Search Legislation

Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Darpariaethau a gofynion gweinyddol a gweithdrefnol

Awdurdod cymwys ac awdurdod sootechnegol at ddibenion Rheoliad yr UE

3.  Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys a’r awdurdod sootechnegol at ddibenion Rheoliad yr UE.

Trosglwyddo perchnogaeth ceffylau

4.—(1Rhaid i berson sy’n trosglwyddo perchnogaeth ceffyl i berson arall (y “trosglwyddai”) ddarparu dogfen adnabod y ceffyl hwnnw i’r trosglwyddai adeg y trosglwyddo.

(2Cyn diwedd y cyfnod o 30 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y trosglwyddiad i rym, rhaid i’r trosglwyddai—

(a)hysbysu’r awdurdod dyroddi—

(i)am drosglwyddiad y berchnogaeth; a

(ii)am enw, cyfeiriad a manylion cysylltu’r trosglwyddai; a

(b)anfon dogfen adnabod y ceffyl o dan sylw at y corff dyroddi.

Adnabod ceffylau

5.  Rhaid i berson beidio â chadw ceffyl oni bai bod y ceffyl wedi ei adnabod yn unol â Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau hyn.

Ceisiadau am ddogfennau adnabod

6.—(1At ddibenion Erthyglau 3(3) ac 11(2), rhaid i berchennog ceffyl a aned yn yr Undeb Ewropeaidd ac a leolir ar ddaliad yng Nghymru sicrhau bod cais am ddogfen adnabod i’r ceffyl hwnnw yn dod i law corff dyroddi heb fod yn hwyrach na 30 niwrnod cyn y dyddiad olaf ar gyfer dyroddi dogfen adnabod fel y’i nodir ym mharagraff (2).

(2Y dyddiad terfynol yw’r hwyraf o’r ddau hyn—

(a)31 Rhagfyr ym mlwyddyn galendr genedigaeth y ceffyl; neu

(b)6 mis ar ôl dyddiad geni’r ceffyl.

(3Rhaid anfon gyda’r cais unrhyw ffi a bennir gan y corff dyroddi y cyflwynir y cais iddo.

Cwblhau dogfennau adnabod presennol ceffylau a fewnforiwyd i’r Undeb Ewropeaidd

7.  Rhaid i’r ceidwad ddarparu i’r corff dyroddi yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol i ganiatáu i’r corff gwblhau dogfen adnabod bresennol at ddibenion Erthygl 15(2), yn ddarostyngedig i Erthygl 15(3), fel ei bod yn cydymffurfio â gofynion Erthygl 7(2).

Addasu manylion adnabod mewn dogfennau adnabod

8.  Os yw’r person cyfrifol yn credu bod angen i unrhyw fanylion adnabod a gynhwysir yn nogfen adnabod y ceffyl gael eu haddasu neu eu diweddaru, boed yn unol ag Erthygl 27(1) neu fel arall, rhaid i’r perchennog ofyn i’r corff dyroddi addasu’r ddogfen adnabod neu ei diweddaru.

Ffurf a chynnwys dogfennau adnabod

9.—(1Mae corff dyroddi—

(a)yn gorfod sicrhau bod unrhyw stoc o ddogfennau adnabod gwag a argraffwyd ymlaen llaw (“stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw”) y mae’n ei dal neu’n ei chadw;

(b)yn gorfod sicrhau bod unrhyw ddogfen adnabod y mae’n ei dyroddi o’r stoc wag hon a argraffwyd ymlaen llaw; ac

(c)yn cael sicrhau bod dogfen adnabod y mae’n ei dyroddi heblaw o stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw,

yn cydymffurfio â pharagraff (2).

(2At ddibenion paragraff (1), rhaid i’r ddogfen adnabod neu’r stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw gynnwys o leiaf rif cyfresol a argraffwyd ar bob un o’r tudalennau sy’n ffurfio adrannau I i III o’r ddogfen adnabod (fel y nodir yn Atodiad I i Reoliad yr UE).

(3Rhaid i gorff dyroddi sicrhau bod yr holl ddogfennau adnabod a’r holl stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw yn cael eu rheoli mewn modd diogel ar ei fangreoedd.

(4Os bydd dogfen adnabod neu unrhyw stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn, rhaid i’r corff dyroddi o dan sylw—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted â phosibl eu bod wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn; a

(b)gyda’r hysbysiad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), hysbysu Gweinidogion Cymru—

(i)am yr amgylchiadau ynglŷn â’r ffaith eu bod wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn; a

(ii)am rifau cyfresol y ddogfen adnabod neu’r stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw ac sydd o dan sylw.

(5At ddibenion Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir gydag Erthygl 10(3), ac yn ddarostyngedig i’r Erthygl honno, rhaid i’r corff dyroddi o dan sylw sicrhau bod adran IV (manylion perchnogaeth) dogfen adnabod wedi ei chwblhau cyn i’r ddogfen adnabod gael ei dyroddi o dan Erthygl 9.

(6Caiff dogfen adnabod neu unrhyw ran ohoni fod mewn iaith ychwanegol.

Dilysu dogfennau adnabod

10.  Os ceir cais gan Weinidogion Cymru, rhaid i gorff dyroddi ddilysu a yw dogfen adnabod a ddyroddwyd ganddo, neu y mae’n ymddangos ei bod wedi ei dyroddi ganddo, yn unigryw, yn wir ac yn ddilys.

Gofyniad i ddarparu dogfen adnabod i filfeddyg sy’n trin ceffyl

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os bydd milfeddyg yn trin ceffyl.

(2Os ceir cais rhesymol gan y milfeddyg, rhaid i’r person cyfrifol ddarparu dogfen adnabod y ceffyl i’r milfeddyg yn ddi-oed.

Cigydda ceffyl, marwolaeth ceffyl neu golli ceffyl

12.—(1Pan fo’n ofynnol, yn unol ag Erthygl 34(1)(c)(ii), i filfeddyg swyddogol, neu berson sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol, ddychwelyd dogfen adnabod sydd heb ei dilysu i’r corff dyroddi, rhaid i’r milfeddyg swyddogol, neu’r person sy’n gweithredu o dan ei oruchwyliaeth, ddychwelyd y ddogfen adnabod honno i’r corff dyroddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(2Pan fo’n ofynnol, yn unol ag Erthygl 35(1), i geidwad ddychwelyd dogfen adnabod i’r corff dyroddi, rhaid i’r ceidwad ddychwelyd y ddogfen adnabod honno i’r corff dyroddi o fewn cyfnod o 30 niwrnod ar ôl marwolaeth y ceffyl neu ar ôl colli’r ceffyl.

Trawsatebyddion

13.—(1At ddibenion Erthygl 18(3), y cymhwyster gofynnol i’r person yr ymddiriedir ynddo i fewnblannu trawsatebydd yw aelodaeth o Goleg Brenhinol y Milfeddygon, ac yn y rheoliad hwn cyfeirir at y person hwnnw fel “milfeddyg”.

(2Rhaid i filfeddyg sy’n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl gymryd y mesurau a nodir yn Erthyglau 16 a 17(1) ar ran corff dyroddi.

(3At ddibenion Erthygl 18(5), rhaid i’r person cyfrifol drefnu bod milfeddyg yn mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl y bernir ei fod wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2) neu 43(1)—

(a)os bydd trawsatebydd a fewnblannwyd ac a gofnodwyd o’r blaen yn peidio â gweithredu;

(b)os bydd y ceffyl yn cyrraedd Cymru ar ôl mynd drwy ddull arall o ddilysu ei fanylion adnabod a awdurdodwyd gan Aelod-wladwriaeth arall o dan Erthygl 21; neu

(c)os yw’r ceffyl—

(i)heb fod yn syrthio o fewn is-baragraffau (a) neu (b);

(ii)heb gael trawsatebydd wedi ei fewnblannu eisoes i gydymffurfio â’r gofynion neu’r manylion ynglŷn â thrawsatebyddion a nodir yn Rheoliad yr UE neu Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 504/2008(1) dyddiedig 6 Mehefin 2008 yn gweithredu Cyfarwyddebau’r Cyngor 90/426/EEC a 90/427/EEC o ran dulliau adnabod equidae; a

(iii)wedi ei eni ar neu cyn 30 Mehefin 2009.

(4Rhaid i filfeddyg sy’n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl sicrhau bod y trawsatebydd yn dangos cod sy’n unigryw i’r trawsatebydd.

Cardiau clyfar

14.—(1Caniateir i geffyl y mae dogfen adnabod wedi ei dyroddi ar ei gyfer gael ei symud neu ei gludo yng Nghymru, neu i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, heb fod ei ddogfen adnabod gydag ef, os ceir cerdyn clyfar gydag ef sydd wedi ei ddyroddi yn unol ag Erthygl 25.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch ffurf cardiau clyfar.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “cerdyn clyfar” yr ystyr a roddir i “smart card” yn Erthygl 2.

Cronfeydd data

15.—(1Rhaid i gorff dyroddi ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r gronfa ddata ganolog—

(a)o fewn 24 awr ar ôl i’r wybodaeth gael ei chreu neu ei diwygio gan y corff—

(i)y manylion adnabod a ddisgrifir yn Erthygl 27(1);

(ii)yr wybodaeth a gofnodwyd yng nghronfa ddata’r corff dyroddi o dan Erthygl 38(1);

(b)o fewn 24 awr ar ôl cael cais gan Weinidogion Cymru, unrhyw wybodaeth arall (nad yw’n syrthio o fewn is-baragraff (a)) y mae’n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani mewn perthynas â dyroddi unrhyw ddogfen adnabod gan y corff dyroddi neu mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r corff dyroddi o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE.

(2Yn dilyn cais mewn ysgrifen gan gorff dyroddi, caiff Gweinidogion Cymru ymestyn yr amser pryd y mae’r corff dyroddi i ddarparu’r wybodaeth o dan baragraff (1) i’r gronfa ddata ganolog.

(3Rhaid i unrhyw estyniad amser o dan baragraff (2) gael ei hysbysu i’r corff dyroddi mewn ysgrifen.

(4At ddibenion Erthygl 40(1), rhaid i gorff dyroddi ymgorffori’r wybodaeth sy’n syrthio o fewn Erthyglau 28(e) a 38(1) yn y gronfa ddata ganolog.

(5Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff dyroddi ynghylch y gronfa ddata ganolog a sut i gofnodi gwybodaeth ynddi.

(6Caiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw ddata neu wybodaeth sy’n cael eu dal neu eu storio yn y gronfa ddata ganolog, neu sydd i’w dal neu i’w storio ynddi, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban ac, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “cronfa ddata ganolog” yw’r gronfa ddata a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag Erthygl 39.

(1)

OJ Rhif L 149, 7.6.2008, t. 3.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources