- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
24 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
1 Ionawr 2021
Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 2002(1) (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2020 a daw i rym ar 1 Ionawr 2021.
2. Nid yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009(3) yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng(4) ar Ffordd Gungrog, y Trallwng, Powys, SY21 7EJ.
3. Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith tan 31 Awst 2021.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 2002. Mae erthygl 2 yn darparu nad yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng. Bydd hyn yn caniatáu i’r corff llywodraethu wneud newidiadau i ba bryd y mae sesiynau’r ysgol yn dechrau ac yn dod i ben, gan gynnwys pa bryd y mae’r diwrnod ysgol yn dechrau ac yn dod i ben, o 1 Ionawr 2021 ymlaen, yn hytrach nag ar ddechrau tymor ysgol neu flwyddyn ysgol. Mae erthygl 3 yn pennu bod y Gorchymyn yn cael effaith tan 31 Awst 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
2002 p. 32. Mae adran 4(2) wedi ei diwygio gan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 p. 40, 16(1), paragraff 3(4)(a) a Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) O.S. 2010/1158, Atodlen 2(1), paragraff 11(2).
Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adrannau 1 i 5 yng Ngweinidogion Cymru gan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Rhif Cyfeirnod Unigryw’r Ysgol: 402408.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: