Search Legislation

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1182 (Cy. 267) (C. 33)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020

Gwnaed

28 Hydref 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Tachwedd 2020

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020—

(a)adran 5;

(b)adran 15;

(c)adran 37;

(d)adran 39;

(e)adrannau 45 a 46;

(f)adran 67;

(g)adran 74;

(h)adran 82.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Tachwedd 2020 at ddiben arfer pwerau

3.—(1Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion gwneud rheoliadau—

(a)adran 16;

(b)adran 21;

(c)adran 32;

(d)adran 36;

(e)adran 54;

(f)adran 56;

(g)adran 60;

(h)adran 65;

(i)adrannau 75 i 77;

(j)adran 83;

(k)adran 85;

(l)adrannau 91(2) a 92;

(m)adran 95;

(n)adran 96 a pharagraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) o’r Atodlen.

(2Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion dyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf—

(a)adran 4(3);

(b)adrannau 7 ac 8;

(c)adran 47.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Ionawr 2021

4.—(1Daw adrannau 61 a 62 o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021.

(2Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021 at bob diben sy’n weddill—

(a)adran 56(1);

(b)adran 56(4) i (6);

(c)adran 60.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

28 Hydref 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 yn dod i rym yn llawn ar 2 Tachwedd 2020. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth, darpariaethau dehongli a darpariaethau sydd fel arall yn gysylltiedig â’r pwerau hynny i wneud is-ddeddfwriaeth.

Mae’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 hefyd yn dod i rym ar y dyddiad hwnnw, ond dim ond at ddibenion gwneud rheoliadau, neu ddyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 4 yn dwyn i rym ar 4 Ionawr 2021 ddarpariaethau yn y Ddeddf sy’n gysylltiedig â dynodi swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n dwyn i rym hefyd, at bob diben sy’n weddill, ddarpariaethau sy’n gysylltiedig â’r rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr, y caiff awdurdod lleol sicrhau addysg neu hyfforddiant ynddynt ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

(2)

Mae diwygiadau i adran 91 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae diwygiadau i adran 4 a wnaed gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12), Atodlen 19, paragraff 226.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources