- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
9 Hydref 2020
Yn dod i rym
am 6.00 p.m. ar 10 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
12 Hydref 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 and a deuant i rym am 6pm ar 10 Hydref 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 1, ar ôl paragraff (p) mewnosoder—
“(q)yr ardal sy’n cynnwys yr adrannau etholiadol(3) a ganlyn yn sir Gwynedd—
(i)Deiniol;
(ii)Dewi;
(iii)Garth;
(iv)Glyder;
(v)Hendre;
(vi)Hirael;
(vii)Marchog;
(viii)Menai.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae’r diwygiad yn dynodi 8 ward etholiadol (y cyfeirir atynt mewn deddfwriaeth fel “adrannau etholiadol”) yn ardal Bangor yn ardal diogelu iechyd leol sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau a gofynion penodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/725 (Cy. 162), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/752 (Cy. 169), O.S. 2020/803 (Cy. 176), O.S. 2020/820 (Cy. 180), O.S. 2020/843 (Cy. 186), O.S. 2020/867 (Cy. 189), O.S. 2020/884 (Cy. 195), O.S. 2020/912 (Cy. 204), O.S. 2020/961 (Cy. 215), O.S. 2020/985 (Cy. 222), O.S. 2020/1007 (Cy. 224), O.S. 2020/1011 (Cy. 225), O.S. 2020/1022 (Cy. 227), O.S. 2020/1035 (Cy. 229), O.S. 2020/1040 (Cy. 230), O.S. 2020/1043 (Cy. 232), O.S. 2020/1049 (Cy. 235), O.S. 2020/1066 (Cy. 240) ac O.S. 2020/1079 (Cy. 242).
Pennwyd eu henwau a’u hardaloedd (ymhlith ardaloedd etholiadol eraill) gan Orchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002 (O.S. 2002/3274).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: