- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
35.—(1) Mae person sydd—
(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 4(1), 6(1) neu (3), 7(1), 9(1) neu (2), 11(2), 12(2), 13(2), 14(2), 16, 22(1) neu 23(1), neu
(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 8(1), 11(3), 12(3), 13(3), 14(3), 19(1), 20(1) neu (2), neu 22(5),
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—
(a)o dan reoliad 11(3), 12(3), 13(3) neu 14(3), neu
(b)ynghylch—
(i)gwybodaeth gyswllt P, neu
(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,
pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—
(a)sy’n digwydd mewn annedd breifat,
(b)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac
(c)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 4(1),
yn cyflawni trosedd.
(4) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(5) Mae person sydd—
(a)heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 3,
(b)yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu
(c)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,
yn cyflawni trosedd.
(6) Mae person sydd, heb esgus rhesymol—
(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—
(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu
(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 30(2), neu
(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 28(1),
yn cyflawni trosedd.
(7) Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
(8) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
(9) Yn y rheoliad hwn, mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 4.
1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: