Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person y mae ei gais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig wedi cael ei ganiatáu o dan adran 7(1) o’r Ddeddf;

ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(1);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli” (“the Advocacy Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(2);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion” (“the Adult Placement Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(3);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu” (“the Adoption Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(4);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” (“the Fostering Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(5);

ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.

Troseddau o dan y Ddeddf

3.  Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 47 (gwneud datganiadau anwir) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol(6).

4.  Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 48 (methiant i gyflwyno datganiad blynyddol) neu 49 (methiant i ddarparu gwybodaeth) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol.

Troseddau o dan Reoliadau 2017

5.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2017 a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 1 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 1 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 1.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu

6.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 2 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 2.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion

7.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 3 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 3 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 3.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli

8.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 4 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion rheoliad 12.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 4 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 4.

Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu

9.—(1Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 5 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.

(2Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 5 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.

(3Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 5.

Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb

10.—(1Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’w thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).

(2Mae adran 184 o’r Ddeddf(7) yn gymwys i hysbysiad cosb fel y mae’n gymwys i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Ddeddf.

Talu’r gosb

11.—(1Rhaid talu’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i Weinidogion Cymru drwy’r dull a bennir yn yr hysbysiad.

(2Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan, sy’n datgan i daliad cosb ddod i law neu na ddaeth i law erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn

12.  Pan fo derbynnydd yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei gychwyn yn erbyn y derbynnydd cyn diwedd y cyfnod talu.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

13.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o’r tynnu’n ôl i’r derbynnydd—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu—

(i)na ddylai fod wedi cael ei roi, neu

(ii)na ddylai fod wedi cael ei roi i’r person a enwir fel y derbynnydd; neu

(b)os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.

(2Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) pa un a yw’r cyfnod talu wedi dod i ben ai peidio, a pha un a yw’r gosb wedi cael ei thalu ai peidio.

(3Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw, i’r person a’i talodd.

(4Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (5), ni chaniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau yn erbyn derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1).

(5Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff (1)(b), caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb hwnnw mewn cysylltiad â hi os yw hysbysiad cosb pellach wedi cael ei roi mewn cysylltiad â’r drosedd ac nad yw’r gosb wedi ei thalu cyn diwedd y cyfnod talu.

Cynnwys hysbysiad cosb

14.—(1Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn drosedd y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhesymol ofynnol i roi gwybodaeth i’r derbynnydd amdani.

(2Rhaid i hysbysiad cosb ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y derbynnydd;

(b)swm y gosb;

(c)y cyfnod talu;

(d)y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau unrhyw atebolrwydd am y drosedd;

(e)y cyfnod pan na fydd achos yn cael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;

(f)y canlyniadau os na chaiff y gosb ei thalu cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben;

(g)y person y caniateir i’r gosb gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu ac y caniateir anfon unrhyw ohebiaeth am yr hysbysiad cosb iddo;

(h)y dulliau a ganiateir ar gyfer talu’r gosb;

(i)ar ba seiliau y caniateir i’r hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.

Cofnodion

15.  Rhaid i Weinidogion Cymru gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)copi o bob hysbysiad cosb a roddir;

(b)cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;

(c)manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;

(d)manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.

Dirymu

16.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017(8) wedi eu dirymu.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Ebrill 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources