- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 a, heblaw rheoliad 13(3)(c), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Chwefror 2019.
(2) Daw rheoliad 13(3)(c) i rym ar 12 Chwefror 2021.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ardal ddynodedig” (“designated area”) yw ardal a ddisgrifir felly yn rheoliad 16;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir yn arolygydd o dan reoliad 32 neu o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1);
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcing authority”) yw awdurdod lleol sy’n syrthio o fewn rheoliad 31;
ystyr “ceffyl” (“equine”) yw anifail carngaled, gwyllt, lled-wyllt neu ddof, o fewn y genws Equus o’r teulu Equidae, a chroesiadau rhwng anifeiliaid o’r fath;
ystyr “ceffyl gwyllt neu led-wyllt” (“wild or semi-wild equine”) yw ceffyl sy’n syrthio o fewn rheoliad 16(1);
mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2;
ystyr “corff dyroddi” (“issuing body”) yw corff dyroddi fel y cyfeirir at “issuing body” yn Erthygl 5(1);
mae i “cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 38;
mae i “cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 39;
ystyr “costau gorfodi” (“enforcement costs”) yw’r costau y mae’n ofynnol i berson eu talu o dan hysbysiad adennill costau gorfodi;
ystyr “dogfen adnabod” (“ID”) yw’r ddogfen adnabod at adnabod ceffyl yn unol â Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau hyn;
ystyr “Erthygl” (“Article”) yw Erthygl yn Rheoliad yr UE;
mae i “hysbysiad adennill costau gorfodi” (“enforcement costs recovery notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 40;
mae i “hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 38;
mae i “hysbysiad cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 39;
mae i “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 37;
mae i “milfeddyg swyddogol” yr ystyr a roddir i “official veterinarian” yn Erthygl 2;
ystyr “o fewn 24 awr” (“within 24 hours”) yw cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â’r amser—
y caiff yr wybodaeth ei chreu neu ei diwygio, at ddibenion rheoliad 15(1)(a); neu
y caiff y corff dyroddi gais Gweinidogion Cymru, at ddibenion rheoliad 15(1)(b),
ond heb gynnwys unrhyw amser nad yw’n rhan o ddiwrnod gwaith; ac at y diben hwn ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2);
mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “owner” yn Erthygl 2;
ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw—
y perchennog; neu
os nad y perchennog sy’n bennaf cyfrifol am y ceffyl o dan sylw o ddydd i ddydd, y ceidwad;
ystyr “Rheoliad yr UE” (“EU Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 dyddiedig 17 Chwefror 2015(3) yn gosod rheolau yn unol â Chyfarwyddebau’r Cyngor 90/427/EEC(4) a 2009/156/EC(5) o ran dulliau adnabod equidae, fel y’u diwygir o dro i dro;
mae i “trawsatebydd” yr ystyr a roddir i “transponder” yn Erthygl 2;
mae i “troseddwr” (“offender”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 35(1).
OJ Rhif L.59, 3.3.2015, t.1.
OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t. 55. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC dyddiedig 15 Gorffennaf 2008 (OJ Rhif. L 219, 14.8.2008, t. 40).
OJ Rhif L 192, 23.7.2010, t. 1. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU dyddiedig 13 Mai 2013 (OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 234 a chan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1840 dyddiedig 14 Hydref 2016 (OJ Rhif L 280, 18.10.2016, t. 33).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: