- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
31 Mai 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Mehefin 2019
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 52(1), 186 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2019 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
2. Yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006(2), yn lle “cynllun lleoli unigolyn” rhodder “cytundeb lleoli unigolyn”.
3. Yn rheoliad 4(b) o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010(3), yn lle “9(7)(a)” rhodder “9(7)”.
4. Yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019(4), yn lle “rheoliad 12” rhodder “adran 52(1) o’r Ddeddf”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
31 Mai 2019
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Gwnaed Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019 (O.S. 2019/237 (Cy. 56)) a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/887 (Cy. 159)) gan ddefnyddio pwerau yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“Deddf 2016”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1715 (Cy. 177)) a Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/746 (Cy. 75)) er mwyn cywiro mân wallau a wnaed i’r offerynnau hynny gan Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 er mwyn cywiro gwall croesgyfeirio yn rheoliad 8(1) o’r offeryn hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2016 dccc 2; gweler adran 189 am y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig”.
O.S. 2006/1715 (Cy. 177); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2016/216 (Cy. 85), 2019/237 (Cy. 56).
O.S. 2010/746 (Cy. 75); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2016/211 (Cy. 84), 2019/237 (Cy. 56).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: