- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru fynd i Gymru neu aros yng Nghymru heb esgus rhesymol.
(2) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw yng Nghymru ymadael â Chymru heb esgus rhesymol.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn ymadael â Chymru neu’n mynd i Gymru at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys.
(4) Mae enghreifftiau o ddibenion y gall fod yn rhesymol ymarferol i berson fynd i Gymru neu ymadael â Chymru atynt yn cynnwys—
(a)ceisio neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos llys;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol;
(j)cael—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(k)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 3 neu 4 o Ran 1 o Atodlen 2 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(l)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
(5) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu gael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(d)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)athletwr elît ac yn hyfforddi ac yn cystadlu;
(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;
(g)teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar daith sy’n dechrau yng Nghymru ac yn gorffen yng Nghymru;
(h)teithio i gymryd rhan mewn cynulliad gydag aelwyd estynedig y person yn unol â rheoliad 4 neu 6(2)(b).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: