- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
1 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
3 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
1 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 93(1) ac (8) a 94(1)(b), (c) a (d) a (7) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“y Ddeddf”)(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o’r Ddeddf ac maent wedi eu bodloni ynglŷn â’r materion a bennir yn adran 93(6).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, yn lle “recovery and recycling obligations”, ym mhob lle y mae’n digwydd, ac eithrio’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw yn rheoliad 2(2), rhodder “recycling obligations”.
(3) Yn rheoliad 2(2)—
(a)hepgorer y diffiniad o “energy recovery”;
(b)yn y diffiniadau o “PERN” a “PRN”, yn lle “recovery” rhodder “recycling”;
(c)yn y diffiniad o “producer responsibility obligations” hepgorer “recovery and”;
(d)yn y diffiniad o “recovery” hepgorer y geiriau o “and for the purposes of” hyd at y diwedd;
(e)hepgorer y diffiniad o “recovery and recycling obligations”;
(f)yn lle’r diffiniad o “recycling obligations” rhodder—
““recycling obligations” has the meaning given in regulation 4(4)(b);”.
(4) Yn rheoliad 4(4)(b)(i) hepgorer “recover and”.
(5) Yn rheoliad 7(4)(ca)(i)(aa)—
(a)yn lle “recover” rhodder “recycle”;
(b)hepgorer y geiriau o “and of this” hyd at y diwedd.
(6) Yn rheoliad 16(3), yn lle “recover”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “recycle”.
(7) Yn rheoliad 20(3) hepgorer “respectively for recovery and”.
(8) Yn rheoliad 22(2)—
(a)yn is-baragraff (a) hepgorer “respectively for recovery and”;
(b)yn is-baragraff (c) hepgorer “recover and”.
(9) Yn rheoliad 24—
(a)ym mharagraff (1)(a)(i), yn lle “recovery” rhodder “recycling”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “recovery”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “recycling”.
(10) Yn Atodlen 2—
(a)yn y pennawd hepgorer “Recovery and”;
(b)ym mharagraff 1(1)—
(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a)—
(aa)ar ôl “allocation method”, mewnosoder “and subject to paragraph 1A,”;
(bb)hepgorer “recover and”;
(ii)yn is-baragraff (a), yn lle “recover” rhodder “recycle”;
(iii)hepgorer is-baragraff (b);
(iv)yn is-baragraff (c)—
(aa)yn lle “recover”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “recycle”;
(bb)yn lle “recover by recycling” rhodder “recycle”;
(c)ar ôl paragraff 1, mewnosoder—
“1A.—(1) For the purposes of paragraph 1(1)(a), where ∑Q is greater than ∑Z, a producer’s obligation is to recycle an amount of packaging waste equal to ∑Q.
(2) In this paragraph—
(a)“∑Q” means the sum of Q, as calculated in accordance with paragraph 3(3), for each recyclable material handled by the producer in the preceding year and for each class of producer to which the producer belongs;
(b)“∑Z” means the sum of Z, as calculated in accordance with paragraph 3(1), for each class of producer to which the producer belongs.”;
(d)ym mharagraff 3—
(i)yn is-baragraff (1)—
(aa)yn lle “recovered” rhodder “recycled”;
(bb)yn y diffiniad o “X”, yn lle “recovery” rhodder “recycling”;
(cc)yn y diffiniad o “Z”, yn lle “recovered” rhodder “recycled”;
(ii)hepgorer is-baragraff (2);
(iii)yn is-baragraff (3), yn lle “recover by recycling” rhodder “recycle”;
(iv)yn is-baragraff (4), yn y fformiwla, yn lle “67” rhodder “72”;
(e)yn lle paragraff 5 rhodder—
“5. The following is prescribed as the recycling target “X”—
(a)for the year 2021, 76%;
(b)for the year 2022, 77%.”;
(f)ym mharagraff 6, yn lle Tabl 2 rhodder—
Materials | 2021 | 2022 |
---|---|---|
Glass | 81 | 82 |
Plastic | 59 | 61 |
Aluminium | 66 | 69 |
Steel | 86 | 87 |
Paper/Board | 79 | 83 |
Wood | 35 | 35”; |
(g)yn lle paragraff 8 rhodder—
“8. The recycling allocation “B” is 35 for each of the years 2021 and 2022.”.
(11) Yn Atodlen 3, yn Rhan 3, ym mharagraff 11(b) hepgorer “is to be recycled through the scheme and by which it”.
(12) Yn Atodlen 7, ym mharagraff 2 hepgorer is-baragraff (c).
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
1 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (O.S. 2007/871) o ran Cymru. Mae’r Rheoliadau hynny’n gosod rhwymedigaeth ar gynhyrchwyr i adennill ac ailgylchu gwastraff deunydd pacio er mwyn cyrraedd y targedau adennill ac ailgylchu a nodir yn Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb 94/62/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddeunydd pacio a gwastraff deunydd pacio (OJ Rhif L 365, 31.12.94, t. 10).
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi targedau ailgylchu ar gyfer cynhyrchwyr yn lle targedau adennill ac ailgylchu’r UE. Maent hefyd yn amrywio’r targedau ailgylchu ar gyfer deunyddiau penodol i gynhyrchwyr sydd o dan rwymedigaeth ar gyfer papur, plastig, gwydr, alwminiwm, dur a phren yn ogystal â’r targed aildoddi penodol ar gyfer gwydr. Mae’r dyraniad ailgylchu ar gyfer cynhyrchwyr bach ar gyfer 2018 i 2020 wedi ei newid ar gyfer 2021 a 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1995 p. 25. Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i’r Cynulliad bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
O.S. 2007/871; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1941, 2010/2849, 2012/3082, 2016/241, 2016/1146, 2017/1221, 2020/904.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: