Search Legislation

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1399 (Cy. 310)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020

Gwnaed

1 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

3 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

4 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 68 o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020.

2.  Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Rhagfyr 2020.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amlen berthnasol sydd wedi ei hagor” (“opened relevant envelope”) yw—

(a)

prif amlen sydd wedi ei hagor, neu

(b)

amlen (ac eithrio prif amlen) sy’n dod i law’r swyddog canlyniadau neu’r swyddog cyfrif ac sydd, pan gaiff ei hagor, yn cynnwys amlen papur pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy’r post neu bapur pleidleisio;

mae i “amlen papur pleidleisio”, “prif amlen”, “pleidleisiwr drwy’r post”, “daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio” a chyfeiriadau eraill at ddaliedyddion penodedig yr un ystyron ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 5 o Reoliadau 2001;

mae i “ardal etholiadol” yr un ystyr ag a roddir i “electoral area” yn adran 203(1) o Ddeddf 1983;

ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2021;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(2);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(3);

ystyr “Deddf 2020” (“the 2020 Act”) yw Deddf y Coronafeirws 2020;

ystyr “is-etholiad perthnasol” (“relevant by-election”) yw—

(a)

etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru; neu

(b)

etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru,

pan fwriadwyd i’r bleidlais ar gyfer unrhyw etholiad o’r fath gael ei chynnal yn ystod y cyfnod perthnasol ac na chynhaliwyd y bleidlais yn ystod y cyfnod hwnnw o ganlyniad i Reoliadau 2020;

ystyr “pleidlais ohiriedig” (“a postponed poll”) yw unrhyw bleidlais a fydd, o ganlyniad i Reoliadau 2020, yn disodli is-etholiad perthnasol ac yn cael ei chynnal o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac yn dod i ben ar 16 Ebrill 2021;

mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli)(4);

ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(5);

ystyr “Rheoliadau 2020” (“the 2020 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020(6);

mae i “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post” a “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post fel dirprwyon” yr un ystyron ag a roddir i “postal voters list” a “proxy postal voters list” yn adran 202(1) o Ddeddf 1983(7);

mae i “rhoddai rheoleiddiedig” yr un ystyr ag a roddir i “regulated donee” ym mharagraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2000;

mae i “swyddog cofrestru perthnasol”—

(a)

yn achos is-etholiad perthnasol—

(i)

pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006(8);

(ii)

pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(9);

mae i “ymgeisydd” yr ystyr a roddir i “candidate” gan adran 118A o Ddeddf 1983(10).

Pleidleisiau drwy’r post: cyffredinol

4.—(1Nid yw papur pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd gan bleidleisiwr drwy’r post mewn perthynas ag is-etholiad perthnasol yn cael unrhyw effaith at ddibenion pleidlais ohiriedig.

(2Nid yw’r ffaith y bu i bleidleisiwr drwy’r post fwrw pleidlais drwy’r post mewn cysylltiad ag is-etholiad perthnasol yn atal y person hwnnw rhag bwrw pleidlais drwy’r post mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig.

(3Pan fo unrhyw restr wedi ei chreu o dan reoliad 87(11) o Reoliadau 2001 mewn perthynas ag is-etholiad perthnasol, nid yw rheoliad 61C(12) o’r Rheoliadau hynny (hysbysu ynghylch datganiad pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd) yn gymwys mewn cysylltiad â phleidleisiwr absennol sy’n ymddangos ar y rhestr honno.

(4Nid yw rheoliad 84A(13) o Reoliadau 2001 (cadarnhau bod datganiadau pleidleisio drwy’r post wedi dod i law) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw bleidleisiau drwy’r post a ddosbarthwyd mewn perthynas ag is-etholiad perthnasol.

Pleidleisiau drwy’r post: gwaredu dogfennau gan y swyddog canlyniadau neu’r swyddog cyfrif

5.—(1Mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau ar gyfer is-etholiad perthnasol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff gymryd unrhyw gamau neu unrhyw gamau pellach i agor prif amlen, nac i ymdrin â chynnwys amlen berthnasol sydd wedi ei hagor, yn unol â Rhan 5 o Reoliadau 2001;

(b)rhaid iddo drin y canlynol fel pe bai’n bapur pleidleisio sydd wedi ei gyfrif—

(i)unrhyw brif amlen nad yw wedi ei hagor;

(ii)cynnwys unrhyw amlen berthnasol sydd wedi ei hagor; a

(iii)unrhyw beth a gynhwysir yn y blwch pleidleisio drwy’r post.

(2Pan fwriadwyd i’r pleidleisiau ar gyfer un is-etholiad perthnasol neu ragor gael eu cynnal gyda’i gilydd—

(a)caiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw brif amlenni neu amlenni papurau pleidleisio er mwyn gwahanu’r cynnwys yn ôl yr etholiad at ddibenion paragraff (4);

(b)nid yw gofynion Rhan 5 o Reoliadau 2001 yn gymwys i unrhyw agor amlenni o’r fath.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)selio mewn pecynnau—

(i)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd;

(ii)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio;

(iii)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd;

(iv)unrhyw restr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd, a gollwyd neu y cawsant eu canslo yn unol â rheoliadau 77(8), 78(4) neu 78A(3) o Reoliadau 2001;

(v)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (gweithdrefn wirio);

(vi)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisio drwy’r post (gweithdrefn wirio);

(vii)unrhyw beth sy’n cael ei drin fel pe bai’n bapur pleidleisio sydd wedi ei gyfrif o dan baragraff (1)(b) na fyddai fel arall yn cael ei gynnwys mewn pecyn yn unol ag is-baragraffau (i) i (vi);

(viii)y copïau wedi eu marcio o’r rhestr o bleidleiswyr drwy’r post a’r rhestr o bleidleiswyr drwy’r post fel dirprwyon;

(b)anfon y pecynnau hynny ymlaen at y swyddog cofrestru perthnasol, ynghyd ag—

(i)unrhyw becynnau wedi eu selio a ddisgrifir yn rheoliadau 75(1), 77(6), 78(2C) a 78A(2)(c) o Reoliadau 2001 (rhestrau rhif cyfatebol wedi eu cwblhau a phapurau pleidleisio a ddifethwyd, a gollwyd neu y cawsant eu canslo);

(ii)unrhyw restr y mae’n ofynnol ei llunio yn unol â rheoliad 87(4) o Reoliadau 2001 (rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd).

(4Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi pob pecyn a ddisgrifir ym mharagraff (4) ag—

(a)disgrifiad o’i gynnwys;

(b)dyddiad y bleidlais ar gyfer yr is-etholiad perthnasol; ac

(c)enw’r ardal (neu’r ardaloedd) etholiadol y mae’r is-etholiad perthnasol yn ymwneud â hi neu â hwy.

(5Mae adran 36(4) neu (5A) o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr: talu am wariant)(14) yn gymwys i’r holl wariant y mae swyddog canlyniadau yn mynd iddo yn briodol mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r swyddog o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i wariant yr eir iddo yn briodol mewn perthynas â chynnal etholiad.

Pleidleisiau drwy’r post: cadw, dangos a dinistrio dogfennau gan y swyddog cofrestru perthnasol

6.—(1Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol—

(a)cadw’r dogfennau a anfonir ymlaen at y swyddog yn unol â rheoliad 5(3)(b) am gyfnod o flwyddyn; a

(b)ar ôl y cyfnod hwnnw, beri i’r dogfennau hynny gael eu dinistrio, oni bai bod gorchymyn gan lys sirol, Llys y Goron neu lys ynadon yn cyfarwyddo fel arall.

(2Ni chaniateir i berson edrych ar unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3)(a)(i) i (iii), (v) i (vii) a (b)(ii) sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, ac eithrio yn unol â gorchymyn a wneir gan lys ar gyfer edrych ar unrhyw ddogfen neu ddangos unrhyw ddogfen at ddiben cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio.

(3Mewn perthynas â gorchymyn a ddisgrifir ym mharagraff (2)—

(a)pan fo’n ymwneud ag etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, mae paragraffau (3) i (7) o reol 53 o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006(15) yn gymwys yn unol â pharagraff (4); a

(b)pan fo’n ymwneud ag etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag, mae paragraffau (3) i (7) o reol 53 o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(16) yn gymwys yn unol â pharagraff (4).

(4Mae’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yn gymwys i orchymyn a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan y darpariaethau hynny, ac eithrio y dylid darllen cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at “counted ballot papers” fel cyfeiriadau at y dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3)(a)(i) i (iii), (v) i (vii) a (b)(ii).

(5Mae adran 176 o Ddeddf 1983 (terfyn amser ar gyfer erlyniadau)(17) yn gymwys mewn cysylltiad â dogfennau a gedwir gan y swyddog cofrestru perthnasol o dan baragraff (1) a dylid darllen cyfeiriadau at “rule 57 of the parliamentary elections rules” yn is-adrannau (2C) a (2D) fel cyfeiriad at reoliad 6(1) o’r Rheoliadau hyn.

(6Mae adran 54 o Ddeddf 1983 (talu treuliau cofrestru)(18) yn gymwys i arfer swyddogaethau’r swyddog cofrestru perthnasol o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i arfer swyddogaethau’r swyddog cofrestru o dan Ddeddf 1983.

Ymgeiswyr mewn is-etholiadau perthnasol

7.—(1Nid yw person (“P”) a oedd yn ymgeisydd mewn is-etholiad perthnasol i’w ystyried yn ymgeisydd mwyach, ac mae’n cael ei drin fel pe na bai wedi bod yn ymgeisydd cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym.

(2Nid yw person (gan gynnwys P) yn atebol mewn cysylltiad ag unrhyw weithred neu anweithred (pa bryd bynnag y bo’n digwydd) mewn perthynas ag ymgeisyddiaeth P mewn is-etholiad perthnasol cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym (gan ddiystyru paragraff (1)), o dan—

(a)adran 71A o Ddeddf 1983 (rheoli rhoddion i ymgeiswyr)(19) ac Atodlen 2A iddi; a

(b)adrannau 73 i 90D o Ddeddf 1983 (darpariaethau ynghylch treuliau etholiad ymgeiswyr)(20), ac Atodlen 4 iddi, gan gynnwys cymhwyso’r darpariaethau hynny i ethol cynghorwyr cymuned yng Nghymru gan adran 90 o’r Ddeddf honno.

(3Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys mewn perthynas â rhodd a fyddai i’w chynnwys mewn datganiad ynghylch treuliau etholiad mewn cysylltiad â P yn unol â Rhan 3 o Atodlen 2A i Ddeddf 1983(21) pe bai’r is-etholiad perthnasol wedi ei gynnal (gan ddiystyru paragraff (2)).

(4At ddibenion paragraff 4(3)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 2000 (rhoddion: diystyru rhoddion i ymgeisydd) nid yw rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi i’w thrin fel rhodd sydd i’w chynnwys mewn datganiad ynghylch treuliau etholiad mewn cysylltiad â P.

(5Pan fo’n ofynnol i roddai rheoleiddiedig gymryd camau mewn cysylltiad â rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi o dan adran 56(2) o Ddeddf 2000 (derbyn neu ddychwelyd rhoddion)(22), fel y’i cymhwysir gan baragraff 8 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(23), mae’r ddarpariaeth honno i’w darllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd erbyn 31 Ionawr 2021 (yn hytrach nag o fewn y cyfnod a bennir yn y ddarpariaeth).

(6Pan fo’n ofynnol, mewn perthynas â rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi, i roddai rheoleiddiedig lunio adroddiad o dan baragraff 10(1) neu 11(1)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 2000 (adroddiadau ar roddion: rhoddwyr a ganiateir a rhoddwyr nas caniateir)(24), mae paragraff 10(2) neu 11(1)(b) (yn ôl y digwydd) o’r Atodlen honno(25) i’w ddarllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad gael ei ddanfon i’r Comisiwn Etholiadol erbyn 31 Ionawr 2021 (yn hytrach nag o fewn y cyfnod a bennir yn y ddarpariaeth).

(7Nid yw person yn atebol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraffau (5) a (6) rhwng yr adeg ar gyfer cydymffurfio a nodir mewn perthynas â’r gofyniad (cyn i’r addasiadau a wneir gan baragraffau (5) a (6) gael effaith) a’r adeg y mae’r rheoliad hwn yn dod i rym.

(8Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn effeithio ar ba un a yw P yn ymgeisydd mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig nac ar unrhyw ofynion a fyddai’n gymwys mewn perthynas â P fel ymgeisydd mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig.

Diwygio Rheoliadau 2001

8.—(1Mae Rheoliadau 2001 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 56 (y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau)(26)

(a)ym mharagraff (3) yn lle’r geiriau “Subject to paragraph (3A),” rhodder “Subject to paragraphs (3A) and (3B),”;

(b)Ar ôl paragraff (3A) mewnosoder—

(3B) Where an application is made under paragraph 4(2) of Schedule 4 in relation to a relevant Welsh by-election—

(a)on the ground that the applicant cannot reasonably be expected to vote in person at a polling station as a result of complying with relevant legislation, Welsh Government advice or the advice of a registered medical practitioner in relation to coronavirus; or

(b)on the ground that any person appointed as a proxy to vote for an applicant under paragraph 6 of Schedule 4 is unable to attend a polling station and vote for that applicant as a result of complying with relevant legislation, Welsh Government advice or the advice of a registered medical practitioner in relation to coronavirus,

the application, or an application under paragraph 6(8) of that Schedule made by virtue of that application, shall be refused if it is received after 5pm on the day of the poll at the election for which it is made.

(3C) In paragraph (3B) the term relevant Welsh by-election means—

(a)an election of a councillor to fill a casual vacancy in the office of councillor for any county council or county borough council in Wales; or

(b)the election of a councillor to fill a casual vacancy in the office of community councillor in any community council in Wales,

where the poll for such an election was postponed as a result of the Local Government (Coronavirus) (Postponement of Elections) (Wales) Regulations 2020.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2001 gan y rheoliad hwn o leiaf unwaith bob blwyddyn, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal erbyn 1 Hydref 2021.

(4Bydd y rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r rheoliad hwn yn dod i rym.

Hysbysiadau sy’n ofynnol er mwyn cyfethol cynghorwyr cymuned ar gyfer swyddi sy’n digwydd dod yn wag

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad cyhoeddus sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 116(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(27) (“Mesur 2011”) mewn cysylltiad â swydd neu swyddi sy’n digwydd dod yn wag rhwng 16 Mawrth 2020 ac 31 Ionawr 2021.

(2Nid yw adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(28) yn gymwys.

(3Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig.

(4Mae’r cyfeiriad at swyddogaethau yn adran 117(1) o Fesur 2011 yn cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan adran 116(2) o’r Mesur.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag is-etholiadau llywodraeth leol penodol a ohiriwyd o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Gohiriwyd yr is-etholiadau llywodraeth leol hyn gan Reoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020 (“Rheoliadau 2020”).

Mae rheoliad 4 yn darparu nad yw unrhyw bleidlais drwy’r post a fwriwyd mewn perthynas ag is-etholiad a ohiriwyd gan Reoliadau 2020 i gyfrif at ddibenion yr is-etholiad hwnnw sydd wedi ei ail-drefnu. Mae hefyd yn darparu nad yw pleidleisiwr drwy’r post yn cael ei atal rhag bwrw pleidlais drwy’r post arall mewn is-etholiad a ad-drefnir.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid i’r swyddog canlyniadau ymdrin â’r ddogfennaeth y gellid bod wedi ei chreu cyn is-etholiad a ohiriwyd, gan gynnwys ei hanfon ymlaen at y swyddog cofrestru.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog cofrestru gadw’r dogfennau hynny am flwyddyn cyn eu dinistrio (yn ddarostyngedig i orchymyn llys). Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion llys i gael mynediad at y dogfennau hynny mewn cysylltiad ag erlyniad.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phersonau a oedd yn ymgeiswyr mewn is-etholiad a ohiriwyd. Mae’n darparu nad yw person a oedd yn ymgeisydd yn ymgeisydd mwyach, a’i fod yn cael ei drin yn gyffredinol fel pe na bai wedi bod yn ymgeisydd. Mae effeithiau hyn yn cynnwys y ffaith nad yw’n ofynnol i’r person lenwi datganiadau penodol sy’n ymwneud â threuliau ymgeisydd a rhoddion o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Yn lle hynny, ymdrinnir â rhoddion penodol i roddeion rheoleiddiedig o dan y rheolau yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, ond mae’r terfynau amser ar gyfer cydymffurfio â’r rheolau hynny wedi eu hymestyn.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, er mwyn darparu sail ychwanegol i geiswyr wneud cais am bleidleisiau drwy ddirprwyon brys mewn cysylltiad ag is-etholiadau llywodraeth leol penodol. Mae’r sail ychwanegol hon yn ymwneud â phersonau nad ydynt yn gallu mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol o ganlyniad i ddilyn deddfwriaeth berthnasol neu ganllawiau neu gyngor meddygol perthnasol mewn perthynas â’r pandemig COVID-19..

Mae rheoliad 9 yn addasu effaith Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â’r gofyniad i roi hysbysiad cyhoeddus pan fo person yn cael ei gyfethol i fod yn aelod o gyngor cymuned yng Nghymru. O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, nid yw ond yn ofynnol i’r hysbysiadau cyhoeddus hynny gael eu rhoi ar ffurf electronig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(4)

1972 p. 70; diwygiwyd adran 270(1) gan baragraff 8 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51).

(5)

O.S. 2001/341; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2006/752, 2006/2910 a 2013/3198.

(7)

Diwygiwyd adran 202(1) gan baragraff 128 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22).

(8)

O.S. 2006/3304, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2006/3305, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

Mewnosodwyd adran 118A gan adran 135 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

(11)

Diwygiwyd rheoliad 87 gan O.S. 2006/2910 ac O.S. 2013/3198.

(12)

Mewnosodwyd rheoliad 61C gan reoliad 28 o O.S. 2013/3198.

(13)

Mewnosodwyd rheoliad 84A gan reoliad 52 o O.S. 2006/2910.

(14)

Diwygiwyd adran 36(4) a (5A) gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51); a chan baragraffau 68(9) a (10) o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).

(17)

Diwygiwyd adran 176 gan adrannau 24 a 28 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50), paragraff 61 o Atodlen 4 iddi ac Atodlen 5 iddi.

(18)

Diwygiwyd adran 54 gan baragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985; a chan baragraffau 1 a 17 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 (p. 6).

(19)

Mewnosodwyd adran 71A gan adran 130 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”). Mewnosodwyd Atodlen 2A gan Atodlen 16 i Ddeddf 2000.

(20)

Diwygiwyd adrannau 73 a 74 gan adran 14 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (“DCB 1985”); gan baragraffau 1, 17 a 18 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29) (“DALlF 1999”); gan baragraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000; a diwygiwyd adran 73 hefyd gan baragraffau 104, 111 a 133 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (“DGE 2006”). Mewnosodwyd adran 74A gan baragraffau 1 a 5 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000 ac fe’i diwygiwyd gan baragraffau 104, 112 a 133 o Atodlen 1 i DGE 2006. Diwygiwyd adran 75 gan baragraff 24 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 19 o Atodlen 3 i DALlF 1999; gan adran 131 o Ddeddf 2000; gan adran 25 o DGE 2006 a pharagraffau 104 a 113 o Atodlen 1 iddi; a chan adran 36(1) o Ddeddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu Amhleidiol a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 (p. 4) (“Deddf 2014”). Mewnosodwyd adrannau 75ZA a 75ZB gan adran 36(2) o Ddeddf 2014. Diwygiwyd adran 76 gan baragraff 25 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51); gan Ran 1 o Atodlen 13 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40); gan adran 6(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1989 (p. 28); gan baragraffau 1 ac 20 o Atodlen 3 i DALlF 1999; gan baragraffau 1 a 18 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2); gan adran 132 o Ddeddf 2000; gan baragraffau 69 a 71 o Atodlen 1 i DGE 2006; gan adran 37(1) o Ddeddf 2014 a chan O.S. 2014/1870. Mewnosodwyd adran 76ZA gan adran 21(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009 (p. 12) (“DPGE 2009”), ac fe’i diwygiwyd gan baragraffau 6 a 7 o’r Atodlen i Ddeddf Seneddau Tymor Penodol 2011 (p. 14), a chan O.S. 2014/1870. Mewnosodwyd adran 76A gan adran 14 o DCB 1985, ac fe’i diwygiwyd gan adran 133(1) o Ddeddf 2000, a chan baragraff 6 o Atodlen 6 i DPGE 2009. Diwygiwyd adran 77 gan baragraffau 1 a 22 o Atodlen 3 i DALlF 1999. Diwygiwyd adrannau 78 a 79 gan baragraff 26 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1, 6 a 18 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, a diwygiwyd adran 78 hefyd gan baragraff 52(1)(b) a (2) o Atodlen 9 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22). Diwygiwyd adrannau 81, 82 a 85 gan baragraffau 27 i 29 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 23 i 25 o Atodlen 3 i DALlF 1999; a chan baragraffau 1, 7, 8 a 19 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, a diwygiwyd adran 81 hefyd gan adran 26 o DGE 2006 a pharagraffau 104, 114 a 133 o Atodlen 1 iddi. Mewnosodwyd adran 85A gan baragraffau 1 a 26 o Atodlen 3 i DALlF 1999. Diwygiwyd adran 86 gan baragraff 30 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 18 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, gan baragraffau 48 a 49 o Atodlen 21 i Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p. 29), a chan baragraff 52 o Atodlen 9 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013. Diwygiwyd adran 87 gan baragraff 31 o Atodlen 4 i DCB 1985, a chan O.S. 2015/664. Mewnosodwyd adran 87A gan baragraffau 1 a 9 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000. Diwygiwyd adran 88 gan baragraff 32 o Atodlen 4 i DCB 1985, a chan baragraffau 1 a 27 o Atodlen 3 i DALlF 1999. Diwygiwyd adran 89 gan baragraff 33 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 10 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000; a chan baragraffau 104 a 115 o Atodlen 1 i DGE 2006. Diwygiwyd adran 90 gan baragraffau 1 ac 11 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, a chan baragraffau 104 a 116 o Atodlen 1 i DGE 2006. Mewnosodwyd adran 90ZA gan adran 27(1) a (2) o DGE 2006, ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 7 o Atodlen 6 i DPGE 2009. Mewnosodwyd adrannau 90A i 90D gan adran 134 o Ddeddf 2000. Diddymwyd adrannau 90A a 90B gan adran 27(1), (3) a (4) o DGE 2006. Diwygiwyd adrannau 90C a 90D gan baragraffau 104, 117, 118 a 133 o DGE 2006.

(21)

Mewnosodwyd Atodlen 2A gan Atodlen 16 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

(22)

Diwygiwyd adran 56(2) gan adran 9 o DPGE 2009.

(23)

Diwygiwyd paragraff 8 gan baragraff 2 o Atodlen 4 a pharagraff 28 o Atodlen 6 i DPGE 2009.

(24)

Diwygiwyd paragraff 10(1) gan baragraffau 138 a 154 o Atodlen 1 i DGE 2006, a chan baragraff 2 o Atodlen 3 i DPGE 2009. Diwygiwyd paragraff 11(1) gan baragraff 3 o Atodlen 3 i DPGE 2009.

(25)

Diwygiwyd paragraff 10(2) gan adran 20 o DPGE 2009.

(26)

Diwygiwyd rheoliad 56 gan O.S. 2001/1700, O.S. 2006/752, O.S. 2006/2910 ac O.S. 2013/3198.

(28)

1972 p.70. Gwnaed ddiwygiadau perthnasol gan adran 56 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (2013 dccc 4).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources