyd planhigion, ar gais mewnforiwr llwyth a reolir, yn cael ei gynnal ar y llwyth mewn man arolygu a gymeradwywyd, rhaid i’r mewnforiwr dalu’r ffi o £30 ar gyfer pob ymweliad a wneir gan arolygydd wrth gynnal y gwiriad iechyd planhigion yn y man arolygu a gymeradwywyd, yn ychwanegol at y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (4)(a).
(6) Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd mewn cysylltiad â llwyth a reolir.
4. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) 2006(5);
(b)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 2008(6);
(c)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 2009(7);
(d)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 2010(8).
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2019
Rheoliad 3(2)
Math o arolygiad | Ffi |
---|---|
Arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw— | |
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; | £37 |
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw | £9.25 |
Rheoliad 3(3)
Eitem | Math o gais neu arolygiad | Ffi |
---|---|---|
1 | Cais am drwydded | £305 |
2 | Cais i estyn neu amrywio trwydded gyda newidiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad gwyddonol neu dechnegol | £100 |
3 | Cais i estyn trwydded heb unrhyw newidiadau neu i estyn neu amrywio trwydded gyda newidiadau nad ydynt yn ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad gwyddonol neu dechnegol | £12 |
4 | Arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad ag eitem 1, 2 neu 3 neu er mwyn monitro cydymffurfedd â thelerau ac amodau trwydded— | |
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; | £37 | |
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw | £9.25 |
Rheoliad 3(4)(a)
Eitem | Disgrifiad o’r deunydd perthnasol mewn llwyth sy’n destun gwiriad iechyd planhigion | Uned | Ffi |
---|---|---|---|
1 | Rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif | Am bob llwyth | |
- hyd at 25000kg | £31.20 | ||
- am bob 1000kg ychwanegol neu ran ohono | £0.49 | ||
Hyd at uchafswm y ffi o £98 y llwyth | |||
2 | Pren (ac eithrio pren ar ffurf rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif) | Am bob llwyth | |
- hyd at 25000kg | £31.20 | ||
- am bob 1000kg ychwanegol neu ran ohono | £0.25 |
Rheoliad 3(4)(b) ac (c)
Eitem | Math o wiriad | Uned | Ffi |
---|---|---|---|
1 | Gwiriad dogfennol | Am bob llwyth | £7.20 |
2 | Gwiriad adnabod | Am bob llwyth | |
- am bob llwyth o hyd at 30m³ sy’n ffurfio rhan o’r llwyth a gynhwysir mewn un tryc, wagen reilffordd neu gynhwysydd cyffelyb | £7.20 | ||
- am bob swmplwyth o lai na 100m³ | £7.20 | ||
- am bob swmplwyth o 100m³ neu fwy | £14.40 |
Rheoliad 3(6)
Gwaith adfer | Ffi |
---|---|
Cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) gan arolygydd mewn cysylltiad â llwyth a reolir— | |
(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; | £37 |
(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw | £9.25 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) 2006 (O.S. 2006/2697) o ran Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1). Mae Erthygl 13d yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gasglu ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion a gynhelir ar lwythi penodol o bren, cynhyrchion pren a rhisgl wedi ei wahanu sy’n deillio o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (“llwythi a reolir”).
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ffioedd a ganlyn gael eu talu i Weinidogion Cymru—
(a)y ffioedd a bennir yn Atodlen 1 am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion o dan erthygl 28 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 (O.S. 2005/2517) (“y Prif Orchymyn”);
(b)y ffioedd a bennir yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â thrwyddedau y mae erthygl 38 neu 39 o’r Prif Orchymyn yn gymwys iddynt;
(c)y ffioedd a bennir yn Atodlen 3 a rheoliad 3(5) am wiriadau iechyd planhigion ar lwythi a reolir;
(d)y ffioedd a bennir yn Atodlen 4 am wiriadau dogfennol a gwiriadau adnabod ar lwythi a reolir;
(e)y ffioedd a bennir yn Atodlen 5 am gynnal neu am fonitro gwaith adfer gan arolygydd o dan y Prif Orchymyn mewn cysylltiad â llwythi a reolir.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cysoni’r ffioedd â’r rhai ar gyfer gweddill Prydain Fawr. Mae’r newidiadau fel a ganlyn—
(a)mae’r ffioedd am wiriadau iechyd planhigion yn codi o £26 i £31.20 am bob llwyth (ac o £0.20 i £0.25 am bob m3 ychwanegol sy’n fwy na 100m3 mewn perthynas â llwyth o bren ac eithrio pren ar ffurf naddion, sglodion neu flawd llif);
(b)mae’r ffioedd cyfradd is mewn perthynas â gwiriadau iechyd planhigion ar lwythi o Acer saccharum o Ganada ac Unol Daleithiau America wedi eu diddymu. O dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC, nid yw’r llwythi hyn bellach yn destun gwiriadau iechyd planhigion lefel is ac felly nid ydynt yn gymwys bellach ar gyfer ffioedd cyfradd is;
(c)mae’r ffioedd am wiriadau dogfennol yn codi o £6 i £7.20 am bob llwyth ac am wiriadau adnabod yn codi o £6 i £7.20 ac, ar gyfer swmplwythi o 100m3 neu fwy, o £12 i £14.40, am bob llwyth.
Fel arall, mae’r ffioedd yn aros yr un fath ag yn Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Adran Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
O.S. 2010/2690. O dan adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 (p. 8), fel y’i diwygiwyd gan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755), a pharagraff 43 o Atodlen 2 iddo, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys ar gyfer Cymru o ran gwarchod coed fforestydd a phren rhag ymosodiadau gan blâu.
1972 p. 68: diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan Ran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
O.S. 2005/2517; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2009/594, 2012/2707, 2013/755, 2013/2691 a 2014/2420 fel y’u cymhwysir yng Nghymru gan 2015/1723.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1920 (OJ Rhif L 271, 20.10.2017, t. 34).
O.S. 2006/2697, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/702, 2009/2956, 2010/2001, 2013/755.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: