32. Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt BV, Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, yr Iseldiroedd—
(a)a gyfansoddir o gwyr petrolewm mwynol (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a ffibr pren caled mâl (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c)sydd tua 320 o filimetrau o hyd, 90 o filimetrau o uchder ac 85 o filimetrau o led;
(d)sy’n pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.