- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Ar gyfer ceisiadau y mae paragraff 8(1)(a) ac (c) o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol yw—
(a)y ceisydd;
(b)unrhyw un neu ragor oʼr canlynol a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(3) o Atodlen 3—
(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a
(iv)pan foʼr fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.
(2) Yn achos cais a benderfynwyd o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yw—
(a)y ceisydd, a
(b)unrhyw un neu ragor oʼr canlynol, y rhoddwyd iddo hysbysiad, o dan baragraff 14(2) o Atodlen 3, o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais—
(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,
(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a
(iv)pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.
(3) Mae hysbysiad o apêl yn ddilys—
(a)os y’i cyflwynir gan berson a chanddo’r hawl i apelio o dan is-baragraff (1) neu (2),
(b)os y’i hanfonir at Weinidogion Cymru o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad oʼr penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person syʼn gwneud yr apêl, ac
(c)os yw’n cynnwys datganiad oʼr sail dros apelio nad yw’n golygu herio cyfreithlondeb na rhesymoldeb asesiad o anghenion fferyllol, na thegwch y broses a ddefnyddiodd y Bwrdd Iechyd Lleol i ymgymryd âʼr asesiad hwnnw.
7.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(1), anfon copi oʼr hysbysiad—
(a)at y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl,
(b)i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac
(c)at y rheini a hysbyswyd am y cais ac a gyflwynodd sylwadau arno o dan baragraff 8(3) o Atodlen 3.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(2), anfon copi oʼr hysbysiad—
(a)at y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl,
(b)i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac
(c)at y rheini y rhoddwyd iddynt hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 14(2) o Atodlen 3.
(3) Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod iʼr personau yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan y paragraff hwn—
(a)y cânt, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn âʼr apêl,
(b)am yr amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt, ac
(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, am y bwriad hwnnw.
8.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl a wnaed o dan baragraff 6, naill ai—
(a)caniatáuʼr apêl, neu
(b)cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Mewn achos pan foʼr fangre a bennir mewn cais, sydd yn destun apêl, mewn ardal reoledig—
(a)pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried pa un ai i osod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 3 neu reoliad 17(6)(b), caiff Gweinidogion Cymru eu hunain ystyried pa un ai i osod amodau i ohirio gwneud neu i ohirio terfynu trefniadau oʼr fath, am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn addas, neu
(b)pan na foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried pa un ai i osod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 17(6)(b), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai—
(i)ystyried eu hunain pa un ai i osod amodau, neu
(ii)anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl gwneud penderfyniad ar apêl, gan gynnwys gosod amodau o dan is-baragraff (2), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼu penderfyniad ynghyd âʼr rhesymau drosto iʼr personau hynny yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 7.
9. At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru yn dod yn benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y mater (ond nid yw apêl bellach i Weinidogion Cymru ar y penderfyniad hwnnw yn bosibl, oni chaiff penderfyniad Gweinidogion Cymru ei wrthdroi gan lys).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: