Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/04/2019.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rhagolygol
Rheoliadau 2(1) a 23
1. Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
3. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
4. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
5. Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
7. Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
8. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
9. Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu cymorth i’r unigolion hynny y mae’r gweithiwr i ddarparu cymorth ar eu cyfer.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
10. Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
11. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 oʼr Atodlen hon—LL+C
(a)os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—
(i)os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 23(3) neu (6) (addasrwydd staff), a
(ii)os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;
(b)os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Rheoliadau 2(1) a 30
1. Mewn cysylltiad â phob unigolyn—LL+C
(a)enw llawn;
(b)dyddiad geni;
(c)a yw’r person—
(i)yn blentyn a all gael ei fabwysiadu, ei riant neu ei warcheidwad;
(ii)yn berson sy’n dymuno mabwysiadu plentyn;
(iii)yn berson mabwysiedig, ei riant, ei riant geni, ei gyn-warcheidwad neu berson perthynol;
(d)disgrifiad o’r cymorth y gofynnir amdano;
(e)disgrifiad o’r angen am gymorth ynghyd ag unrhyw asesiad o’r angen hwnnw;
(f)disgrifiad o’r cymorth a ddarperir;
(g)a ddarperir y cymorth ar ran awdurdod lleol o dan reoliadau a wneir o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002;
(h)cynlluniau gan gynnwys—
(i)cynlluniau cymorth mabwysiadu;
(ii)cynlluniau gofal a chymorth;
(iii)cynlluniau lleoliadau;
(i)adolygiadau o’r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (h).
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Cofnod o unrhyw ffioedd gan y darparwr gwasanaeth i unigolion am ddarparu cymorth ac unrhyw wasanaethau ychwanegol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
3. Cofnod o’r holl gwynion a wneir gan unigolion neu eu cynrychiolwyr neu gan bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gŵyn o’r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
4. Cofnod o’r holl bersonau sy’n gweithio yn y gwasanaeth, a hwnnw’n gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—LL+C
(a)enw llawn a chyfeiriad cartref;
(b)dyddiad geni;
(c)cymwysterau sy’n berthnasol i weithio gydag unigolion a phrofiad o wneud gwaith o’r fath;
(d)y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;
(e)a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu ac eithrio o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;
(f)y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth, y gwaith y mae’r person yn ei wneud a nifer yr oriau y mae’r person wedi ei gyflogi amdanynt bob wythnos;
(g)copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) y person;
(h)copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad â’r person;
(i)hyfforddiant y mae’r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwyliaeth ohono a’i arfarnu;
(j)cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person;
(k)cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 31
1. Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Pan fo’r darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
3. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
4. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
5. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
6. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
7. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
8. Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
9. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
10. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
11. Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
12. Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
13. Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff neu wirfoddolwr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
14. Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
15. Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
16. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
17. Unrhyw ddigwyddiadau sy’n atal, neu a allai atal, y darparwr rhag parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddiogel.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
18. Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
19. Unrhyw atgyfeiriad i’r GDG yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
20. Pan fo’r darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Meini Prawf Rhagnodedig a Darpariaethau Amrywiol) 2009(3), hysbysiad o’r drosedd a gyhuddir a’r man cyhuddo.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
21. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
22. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
23. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
24. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
25. Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
26. Marwolaeth, damwain neu anaf difrifol plentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
27. Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan asiantaeth fabwysiadu arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
28. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
29. Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
30. Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 3 para. 30 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
31. Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan asiantaeth fabwysiadu arall (os nas hysbyswyd fel yr asiantaeth leoli).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 3 para. 31 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
32. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 3 para. 32 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
33. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 3 para. 33 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
34. Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 3 para. 34 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
35. Unrhyw gŵyn ddifrifol ynghylch darpar fabwysiadydd a gymeradwywyd gan y gwasanaeth pan fo plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd hwnnw gan asiantaeth fabwysiadu arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 3 para. 35 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
36. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 3 para. 36 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
37. Marwolaeth plentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 3 para. 37 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
38. Unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 3 para. 38 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
39. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sy’n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan y gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 3 para. 39 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
40. Marwolaeth neu unrhyw ddamwain neu anaf difrifol a ddioddefir gan blentyn wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 3 para. 40 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
41. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 3 para. 41 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
Rheoliad 53
1. Penodi rheolwr (gweler rheoliad 37(1)).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2. Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
3. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl iʼr absenoldeb ddechrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
4. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth iʼr 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrauʼr absenoldeb ddod i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
5. Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
6. Trefniadau interim pan foʼr rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
7. Bod rhywun ac eithrio’r rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoli’r gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
8. Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neuʼn bwriadu peidio, â rheoliʼr gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 29.4.2019, gweler rhl. 1(2)
2006 p. 47. Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod i’w benodi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: