Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

33.  Brics glo Ecoal (a farchnetir hefyd fel brics glo Homefire Ecoal a Supertherm 30), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300ºC;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd fel arfer yn 72 o filimetrau o hyd, 58 o filimetrau o led a 42 o filimetrau o uchder neu sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio sydd fel arfer yn 70 o filimetrau o hyd, 73 o filimetrau o led a 39 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 125 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.