- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
25 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
4 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 60(4) a 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 98(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Ionawr 2021.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ac nid yw’n cynnwys person sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro o dan adran 9(5) o’r Ddeddf honno;
ystyr “cydlynydd anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs co-ordinator”) yw person sydd â chyfrifoldeb am gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y nodir bod ganddynt anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996(2);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw—
cyngor neu gymorth mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol,
rheoli darpariaeth ddysgu ychwanegol,
asesu anghenion dysgu ychwanegol,
cyngor neu gymorth mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
rheoli disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol;
ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” (“further education learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3. Ni chaiff corff llywodraethu ysgol ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o’r Ddeddf ond os yw’r person hwnnw—
(a)yn athro neu athrawes ysgol, neu
(b)yn gydlynydd anghenion addysgol arbennig o fewn yr ysgol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
4. Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg bellach ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o’r Ddeddf ond os yw’r person hwnnw yn athro neu athrawes addysg bellach.
5. Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—
(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol disgybl a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgybl,
(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol disgybl fel y bo’n ofynnol,
(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,
(d)hybu cynhwysiant disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol,
(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,
(f)cynghori’r athrawon ysgol yn yr ysgol ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer disgyblion unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,
(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol sy’n gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(h)cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon ysgol yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).
6. Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—
(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr,
(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol myfyriwr fel y bo’n ofynnol,
(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,
(d)hybu cynhwysiant myfyriwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y sefydliad o fewn y sector addysg bellach,
(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,
(f)cynghori’r athrawon yn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer myfyrwyr unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,
(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach sy’n gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac
(h)cyfrannu at hyfforddiant ar gyfer athrawon addysg bellach yn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at adran 60 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 dccc 2 2018 (dccc 2) sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig) a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ddynodi person (neu bersonau) yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i fod yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r cymwysterau neu’r profiad y mae rhaid i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol feddu arnynt neu arno (rheoliadau 3 a 4) ac yn rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (rheoliadau 5 a 6).
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn effeithio ar allu’r corff llywodraethu i roi cyfrifoldebau pellach i’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
2018 dccc 2. Gweler adran 99(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac “a ragnodir” a “rheoliadau”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: