- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
22.—(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
(c)ar fferi—
(i)pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
(ii)pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
(d)ar long fordeithio;
(e)pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
(i)ar ei ben ei hunan, neu
(ii)gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
(f)pan—
(i)caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(ii)na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
(iii)bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
(g)ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;
(h)ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1));
(b)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(d)pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(e)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)cymryd meddyginiaeth;
(ii)bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
(f)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
(i)swyddog gorfodaeth, neu
(ii)gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
(5) Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
(a)cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
(b)hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: