Search Legislation

Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Ceffylau sy’n byw o dan amodau gwyllt neu led-wyllt

Eithriadau mewn cysylltiad â cheffylau gwyllt neu led-wyllt penodol

16.—(1Mae’r rhanddirymiad yn Erthygl 13 yn gymwys mewn perthynas â cheffylau—

(a)a nodir yn y rhestrau a gedwir gan Gymdeithasau Gwella Merlod Mynydd Cymru; neu

(b)a nodir yn y rhestrau a gedwir gan Gymdeithas Merlod y Carneddau.

(2At ddibenion Erthygl 13, fel y’i darllenir gydag Erthygl 43(3), yr ardaloedd (“ardaloedd dynodedig”) a ddiffinnir gan Weinidogion Cymru ac sy’n cynnwys ceffylau gwyllt neu led-wyllt nad oes angen eu hadnabod â dogfennau adnabod tra byddant yn aros o fewn yr ardaloedd dynodedig yw’r ardaloedd hynny a hysbyswyd gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn ar 17 Medi 2009.

(3At ddibenion Erthygl 13(1), nid oes angen i geffylau gwyllt neu led-wyllt a drosglwyddir o dan oruchwyliaeth swyddogol o un o’r rhestrau a ddisgrifir ym mharagraff (1) i’r rhestr arall a ddisgrifir ym mharagraff (1) gael eu hadnabod â dogfennau adnabod.

(4Rhaid i geffylau gwyllt neu led-wyllt sy’n byw mewn ardal ddynodedig gael eu hadnabod â dogfen adnabod pan ddechreuir eu defnyddio at ddibenion domestig.

Gofyniad ynghylch dogfen adnabod a thrawsatebydd i geffylau gwyllt neu led-wyllt a drinnir â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol

17.  Os trinnir ceffyl gwyllt neu led-wyllt sydd heb ddogfen adnabod mewn ardal ddynodedig ag unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod gan y ceffyl ddogfen adnabod a’i fod yn cael ei fewnblannu â thrawsatebydd—

(a)yn unol â Rheoliad yr UE; a

(b)o fewn 30 niwrnod ar ôl y driniaeth.

Ceffylau gwyllt a lled-wyllt: gofyniad ynghylch dogfen adnabod i symud o ardal ddynodedig

18.  Yn ddarostyngedig i reoliad 19, ni chaiff y person cyfrifol symud ceffyl gwyllt neu led-wyllt sydd heb ddogfen adnabod allan o ardal ddynodedig.

Eithriad i’r gofyniad ynghylch dogfen adnabod: ceffylau gwyllt neu led-wyllt a symudir am resymau lles neu i’w cigydda

19.—(1Caiff y person cyfrifol symud ceffyl gwyllt neu led-wyllt allan o ardal ddynodedig heb ddogfen adnabod—

(a)os yw’r ceffyl yn cael ei symud allan o’r ardal ddynodedig dros dro ac am resymau lles; neu

(b)os yw’r ceffyl—

(i)yn llai na 12 mis oed a chanddo sêr deintyddol gweledol ar y blaenddannedd ochrol dros dro;

(ii)yn cael ei symud yn uniongyrchol o’r ardal ddynodedig y’i ganed ynddi i le i gael ei gigydda (boed ar gyfer ei fwyta gan bobl ai peidio);

(iii)heb gael ei drin o’r blaen ag unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol; a

(iv)â sticer a ddyroddwyd gan gorff dyroddi wedi ei osod arno cyn iddo ymadael â’r ardal ddynodedig, ac mae’n rhaid bod y sticer wedi ei farcio â rhif adnabod unigryw a’r dyddiad y cafodd ei osod ar y ceffyl.

(2Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod ceffyl sy’n syrthio o fewn paragraff (1)(b) yn cael ei gigydda o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad a welir ar y sticer.

Gofynion ynglŷn â cheffylau gwyllt neu led-wyllt 12 mis oed neu drosodd a symudir i’w cigydda

20.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geffyl gwyllt neu led-wyllt—

(a)sy’n 12 mis neu drosodd; a

(b)sy’n cael ei symud o ardal ddynodedig i le i gael ei gigydda (boed ar gyfer ei fwyta gan bobl ai peidio).

(2Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod gan y ceffyl (yn ychwanegol at ddogfen adnabod) sticer a ddyroddwyd gan gorff dyroddi wedi ei osod arno cyn iddo ymadael â’r ardal ddynodedig, ac mae’n rhaid bod y sticer wedi ei farcio â rhif adnabod unigryw a’r dyddiad y cafodd ei osod ar y ceffyl.

(3Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod ceffyl sy’n syrthio o fewn paragraff (1) yn cael ei gigydda o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad a welir ar y sticer.

Gofynion ynglŷn â cheffylau gwyllt neu led-wyllt a symudir heblaw i’w cigydda

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geffyl gwyllt neu led-wyllt sydd—

(a)o unrhyw oedran; a

(b)yn cael ei symud o ardal ddynodedig i le arall (y “cyrchnod crynhoi”) at ddiben heblaw cigydda.

(2Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod gan y ceffyl (yn ychwanegol at ddogfen adnabod) sticer a ddyroddwyd gan gorff dyroddi wedi ei osod arno cyn iddo ymadael â’r ardal ddynodedig, ac mae’n rhaid bod y sticer wedi ei farcio â rhif adnabod unigryw a’r dyddiad y cafodd ei osod ar y ceffyl.

(3Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod ceffyl sy’n syrthio o fewn paragraff (1) yn cyrraedd ei gyrchnod crynhoi o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad a welir ar y sticer.

(4Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod trawsatebydd yn cael ei fewnblannu yn y ceffyl cyn diwedd y cyfnod o 30 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r ceffyl yn cyrraedd y cyrchnod crynhoi.

(5Heblaw dros dro neu am resymau lles, rhaid i’r person cyfrifol sicrhau nad yw’r ceffyl yn cael ei symud allan o’r cyrchnod crynhoi nes bod y trawsatebydd wedi ei fewnblannu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources