- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Mai 2019.
2.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2019.
(3) Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs o’r fath os yw’r cwrs yn un y mae statws y myfyriwr wedi trosglwyddo mewn perthynas ag ef o dan reoliad 6 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(1) (“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017”).
(4) Am ddarpariaeth ynghylch cymorth a ddarperir i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs—
(a)y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, neu
(b)sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019,
gweler Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017.
3.—(1) Mae’r Rhannau sy’n weddill o’r Rheoliadau hyn wedi eu trefnu fel a ganlyn.
(2) Mae Rhan 3 yn cyflwyno 2 Atodlen—
(a)Atodlen 1, sy’n cynnwys darpariaethau ynghylch dehongli termau allweddol penodol;
(b)Atodlen 4, sy’n cynnwys mynegai o’r termau sydd wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn.
(3) Mae 2 Bennod i Ran 4, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch y cysyniadau allweddol sy’n penderfynu ar gymhwystra i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch penderfynu a yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn ac felly yn gwrs y caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef;
(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff myfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig fod yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth weinyddol ynghylch—
(a)ceisiadau am gymorth o dan y Rheoliadau hyn;
(b)gofynion a osodir ar geiswyr a myfyrwyr cymwys i ddarparu gwybodaeth;
(c)contractau ar gyfer benthyciadau y gwneir cais amdanynt o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cymorth grant sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)yr amodau cymhwyso y mae rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn cymhwyso i gael grant;
(b)swm y grant sydd ar gael.
(6) Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cymorth benthyciad sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)yr amodau cymhwyso y mae rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn cymhwyso i gael benthyciad;
(b)swm y benthyciad sydd ar gael.
(7) Mae 3 Pennod i Ran 8 ynghylch taliadau, gordaliadau ac adennill gordaliadau, yn benodol—
(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i daliadau gael eu gwneud ar sail penderfyniadau dros dro;
(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu grantiau a benthyciadau, gan gynnwys darpariaeth ynghylch pryd y caniateir i daliadau gael eu gwneud a’r gofynion sydd i’w bodloni cyn y gwneir taliadau;
(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch gordaliadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n pennu’r hyn sy’n ordaliad a sut y caniateir i ordaliad gael ei adennill.
(8) Mae Rhan 9 yn nodi cyfyngiadau ar dalu benthyciadau, gan gynnwys darpariaeth sy’n—
(a)cyfyngu ar dalu benthyciad os yw’r myfyriwr yn methu â darparu rhif Yswiriant Gwladol;
(b)cadw taliad benthyciad yn ôl os yw’r myfyriwr yn methu â darparu gwybodaeth benodol y gofynnir amdani.
(9) Mae Rhan 10 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017.
4.—(1) Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli termau allweddol penodol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Mae Atodlen 4, sef yr Atodlen olaf i’r Rheoliadau hyn, yn cynnwys y mynegai o dermau wedi eu diffinio.
5. Yn y Rheoliadau hyn (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”)), mae cwrs yn gwrs dynodedig—
(a)os yw’n bodloni pob un o’r amodau yn rheoliad 6, a
(b)os nad yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 7.
6.—(1) Yr amodau yw—
Mae’r cwrs yn un—
(a)sy’n arwain at ddyfarndal sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2), a
(b)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.
Mae’r cwrs yn un o’r canlynol—
(a)cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd, neu
(b)cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen pedair blynedd academaidd.
Mae’r cwrs wedi ei ddarparu gan—
(a)sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad sydd o fewn neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu
(b)sefydliad Seisnig cofrestredig ar ran darparwr cynllun Seisnig.
Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion Amod 3—
(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn—
(i)sefydliad a gyllidir gan Gymru,
(ii)sefydliad a gyllidir gan yr Alban,
(iii)sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon,
(iv)sefydliad rheoleiddiedig Seisnig,
(v)sefydliad Seisnig cofrestredig, neu
(vi)darparwr cynllun Seisnig,
os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn sefydliad o’r fath;
(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond am ei fod yn cael arian oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch fel sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) a (3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3).
7. Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion—
(a)rheoliad 5 neu 83 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(4) (“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017”);
(b)rheoliad 5 neu 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(5) (“Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018”);
(c)rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(6) (“Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol 2018”).
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs i’w drin fel pe bai’n gwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs dynodedig, oni bai am y pennu.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu pennu cwrs a wneir o dan baragraff (1).
9.—(1) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—
(a)os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2, a
(b)os nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person.
(2) Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr cymwys ar unrhyw un adeg.
10.—(1) Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Mae P wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad.
Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.
Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael cymorth.
Mae P yn garcharor, oni bai bod P yn garcharor cymwys.
Mae P wedi ymrestru ar gwrs sy’n gwrs dynodedig o dan—
(a)rheoliad 5, 66 neu 83 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;
(b)rheoliad 5 o Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr 2018 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;
(c)rheoliad 4 o Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw;
(d)rheoliad 4 o Reoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol 2018 ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hynny ar gyfer y cwrs hwnnw.
Mae P eisoes wedi cael cymhwyster cyfatebol neu uwch.
Mae P eisoes wedi ymrestru ar gwrs dynodedig ac yn cael cymorth o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y cwrs hwnnw.
Mae P wedi cael cymorth yn flaenorol mewn cysylltiad â chwrs—
(a)o dan y Rheoliadau hyn,
(b)o dan Reoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017, neu
(c)ar ffurf benthyciad a ddarparwyd o gronfeydd a ddarperir gan awdurdod llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig.
Ond caiff P fod yn fyfyriwr cymwys er gwaethaf yr eithriad hwn os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd P wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol anorchfygol.
Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—
(a)bwrsari gofal iechyd;
(b)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(7);
(c)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(8) ac eithrio i’r graddau y mae P yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;
(d)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(9) ac eithrio i’r graddau y mae P yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio;
(e)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal a wneir o dan Gynllun KESS 2.
Mae’r cwrs dynodedig yn gwrs dysgu o bell ac nid yw P yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys pan—
(a)bo P neu berthynas agos i P yn aelod o’r lluoedd arfog,
(b)na fo P yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf, ac
(c)na fo P yng Nghymru ar y diwrnod hwnnw oherwydd bod P neu’r berthynas agos yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i Gymru.
Mae P yn 60 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig.
(2) Yn Eithriadau 1 a 2, ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o’r ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(3) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond arfer eu disgresiwn o dan Eithriad 8 unwaith mewn cysylltiad â myfyriwr penodol.
11.—(1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â rheoliad 12 neu 13.
(2) Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.
12.—(1) Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—
(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 17, neu
(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.
(2) Pan—
(a)bo cwrs dynodedig myfyriwr cymwys (“P”) yn gwrs dysgu o bell, a
(b)bo P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
mae cyfnod cymhwystra P yn terfynu ar ddechrau’r diwrnod cyntaf pan fydd P yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo P yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell y tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd bod P neu berthynas agos i P yn gwasanaethu fel aelod o’r lluoedd arfog.
13.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael cymorth.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan y Rheoliadau hyn, neu
(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth neu swm y cymorth hwnnw.
14. Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan reoliad 12 neu 13 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
15. Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 16(1) yn digwydd yn ystod cwrs myfyriwr, caiff myfyriwr gymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, ar yr amod bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r darpariaethau gwneud cais a nodir yn Rhan 5.
16.—(1) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—
(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(ii)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn UE;
(iv)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
(v)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 2;
(vii)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd;
(viii)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c)bod y myfyriwr yn cychwyn cwrs dynodedig ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs dynodedig am fod yr awdurdod academaidd perthnasol wedi caniatáu i’r myfyriwr gychwyn y cwrs ar y dyddiad dechrau diweddarach hwn.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 8(5) o Atodlen 2);
“ffoadur” (“refugee”);
“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);
“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);
“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);
“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);
“plentyn” (“child”);
“rhiant” (“parent”).
17.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys (“P”) yn trosglwyddo o gwrs dynodedig i gwrs dynodedig arall (“y cwrs newydd”), rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i’r cwrs newydd—
(a)os ydynt yn cael cais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,
(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler paragraff (2)), ac
(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi terfynu.
(2) Y seiliau dros drosglwyddo yw—
(a)bod P, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu
(b)bod P yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig mewn sefydliad arall.
(3) Pan fo P yn trosglwyddo o dan baragraff (1), mae hawlogaeth gan P, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y cymorth, os oes unrhyw swm yn weddill, yn unol â rheoliad 33 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 36, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P yn trosglwyddo ohono.
18.—(1) Nid yw person yn cymhwyso i gael cymorth fel myfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â’r cwrs hwnnw.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru,
(b)dod gydag unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru,
(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 19, a
(d)datgan a yw’r person yn gwneud cais am—
(i)grant sylfaenol,
(ii)grant cyfrannu at gostau,
(iii)benthyciad cyfrannu at gostau, neu
(iv)unrhyw gyfuniad o’r uchod.
19.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gais o dan reoliad 18(1) neu gais i ddiwygio swm y benthyciad o dan reoliad 31(4) gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o flwyddyn academaidd olaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, na ddylai’r terfyn amser fod yn gymwys ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i’r cais i ddiwygio’r swm gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt yn ysgrifenedig.
20.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais o dan reoliad 18.
(2) Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais o dan reoliad 18 (gweler rheoliad 32 am ddarpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).
(4) Caniateir i benderfyniad ar gais a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—
(a)cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu
(b)rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais o dan reoliad 18.
(6) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
(a)a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys,
(b)os felly, a yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth mewn perthynas â’r cwrs dynodedig,
(c)os yw’r myfyriwr yn cymhwyso, gategori’r cymorth y mae’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael a’r swm sy’n daladwy,
(d)yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.
21.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo person (“P”) yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliad 18,
(b)pan na fo unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth a ddarperir gan P yn y cais, neu mewn cysylltiad ag ef, yn sylweddol anghywir, ac
(c)pan fo P yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 20(5) sy’n datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, er bod yr hysbysiad yn datgan yn anghywir fod P yn fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn, drin P fel pe bai’n fyfyriwr cymwys.
22.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru—
(a)at ddibenion penderfynu—
(i)cymhwystra myfyriwr;
(ii)a yw myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth;
(iii)y math o gymorth a swm y cymorth sy’n daladwy i fyfyriwr;
(iv)a yw gordaliad wedi cael ei wneud i fyfyriwr;
(b)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag adennill gordaliad;
(c)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad;
(d)at unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.
(2) Caniateir i gais o dan baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld—
(a)ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,
(b)ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu
(c)ei dystysgrif geni.
(3) Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys, rhaid i’r myfyriwr roi gwybod i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.
(4) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cael ei atal dros dro ohono, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;
(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);
(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’i gwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs—
(i)am fwy na 60 niwrnod oherwydd salwch, neu
(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(f)bod y manylion a ganlyn, sef—
(i)cyfeiriad cartref y ceisydd neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,
(ii)rhif ffôn cartref y ceisydd neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu
(iii)cyfeiriad e-bost cartref y ceisydd neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,
yn newid;
(g)bod y ceisydd yn dod yn garcharor neu’n peidio â bod yn garcharor.
(5) Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—
(a)cais o dan reoliad 18;
(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan y Rheoliadau hyn,
yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.
(7) Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr cymwys ym mharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan reoliad 18 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr cymwys.
(8) Gweler rheoliad 13 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.
23.—(1) Ni chaiff myfyriwr cymwys gael benthyciad cyfrannu at gostau o dan y Rheoliadau hyn oni bai bod y myfyriwr yn ymrwymo i gontract ar gyfer y benthyciad â Gweinidogion Cymru.
(2) O ran y contract—
(a)rhaid iddo fod ar y ffurf ac ar y telerau, a
(b)caiff fod yn ofynnol iddo gael ei lofnodi yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig),
a bennir gan Weinidogion Cymru.
24. Grantiau sy’n cael eu rhoi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig yw’r grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau.
25. Swm y grant sylfaenol sydd ar gael i fyfyriwr cymwys yw £1,000.
26. Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant cyfrannu at gostau mewn perthynas â chwrs dynodedig oni bai bod y myfyriwr cymwys yn garcharor cymwys.
27.—(1) Uchafswm y grant cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys yw £5,885.
(2) Pan—
(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu
(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,
swm y grant cyfrannu at gostau yw £5,885.
(3) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cyfrannu at gostau, wedi ei ostwng £1 am bob £6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370.
(4) Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr cymwys yn £59,200 neu ragor, swm y grant cyfrannau at gostau sy’n daladwy yw £0.
28. Gweler Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.
29. Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—
(a)os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig,
(b)os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(10), neu yn rhinwedd yr adran honno, ac
(c)os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu
(ii)oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989(11)) mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.
30. Mae benthyciad cyfrannu at gostau yn fenthyciad sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig.
31.—(1) Cyfrifir swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys fel a ganlyn—
Uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i’r myfyriwr mewn cysylltiad â chwrs dynodedig.
Minws
Swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 27.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau yw £16,000.
(3) Pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at gostau, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig minws swm y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r carcharor cymwys o dan reoliad 25, a
(b)£16,000.
(4) Ac eithrio pan fo rheoliad 36(5) i (10) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—
(a)nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r symiau cymwys a nodir ym mharagraffau (2) a (3);
(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).
32. Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad dros dro ar gais a wneir o dan reoliad 18, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad sy’n seiliedig ar y penderfyniad hwnnw.
33.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu swm y grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau i fyfyriwr cymwys pan fo’n daladwy i’r myfyriwr.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw—
(a)naill ai fel cyfandaliad neu mewn rhandaliadau, a
(b)ar unrhyw adegau, ac mewn unrhyw fodd, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad bod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy drosglwyddiad electronig.
(4) Yn achos carcharor cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant sylfaenol a’r benthyciad cyfrannu at gostau y mae carcharor cymwys yn cymhwyso i’w cael i’r sefydliad y mae’r carcharor cymwys yn atebol i wneud taliad o’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig iddo neu i unrhyw drydydd parti y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol at ddiben sicrhau y telir y ffioedd hynny i’r sefydliad perthnasol.
34.—(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant neu’r benthyciad neu unrhyw randaliad o’r grant neu’r benthyciad y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael oni bai eu bod wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol gadarnhad (ar y ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru) o bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs dynodedig.
(2) Rhaid i’r awdurdod academaidd roi gwybod i Weinidogion Cymru ar unwaith a darparu manylion i Weinidogion Cymru os yw’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs dynodedig, yn cael ei atal dros dro neu ei ddiarddel ohono, neu os yw fel arall yn absennol.
(3) Nid yw myfyriwr cymwys i’w ystyried yn absennol o’i gwrs os nad yw’n gallu bod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw’r myfyriwr cymwys wedi bod yn absennol am fwy na 60 niwrnod.
35.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 34(2) neu o dan reoliad 22(3) mewn perthynas â digwyddiad a restrir yn rheoliad 22(4)(a) i (d), ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad pellach o’r grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau mewn cysylltiad â’r myfyriwr cymwys y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(2) Caniateir gwneud taliadau pellach er gwaethaf diffyg presenoldeb y myfyriwr os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’r taliadau hynny yn briodol o dan yr holl amgylchiadau yn ystod absenoldeb y myfyriwr.
(3) Os yw’r myfyriwr cymwys yn ailgychwyn y cwrs dynodedig, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru a rhoi manylion llawn am hyd ac achos yr absenoldeb blaenorol.
(4) Ar ôl ystyried hysbysiad y myfyriwr o dan baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru ailgychwyn unrhyw daliadau sy’n weddill o’r grant sylfaenol, y grant cyfrannu at gostau neu’r benthyciad cyfrannu at gostau o dan reoliad 33 os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau i’r taliad hwnnw gael ei wneud.
36.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael grant sylfaenol, grant cyfrannu at gostau neu fenthyciad cyfrannu at gostau yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)peidio â gwneud unrhyw daliad yn y dyfodol o’r grant cyfrannu at gostau,
(b)addasu taliad o’r grant sylfaenol a’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol neu daliadau yn y dyfodol o randaliadau’r grant sylfaenol a’r benthyciad cyfrannu at gostau, fel nad yw cyfanswm y cymorth a geir gan y myfyriwr cymwys yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 31(3), ac
(c)gwneud unrhyw daliadau yn y dyfodol o’r grant sylfaenol neu’r benthyciad cyfrannu at gostau, yn unol â rheoliad 33(4).
(3) Mae paragraffau (4) i (10) yn gymwys pan fo carcharor cymwys sy’n cael grant sylfaenol neu fenthyciad cyfrannu at gostau yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw daliadau o’r grant sylfaenol, y benthyciad cyfrannu at gostau a’r grant cyfrannu at gostau yn y dyfodol, os oes rhai, yn unol â rheoliad 33(2).
(5) Pan fo myfyriwr cymwys (“P”) yn peidio â bod yn garcharor cymwys caiff P, yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8) wneud cais am grant cyfrannu at gostau.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), cyfrifir swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—
pan fo—
G yn gyfwerth ag uchafswm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P yn unol â pharagraff (7);
T yn gyfwerth â chyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs dynodedig yn para;
R yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs dynodedig sy’n weddill pan fydd P yn peidio â bod yn garcharor cymwys.
(7) Uchafswm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P yw—
(a)£5,885 pan na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370;
(b)£5,885 wedi ei ostwng £1 am bob £6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370;
(c)£0 pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn £59,200 neu ragor.
(8) Ni chaiff swm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyriwr o dan baragraff (6) fod yn fwy nag £16,000 minws A, pan A yw swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr eisoes wedi ei gael pan fydd yn peidio â bod yn garcharor cymwys.
(9) Pan fo P yn peidio â bod yn garcharor cymwys caiff P, yn ddarostyngedig i baragraff (10), wneud cais i swm y benthyciad cyfrannu at gostau gael ei gynyddu.
(10) Cyfrifir yr uchafswm cynnydd ym menthyciad cyfrannu at gostau P y caiff P wneud cais amdano o dan baragraff (9) drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—
pan fo—
J yn gyfwerth ag £16,000 minws uchafswm y grant cyfrannu at gostau sy’n daladwy i P o dan baragraff (7);
F yn gyfwerth â swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae P yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;
T yn gyfwerth â chyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs dynodedig yn para;
R yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs dynodedig sy’n weddill pan fydd P yn peidio â bod yn garcharor cymwys.
37.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys wedi cael swm unrhyw grant neu unrhyw fenthyciad cyfrannu at gostau sy’n fwy na’r swm y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i’w gael o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
(2) Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at fyfyriwr cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth ond nad yw’n fyfyriwr cymwys neu nad yw’n fyfyriwr cymwys mwyach.
38.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.
(2) Mae taliad o grant sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno yn ordaliad os yw’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.
(3) Caniateir adennill gordaliad o grant drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
(4) Nid yw paragraff (3) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.
39.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad cyfrannu at gostau oddi wrth—
(a)y sefydliad neu’r trydydd parti a gafodd arian y benthyciad cyfrannu at gostau pan wnaed taliad i’r sefydliad hwnnw neu’r trydydd parti hwnnw, neu
(b)y myfyriwr a gafodd y benthyciad cyfrannu at gostau.
(2) Caniateir adennill gordaliad o fenthyciad cyfrannu at gostau oddi wrth fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—
(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw swm o’r benthyciad cyfrannu at gostau sy’n weddill i’w dalu;
(b)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant neu fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(c)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r benthyciad cyfrannu at gostau yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(d)drwy gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill i adennill y gordaliad sydd ar gael iddynt.
40.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad cyfrannu at gostau drwy ddull penodol.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol cael cytundeb ynghylch y dull ad-dalu o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gadw’n ôl unrhyw daliad o fenthyciad cyfrannu at gostau hyd nes bod y ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn a wnaed yn ofynnol.
41.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau neu unrhyw randaliad o’r benthyciad fod yn rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.
42.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan reoliad 22(1), at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad cyfrannu at gostau neu grant cyfrannu at gostau hyd nes bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’n darparu esboniad boddhaol dros beidio â gwneud hynny.
(2) Y dibenion yw—
(a)penderfynu a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael benthyciad;
(b)penderfynu ar swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr;
(c)unrhyw fater sy’n ymwneud â thalu benthyciad gan y myfyriwr.
43. Mae Rheoliadau Benthyciadau at Radd Feistr 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
44. Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddarparu benthyciadau at radd feistr ôl-raddedig i fyfyrwyr mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019 oni bai bod rheoliad 2(3) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 yn gymwys i’r cwrs.”
45. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(a)yn lle’r diffiniad o “ffioedd” rhodder—
“mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(12);”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
46. Yn rheoliad 4—
(a)yn lle paragraff (1)(b) rhodder—
“(b)os yw’n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a oedd yn cael ei gyllido’n gyhoeddus (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sefydliad arall o’r fath neu â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig);”;
(b)yn lle paragraff (3)(d) rhodder—
“(d)ni fernir bod sefydliad wedi cael ei gyllido’n gyhoeddus cyn 1 Awst 2019 dim ond am ei fod wedi cael arian o gronfeydd cyhoeddus cyn y dyddiad hwnnw gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; ac”.
47. Yn rheoliad 8 (digwyddiadau), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;”.
48. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 5 (personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
5A.—(1) Person—
(a)sy’n berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2019
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: