- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
14 Ionawr 2019
Gwnaed
21 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014(2), hepgorer rheoliad 10(6).
3.—(1) Mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, hepgorer paragraffau 5(2)(c) a 5(2)(d).
(3) Yn Atodlen 6—
(a)ym mharagraff 9(6), hepgorer “o drydedd wlad”;
(b)ym mharagraff 12(4), hepgorer “o drydedd wlad”;
(c)ym mharagraff 13(3), hepgorer “o drydedd wlad”;
(d)ym mharagraff 15—
(i)yn y pennawd, hepgorer “i drydydd gwledydd”;
(ii)yn is-baragraff (1), yn lle “i drydedd wlad brotein” rhodder “protein”;
(iii)yn is-baragraff (2), yn lle “i drydedd wlad gynhyrchion” rhodder “cynhyrchion”;
(iv)yn is-baragraff (3), yn lle “i drydedd wlad brotein” rhodder “protein”.
(4) Yn Atodlen 7—
(a)ym mharagraff 1, hepgorer “a osodir ar yr Aelod-wladwriaeth”;
(b)ym mharagraff 8(3)—
(i)ar ddiwedd paragraff (a), mewnosoder “neu”;
(ii)ar ddiwedd paragraff (b), yn lle “; neu” rhodder “.”;
(iii)hepgorer paragraff (c).
(c)ym mharagraff (9)(3)(b)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (i), mewnosoder “neu”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle “; neu” rhodder “.”;
(iii)hepgorer is-baragraff (iii);
(d)ym mharagraff 15, hepgorer “At ddibenion pwynt 10.1 a phwynt 10.2 o Atodiad V,”.
(5) Yn Atodlen 8—
(a)ym mharagraff 1, yn y pennawd ac yn is-baragraff (1), hepgorer “i drydydd gwledydd”;
(b)ym mharagraff 2, yn y pennawd ac yn is-baragraff (1), hepgorer “i drydydd gwledydd”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2019
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes iechyd anifeiliaid. Maent yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy’n gwneud darpariaeth i orfodi—
(a)Rheoliad Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (EC) Rhif 999/2001 sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol,
(b)Rheoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (EC) Rhif 1069/2009 sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynyhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta, ac
(c)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: