- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau ar gyfer is-etholiad perthnasol—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff gymryd unrhyw gamau neu unrhyw gamau pellach i agor prif amlen, nac i ymdrin â chynnwys amlen berthnasol sydd wedi ei hagor, yn unol â Rhan 5 o Reoliadau 2001;
(b)rhaid iddo drin y canlynol fel pe bai’n bapur pleidleisio sydd wedi ei gyfrif—
(i)unrhyw brif amlen nad yw wedi ei hagor;
(ii)cynnwys unrhyw amlen berthnasol sydd wedi ei hagor; a
(iii)unrhyw beth a gynhwysir yn y blwch pleidleisio drwy’r post.
(2) Pan fwriadwyd i’r pleidleisiau ar gyfer un is-etholiad perthnasol neu ragor gael eu cynnal gyda’i gilydd—
(a)caiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw brif amlenni neu amlenni papurau pleidleisio er mwyn gwahanu’r cynnwys yn ôl yr etholiad at ddibenion paragraff (4);
(b)nid yw gofynion Rhan 5 o Reoliadau 2001 yn gymwys i unrhyw agor amlenni o’r fath.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)selio mewn pecynnau—
(i)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd;
(ii)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio;
(iii)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd;
(iv)unrhyw restr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd, a gollwyd neu y cawsant eu canslo yn unol â rheoliadau 77(8), 78(4) neu 78A(3) o Reoliadau 2001;
(v)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (gweithdrefn wirio);
(vi)unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisio drwy’r post (gweithdrefn wirio);
(vii)unrhyw beth sy’n cael ei drin fel pe bai’n bapur pleidleisio sydd wedi ei gyfrif o dan baragraff (1)(b) na fyddai fel arall yn cael ei gynnwys mewn pecyn yn unol ag is-baragraffau (i) i (vi);
(viii)y copïau wedi eu marcio o’r rhestr o bleidleiswyr drwy’r post a’r rhestr o bleidleiswyr drwy’r post fel dirprwyon;
(b)anfon y pecynnau hynny ymlaen at y swyddog cofrestru perthnasol, ynghyd ag—
(i)unrhyw becynnau wedi eu selio a ddisgrifir yn rheoliadau 75(1), 77(6), 78(2C) a 78A(2)(c) o Reoliadau 2001 (rhestrau rhif cyfatebol wedi eu cwblhau a phapurau pleidleisio a ddifethwyd, a gollwyd neu y cawsant eu canslo);
(ii)unrhyw restr y mae’n ofynnol ei llunio yn unol â rheoliad 87(4) o Reoliadau 2001 (rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd).
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi pob pecyn a ddisgrifir ym mharagraff (4) ag—
(a)disgrifiad o’i gynnwys;
(b)dyddiad y bleidlais ar gyfer yr is-etholiad perthnasol; ac
(c)enw’r ardal (neu’r ardaloedd) etholiadol y mae’r is-etholiad perthnasol yn ymwneud â hi neu â hwy.
(5) Mae adran 36(4) neu (5A) o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr: talu am wariant)(1) yn gymwys i’r holl wariant y mae swyddog canlyniadau yn mynd iddo yn briodol mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r swyddog o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i wariant yr eir iddo yn briodol mewn perthynas â chynnal etholiad.
Diwygiwyd adran 36(4) a (5A) gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51); a chan baragraffau 68(9) a (10) o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: