- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “amlen berthnasol sydd wedi ei hagor” (“opened relevant envelope”) yw—
prif amlen sydd wedi ei hagor, neu
amlen (ac eithrio prif amlen) sy’n dod i law’r swyddog canlyniadau neu’r swyddog cyfrif ac sydd, pan gaiff ei hagor, yn cynnwys amlen papur pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy’r post neu bapur pleidleisio;
mae i “amlen papur pleidleisio”, “prif amlen”, “pleidleisiwr drwy’r post”, “daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio” a chyfeiriadau eraill at ddaliedyddion penodedig yr un ystyron ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 5 o Reoliadau 2001;
mae i “ardal etholiadol” yr un ystyr ag a roddir i “electoral area” yn adran 203(1) o Ddeddf 1983;
ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2021;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(2);
ystyr “Deddf 2020” (“the 2020 Act”) yw Deddf y Coronafeirws 2020;
ystyr “is-etholiad perthnasol” (“relevant by-election”) yw—
etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru; neu
etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru,
pan fwriadwyd i’r bleidlais ar gyfer unrhyw etholiad o’r fath gael ei chynnal yn ystod y cyfnod perthnasol ac na chynhaliwyd y bleidlais yn ystod y cyfnod hwnnw o ganlyniad i Reoliadau 2020;
ystyr “pleidlais ohiriedig” (“a postponed poll”) yw unrhyw bleidlais a fydd, o ganlyniad i Reoliadau 2020, yn disodli is-etholiad perthnasol ac yn cael ei chynnal o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac yn dod i ben ar 16 Ebrill 2021;
mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli)(3);
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(4);
ystyr “Rheoliadau 2020” (“the 2020 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020(5);
mae i “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post” a “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post fel dirprwyon” yr un ystyron ag a roddir i “postal voters list” a “proxy postal voters list” yn adran 202(1) o Ddeddf 1983(6);
mae i “rhoddai rheoleiddiedig” yr un ystyr ag a roddir i “regulated donee” ym mharagraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2000;
mae i “swyddog cofrestru perthnasol”—
yn achos is-etholiad perthnasol—
pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006(7);
pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(8);
mae i “ymgeisydd” yr ystyr a roddir i “candidate” gan adran 118A o Ddeddf 1983(9).
1972 p. 70; diwygiwyd adran 270(1) gan baragraff 8 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51).
O.S. 2001/341; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2006/752, 2006/2910 a 2013/3198.
Diwygiwyd adran 202(1) gan baragraff 128 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22).
O.S. 2006/3304, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2006/3305, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd adran 118A gan adran 135 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: