Search Legislation

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1448 (Cy.312)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

4 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd yn sgil prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd(2).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2020.

Diwygio Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017

2.  Yn Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017(3), hepgorer rheoliad 3(2)(f).

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) sy’n gweithredu’n bennaf Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 (OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd (“y Gyfarwyddeb AEA”) mewn perthynas â dau fath o brosiect ym mharagraff 1 o Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno: prosiectau i ailstrwythuro daliadau tir gwledig a phrosiectau i ddefnyddio tir heb ei drin neu ardaloedd lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys. Mae Rheoliadau 2017 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y diwygiadau i’r Gyfarwyddeb AEA y rhoddwyd effaith iddynt gan Gyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 (OJ Rhif L 124, 25.4.2014, t. 1).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2017, sy’n nodi’r mathau o brosiectau a eithrir o gwmpas y Rheoliadau hynny. Mae’r diwygiad yn dileu’r esemptiad ar gyfer gwaith cyfyngedig ar dir comin yn rheoliad 3(2)(f) o Reoliadau 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau hyd ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn flaenorol gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(2)

O.S. 2001/2555 mewn perthynas â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd yn sgil prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, sydd wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3)

O.S. 2017/565 (Cy. 134), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources