Search Legislation

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Ymgeiswyr mewn is-etholiadau perthnasol

7.—(1Nid yw person (“P”) a oedd yn ymgeisydd mewn is-etholiad perthnasol i’w ystyried yn ymgeisydd mwyach, ac mae’n cael ei drin fel pe na bai wedi bod yn ymgeisydd cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym.

(2Nid yw person (gan gynnwys P) yn atebol mewn cysylltiad ag unrhyw weithred neu anweithred (pa bryd bynnag y bo’n digwydd) mewn perthynas ag ymgeisyddiaeth P mewn is-etholiad perthnasol cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym (gan ddiystyru paragraff (1)), o dan—

(a)adran 71A o Ddeddf 1983 (rheoli rhoddion i ymgeiswyr)(1) ac Atodlen 2A iddi; a

(b)adrannau 73 i 90D o Ddeddf 1983 (darpariaethau ynghylch treuliau etholiad ymgeiswyr)(2), ac Atodlen 4 iddi, gan gynnwys cymhwyso’r darpariaethau hynny i ethol cynghorwyr cymuned yng Nghymru gan adran 90 o’r Ddeddf honno.

(3Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys mewn perthynas â rhodd a fyddai i’w chynnwys mewn datganiad ynghylch treuliau etholiad mewn cysylltiad â P yn unol â Rhan 3 o Atodlen 2A i Ddeddf 1983(3) pe bai’r is-etholiad perthnasol wedi ei gynnal (gan ddiystyru paragraff (2)).

(4At ddibenion paragraff 4(3)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 2000 (rhoddion: diystyru rhoddion i ymgeisydd) nid yw rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi i’w thrin fel rhodd sydd i’w chynnwys mewn datganiad ynghylch treuliau etholiad mewn cysylltiad â P.

(5Pan fo’n ofynnol i roddai rheoleiddiedig gymryd camau mewn cysylltiad â rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi o dan adran 56(2) o Ddeddf 2000 (derbyn neu ddychwelyd rhoddion)(4), fel y’i cymhwysir gan baragraff 8 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(5), mae’r ddarpariaeth honno i’w darllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd erbyn 31 Ionawr 2021 (yn hytrach nag o fewn y cyfnod a bennir yn y ddarpariaeth).

(6Pan fo’n ofynnol, mewn perthynas â rhodd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddi, i roddai rheoleiddiedig lunio adroddiad o dan baragraff 10(1) neu 11(1)(a) o Atodlen 7 i Ddeddf 2000 (adroddiadau ar roddion: rhoddwyr a ganiateir a rhoddwyr nas caniateir)(6), mae paragraff 10(2) neu 11(1)(b) (yn ôl y digwydd) o’r Atodlen honno(7) i’w ddarllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad gael ei ddanfon i’r Comisiwn Etholiadol erbyn 31 Ionawr 2021 (yn hytrach nag o fewn y cyfnod a bennir yn y ddarpariaeth).

(7Nid yw person yn atebol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraffau (5) a (6) rhwng yr adeg ar gyfer cydymffurfio a nodir mewn perthynas â’r gofyniad (cyn i’r addasiadau a wneir gan baragraffau (5) a (6) gael effaith) a’r adeg y mae’r rheoliad hwn yn dod i rym.

(8Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn effeithio ar ba un a yw P yn ymgeisydd mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig nac ar unrhyw ofynion a fyddai’n gymwys mewn perthynas â P fel ymgeisydd mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig.

(1)

Mewnosodwyd adran 71A gan adran 130 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”). Mewnosodwyd Atodlen 2A gan Atodlen 16 i Ddeddf 2000.

(2)

Diwygiwyd adrannau 73 a 74 gan adran 14 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (“DCB 1985”); gan baragraffau 1, 17 a 18 o Atodlen 3 i Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29) (“DALlF 1999”); gan baragraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000; a diwygiwyd adran 73 hefyd gan baragraffau 104, 111 a 133 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (“DGE 2006”). Mewnosodwyd adran 74A gan baragraffau 1 a 5 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000 ac fe’i diwygiwyd gan baragraffau 104, 112 a 133 o Atodlen 1 i DGE 2006. Diwygiwyd adran 75 gan baragraff 24 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 19 o Atodlen 3 i DALlF 1999; gan adran 131 o Ddeddf 2000; gan adran 25 o DGE 2006 a pharagraffau 104 a 113 o Atodlen 1 iddi; a chan adran 36(1) o Ddeddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu Amhleidiol a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 (p. 4) (“Deddf 2014”). Mewnosodwyd adrannau 75ZA a 75ZB gan adran 36(2) o Ddeddf 2014. Diwygiwyd adran 76 gan baragraff 25 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51); gan Ran 1 o Atodlen 13 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40); gan adran 6(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1989 (p. 28); gan baragraffau 1 ac 20 o Atodlen 3 i DALlF 1999; gan baragraffau 1 a 18 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2); gan adran 132 o Ddeddf 2000; gan baragraffau 69 a 71 o Atodlen 1 i DGE 2006; gan adran 37(1) o Ddeddf 2014 a chan O.S. 2014/1870. Mewnosodwyd adran 76ZA gan adran 21(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009 (p. 12) (“DPGE 2009”), ac fe’i diwygiwyd gan baragraffau 6 a 7 o’r Atodlen i Ddeddf Seneddau Tymor Penodol 2011 (p. 14), a chan O.S. 2014/1870. Mewnosodwyd adran 76A gan adran 14 o DCB 1985, ac fe’i diwygiwyd gan adran 133(1) o Ddeddf 2000, a chan baragraff 6 o Atodlen 6 i DPGE 2009. Diwygiwyd adran 77 gan baragraffau 1 a 22 o Atodlen 3 i DALlF 1999. Diwygiwyd adrannau 78 a 79 gan baragraff 26 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1, 6 a 18 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, a diwygiwyd adran 78 hefyd gan baragraff 52(1)(b) a (2) o Atodlen 9 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22). Diwygiwyd adrannau 81, 82 a 85 gan baragraffau 27 i 29 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 23 i 25 o Atodlen 3 i DALlF 1999; a chan baragraffau 1, 7, 8 a 19 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, a diwygiwyd adran 81 hefyd gan adran 26 o DGE 2006 a pharagraffau 104, 114 a 133 o Atodlen 1 iddi. Mewnosodwyd adran 85A gan baragraffau 1 a 26 o Atodlen 3 i DALlF 1999. Diwygiwyd adran 86 gan baragraff 30 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 18 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, gan baragraffau 48 a 49 o Atodlen 21 i Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p. 29), a chan baragraff 52 o Atodlen 9 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013. Diwygiwyd adran 87 gan baragraff 31 o Atodlen 4 i DCB 1985, a chan O.S. 2015/664. Mewnosodwyd adran 87A gan baragraffau 1 a 9 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000. Diwygiwyd adran 88 gan baragraff 32 o Atodlen 4 i DCB 1985, a chan baragraffau 1 a 27 o Atodlen 3 i DALlF 1999. Diwygiwyd adran 89 gan baragraff 33 o Atodlen 4 i DCB 1985; gan baragraffau 1 a 10 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000; a chan baragraffau 104 a 115 o Atodlen 1 i DGE 2006. Diwygiwyd adran 90 gan baragraffau 1 ac 11 o Atodlen 18 i Ddeddf 2000, a chan baragraffau 104 a 116 o Atodlen 1 i DGE 2006. Mewnosodwyd adran 90ZA gan adran 27(1) a (2) o DGE 2006, ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 7 o Atodlen 6 i DPGE 2009. Mewnosodwyd adrannau 90A i 90D gan adran 134 o Ddeddf 2000. Diddymwyd adrannau 90A a 90B gan adran 27(1), (3) a (4) o DGE 2006. Diwygiwyd adrannau 90C a 90D gan baragraffau 104, 117, 118 a 133 o DGE 2006.

(3)

Mewnosodwyd Atodlen 2A gan Atodlen 16 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

(4)

Diwygiwyd adran 56(2) gan adran 9 o DPGE 2009.

(5)

Diwygiwyd paragraff 8 gan baragraff 2 o Atodlen 4 a pharagraff 28 o Atodlen 6 i DPGE 2009.

(6)

Diwygiwyd paragraff 10(1) gan baragraffau 138 a 154 o Atodlen 1 i DGE 2006, a chan baragraff 2 o Atodlen 3 i DPGE 2009. Diwygiwyd paragraff 11(1) gan baragraff 3 o Atodlen 3 i DPGE 2009.

(7)

Diwygiwyd paragraff 10(2) gan adran 20 o DPGE 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources