Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1487 (Cy. 317)

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020

Gwnaed

8 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau mewn cysylltiad â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, neu sy’n cael ei fwydo i anifeiliaid o’r fath(2), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd(3), a mesurau mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(4).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE a fewnosodir yn yr offerynnau statudol y mae’r Rheoliadau hyn yn eu diwygio gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau UE hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2020.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” (“the Community Regulations”), yn lle “, Rheoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625” rhodder “a phecyn Rheoliad 2017/625”;

(ii)hepgorer y diffiniad sy’n dechrau ag “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;

(iii)yn lle’r diffiniad o “Pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—

ystyr “Pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/625”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.

(3Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

3.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41””;

(ii)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625” rhodder “phecyn Rheoliad 2017/625”;

(iii)yn lle’r diffiniad o “pecyn Rheoliad 2017/625” rhodder—

ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw Rheoliad 2017/625 a’r Rheoliadau eraill a restrir yn Atodlen 1 o dan y pennawd “Pecyn Rheoliad 2017/265”;;

(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.

(c)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Onid yw’n ymddangos bod bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yn ôl y digwydd.

(3Yn rheoliad 22 (dehongli Rhan 3)—

(a)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio wedi eu rheoleiddio gan Erthygl 44 neu Erthygl 47(1)(d), (e) neu (f) o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad ydynt wedi eu rhestru ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd rheoli ar y ffin(8);;

(b)yn y diffiniad o “darpariaeth fewnforio benodedig”, hepgorer “yn Rheoliad 2017/625 neu”.

(4Yn rheoliad 29 (gwirio cynhyrchion), yn lle “a 45(1), (2) a (4)”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “, 45(1), (2) a (4), a 49(1)”.

(5Yn rheoliad 36(2) (costau a ffioedd) ar ôl “y cyfeirir atynt yn”, mewnosoder “Erthygl 79(2)(a) ac”.

(6Yn rheoliad 41(1A) (tramgwyddau a chosbau), yn lle’r geiriau o “Erthygl 3” hyd at “cynhyrchu egin”, rhodder “Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628”.

(7Yn Rhan 4 (adennill treuliau), yn y lle priodol mewnosoder—

Ffioedd neu daliadau sy’n deillio o reolaethau swyddogol anghynlluniedig

42A.  Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.

(8Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

(9Yn lle Atodlen 4 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

(10Yn lle Atodlen 5 (awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y maent yn gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.

(11Yn lle Atodlen 6 (darpariaethau mewnforio penodedig) rhodder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas)—

(a)ym mharagraff (1)

(i)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 882/2004”;

(ii)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion (10);

ystyr “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol(11);

(b)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 882/2004, Rheoliad 183/2005 neu Reoliad 152/2009”, rhodder “Rheoliad 183/2005, Rheoliad 152/2009 a Rheoliad 2017/625”.

(3Yn rheoliad 19 (dadansoddiad ac eithrio yng nghwrs rheolaethau swyddogol), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mewn achosion pan nad oes dull priodol o ddadansoddi yn Rheoliad 152/2009, rhaid cyflawni’r dadansoddiad yn y modd y cyfeirir ato yn Erthygl 34(1) a (2) o Reoliad 2017/625 fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2019/1793.

(4Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), yn y tabl—

(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer Rheoliad 882/2004 ac ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009;

(b)yn y lleoedd priodol, mewnosoder y cofnodion a ganlyn—

  • Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad 2019/1793 i’r graddau y mae’n ymwneud â bwyd anifeiliaid.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2020

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 1Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Rheoliad 2(1A)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(12);

ystyr “Rheoliad 178/2002” yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(13), fel y’i darllenir gyda Rheoliad 931/2011 a Rheoliad 208/2013;

ystyr “Rheoliad 852/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd(14) fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005 a Rheoliad 210/2013;

ystyr “Rheoliad 853/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid(15) fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden(16);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(17);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(18);

ystyr “Rheoliad 931/2011” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 931/2011 ar y gofynion olrheiniadwyedd a osodir gan Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid(19);

ystyr “Rheoliad 1169/2011” yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(20);

ystyr “Rheoliad 208/2013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 208/2013 ar ofynion olrheiniadwyedd ar gyfer egin a hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu egin(21);

ystyr “Rheoliad 210/2013” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor(22);

ystyr “Rheoliad 579/2014” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymu darpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr(23);

ystyr “Rheoliad 2015/1375” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(24);

ystyr “Rheoliad 2017/185” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor(25);

Pecyn Rheoliad 2017/625

ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC(26) fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;

ystyr “Rheoliad 2019/478” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(27);

ystyr “Rheoliad 2019/624” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor(28);

ystyr “Rheoliad 2019/625” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl(29);

ystyr “Rheoliad 2019/626” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn(30);

ystyr “Rheoliad 2019/627” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol(31);

ystyr “Rheoliad 2019/628” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn(32);

ystyr “Rheoliad 2019/1012” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin(33);

ystyr “Rheoliad 2019/1013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb(34);

ystyr “Rheoliad 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli(35);

ystyr “Rheoliad 2019/1081” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(36);

ystyr “Rheoliad 2019/1602” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(37);

ystyr “Rheoliad 2019/1666” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb(38);

ystyr “Rheoliad 2019/1715” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system(39);

ystyr “Rheoliad 2019/1793” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/1660(40);

ystyr “Rheoliad 2019/1873” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cydgysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd(41).

ystyr “Rheoliad 2019/2007” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin ac yn diwygio Penderfyniad 2007/275/EC(42);

ystyr “Rheoliad 2019/2074” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2074 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ynghylch rheolaethau swyddogol penodol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd i’r Undeb yn dilyn gwrthod mynediad gan drydedd wlad(43);

ystyr “Rheoliad 2019/2122” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, ac yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011(44);

ystyr “Rheoliad 2019/2123” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion lle y caniateir cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol mewn pwyntiau rheoli ac y caniateir cynnal gwiriadau dogfennol o bell o safleoedd rheoli ar y ffin, a’r amodau y cynhelir y gwiriadau hynny oddi tanynt(45);

ystyr “Rheoliad 2019/2124” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb, ac yn diwygio Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 798/2008, (EC) Rhif 1251/2008, (EC) Rhif 119/2009, (EU) Rhif 206/2010, (EU) Rhif 605/2010, (EU) Rhif 142/2011, (EU) Rhif 28/2012, Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/759 a Phenderfyniad y Comisiwn 2007/777/EC(46);

ystyr “Rheoliad 2019/2126” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2126 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol penodol ar gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau, mesurau i’w cymryd yn dilyn cyflawni’r rheolaethau hynny a chategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(47);

ystyr “Rheoliad 2019/2129” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2129 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer cymhwyso cyfraddau amlder unffurf ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i’r Undeb(48);

ystyr “Rheoliad 2019/2130” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2130 sy’n sefydlu rheolau manwl ar y gweithrediadau i’w cyflawni yn ystod, ac ar ôl, gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar anifeiliaid a nwyddau sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(49);

ystyr “Rheoliad 2020/466” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/466 ar fesurau dros dro i atal risgiau i iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion a lles anifeiliaid yn ystod tarfu difrifol penodol ar systemau rheoli Aelod-wladwriaethau oherwydd clefyd y coronafeirws(50);

ystyr “Rheoliad 2020/1158” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1158 ar yr amodau sy’n llywodraethu mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n tarddu o drydedd wledydd yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf bŵer niwclear Chernobyl(51).

Rheoliad 3(8)

ATODLEN 2Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 1 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliad 2(1A)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(52);

ystyr “Rheoliad 999/2001” yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(53);

ystyr “Rheoliad 178/2002” yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(54);

ystyr “Rheoliad 852/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd(55) fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid(56) fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005 a Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden(57);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(58);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(59);

ystyr “Rheoliad 2017/185” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor(60);

Pecyn Rheoliad 2017/625

ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC(61) fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;

ystyr “Rheoliad 2019/478” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(62);

ystyr “Rheoliad 2019/624” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor(63);

ystyr “Rheoliad 2019/625” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl(64);

ystyr “Rheoliad 2019/626” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn(65);

ystyr “Rheoliad 2019/627” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol(66);

ystyr “Rheoliad 2019/628” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn(67);

ystyr “Rheoliad 2019/1012” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin(68);

ystyr “Rheoliad 2019/1013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb(69);

ystyr “Rheoliad 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli(70);

ystyr “Rheoliad 2019/1081” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(71);

ystyr “Rheoliad 2019/1602” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(72);

ystyr “Rheoliad 2019/1666” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb(73);

ystyr “Rheoliad 2019/1715” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system(74);

ystyr “Rheoliad 2019/1793” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/1660(75);

ystyr “Rheoliad 2019/1873” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cydgysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd(76);

ystyr “Rheoliad 2019/2007” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin ac yn diwygio Penderfyniad 2007/275/EC(77);

ystyr “Rheoliad 2019/2074” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2074 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ynghylch rheolaethau swyddogol penodol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd i’r Undeb yn dilyn gwrthod mynediad gan drydedd wlad(78);

ystyr “Rheoliad 2019/2122” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, ac yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011(79);

ystyr “Rheoliad 2019/2123” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion lle y caniateir cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol mewn pwyntiau rheoli ac y caniateir cynnal gwiriadau dogfennol o bell o safleoedd rheoli ar y ffin, a’r amodau y cynhelir y gwiriadau hynny oddi tanynt(80);

ystyr “Rheoliad 2019/2124” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb, ac yn diwygio Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 798/2008, (EC) Rhif 1251/2008, (EC) Rhif 119/2009, (EU) Rhif 206/2010, (EU) Rhif 605/2010, (EU) Rhif 142/2011, (EU) Rhif 28/2012, Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/759 a Phenderfyniad y Comisiwn 2007/777/EC(81);

ystyr “Rheoliad 2019/2126” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2126 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol penodol ar gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau, mesurau i’w cymryd yn dilyn cyflawni’r rheolaethau hynny a chategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(82);

ystyr “Rheoliad 2019/2129” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2129 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer cymhwyso cyfraddau amlder unffurf ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i’r Undeb(83);

ystyr “Rheoliad 2019/2130” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2130 sy’n sefydlu rheolau manwl ar y gweithrediadau i’w cyflawni yn ystod, ac ar ôl, gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar anifeiliaid a nwyddau sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin(84);

ystyr “Rheoliad 2020/466 yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/466 ar fesurau dros dro i atal risgiau i iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion a lles anifeiliaid yn ystod tarfu difrifol penodol ar systemau rheoli Aelod-wladwriaethau oherwydd clefyd y coronafeirws(85);

ystyr “Rheoliad 2020/1158” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1158 ar yr amodau sy’n llywodraethu mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n tarddu o drydedd wledydd yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf bŵer niwclear Chernobyl(86).

Rheoliad 3(9)

ATODLEN 3Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 4 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2
Awdurdod CymwysY darpariaethau yn Rheoliad 2017/625
Yr AsiantaethErthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 11, 12, 15, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 37, 38, 39, 40, 42, 63(4)(a), 65(5), 66(6), 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 135, 137, 138, 140.
Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 135, 137, 138, 140.

Rheoliad 3(10)

ATODLEN 4Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 5 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2
Awdurdod CymwysY darpariaethau yn Rheoliad 2017/625
Yr AsiantaethErthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 42, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57(3), 63(4)(a), 65(5), 66(6), 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.
Yr awdurdod bwydErthyglau 4(2), 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.

Rheoliad 3(11)

ATODLEN 5Yr Atodlen i’w rhoi yn lle Atodlen 6 i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliadau 22 a 41(1)(a)

ATODLEN 6DARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG

Colofn 1Colofn 2
Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE Y cynnwys
Erthygl 69(1) o Reoliad 2017/625Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i gyflawni’r holl fesurau y mae’r awdurdodau cymwys yn eu gorchymyn.
Erthygl 1 o Reoliad 2019/1013Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys ynghylch y safle rheoli ar y ffin, o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir i’r llwyth gyrraedd.
Erthygl 3 o Reoliad 2019/1602Gofyniad bod Dogfen Fynediad Iechyd Gyffredin (DFIG) i fynd gyda phob llwyth pa un a gaiff ei hollti yn y safle rheoli ar y ffin neu ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin ai peidio.
Erthygl 4(a) o Reoliad 2019/1602Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda’r llwyth i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 4(b) o Reoliad 2019/1602Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(1)(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth hysbysu ymlaen llaw, i ddatgan mai’r safle rheoli ar y ffin yw’r gyrchfan yn y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan.
Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i ofyn am i’r llwyth gael ei hollti, a’i fod i gyflwyno, drwy’r IMSOC, DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 5(1)(d) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn mynd gyda’r rhan berthnasol i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 5(1)(e) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(2)(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth nad yw’n cydymffurfio i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i gyflwyno DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 6(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda phob rhan o’r llwyth a holltwyd hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 6(b) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 3(1) o Reoliad 2019/1666Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi gwybod i’r awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y sefydliad yn y gyrchfan, fod y llwyth wedi cyrraedd, a hynny o fewn un diwrnod i’r adeg y mae’r llwyth yn cyrraedd.
Erthygl 6(1) o Reoliad 2019/2123Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i’r pwynt rheoli a nodir yn y DFIG, neu benderfynu gwneud hynny, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gyflwyno’r llwyth ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol i bwynt rheoli gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i bwynt rheoli arall yn unol â phwynt (a) o Erthygl 3(1) a phwynt (a) o Erthygl 4(2).
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2123Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth nodi rhif cyfeirnod y DFIG a gwblhawyd y cyfeirir ati yn Erthygl 6(3) yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG honno at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 6(1) of Reoliad 2019/2124Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwythi a awdurdodir ar gyfer eu cludo ymlaen yn unol ag Erthygl 4 yn sicrhau: (a) yn ystod ei gludo i’r cyfleuster cludo ymlaen, a’i storio yn y cyfleuster hwnnw, nad ymyrrir â’r llwyth mewn unrhyw fodd; (b) nad yw’r llwyth yn ddarostyngedig i unrhyw addasu, prosesu, amnewid neu newid deunydd pecynnu; (c) nad yw’r llwyth yn gadael y cyfleuster cludo ymlaen hyd nes y bydd awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn gwneud y penderfyniad ynghylch y llwyth yn unol ag Erthygl 55 o Reoliad 2017/625.
Erthygl 6(2) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gludo’r llwyth o dan oruchwyliaeth tollau yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen, heb ddadlwytho’r nwyddau yn ystod eu cludo, a rhaid iddo storio’r llwyth yn y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod copi, ar bapur neu ar ffurf electronig, o’r DFIG y cyfeirir ati yn Erthygl 3 yn mynd gyda’r llwyth o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(5) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn hysbysu’r awdurdodau cymwys yn y cyrchfan derfynol bod y llwyth wedi cyrraedd y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(6) o Reoliad 2019/2124Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi ei gludo ymlaen i’r cyfleuster cludo ymlaen, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth ei gludo ymlaen i gyfleuster cludo ymlaen gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi’r newid yn unol ag Erthygl 4 ac ar yr amod y cydymffurfir â’r amodau a nodir ym mharagraffau 1 i 5 o Erthygl 6.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ym maes diogelwch a hylendid bwyd anifeiliaid a bwyd er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.

Mae rheoliad 2 yn disodli ac yn diweddaru’r rhestr o Reoliadau’r UE a nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)), ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol o ganlyniad i’r rhestr a ddiweddarwyd.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)).

  • Mae paragraffau (2) ac (8) yn disodli ac yn diweddaru’r rhestr o Reoliadau’r UE a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny, ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig a chanlyniadol o ganlyniad i’r rhestr a ddiweddwyd.

  • Mae paragraff (3) yn rhoi diffiniad diwygiedig o “cynnyrch” yn lle’r un blaenorol yn rheoliad 22. Mae paragraff (4) yn gwneud diwygiad canlyniadol o ganlyniad i’r diffiniad diwygiedig.

  • Mae paragraff (5) yn diwygio rheoliad 36 i wneud darpariaeth ar gyfer talu costau rheolaethau swyddogol o dan Erthygl 79(2)(a) o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â Rhan 3. Mae paragraff (7) yn mewnosod rheoliad 42A newydd yn Rhan 4 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer talu costau rheolaethau swyddogol o dan Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625.

  • Mae paragraff (6) yn diwygio rheoliad 41(1A) i ddisodli’r cyfeiriad at Erthygl 3 o Reoliad (EU) Rhif 211/2013, a ddiddymwyd ac a ddisodlwyd gan Reoliadau (EU) 2019/625 a 2019/628 (rhan o’r pecyn o Reoliadau a wnaed o dan Reoliad (EU) 2017/625).

  • Mae paragraffau (9) a (10) yn rhoi Atodlenni 4 a 5 newydd, yn y drefn honno, yn lle’r rhai blaenorol i gywiro gwallau yn yr Atodlenni presennol.

  • Mae paragraff (11) yn rhoi Atodlen 6 newydd yn lle’r un flaenorol i ddiweddaru’r rhestr o ‘darpariaethau mewnforio penodedig’.

Mae rheoliad 4 yn diweddaru cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387 (Cy. 121)). Yn benodol, mae’n disodli cyfeiriadau at Reoliad (EC) Rhif 882/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 669/2009, sydd yn ôl eu trefn wedi eu diddymu a’u disodli gan Reoliad (EU) 2017/625 a Rheoliad (EU) 2019/1793.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau hyd ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A drwy gyfeirio at yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020 (31 Rhagfyr 2020 am 11 pm). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn flaenorol hefyd gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf 1972 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.

(2)

O.S. 2005/1971, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2766. Mae’r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi. Nid yw’r dynodiad yn estyn i fesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol (gan gynnwys rheolyddion twf) na chynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid ac eithrio sefydlogyddion, neu sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd. Mae O.S. 2005/1971 wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3)

O.S. 2008/1792, sydd wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(4)

O.S. 2010/2690. Nid yw’r dynodiad yn estyn i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol y bwriedir eu defnyddio mewn bwyd anifeiliaid ac eithrio darpariaeth sy’n ymwneud â sylweddau sy’n cael effaith ffafriol ar yr amgylchedd, sylweddau gwella treuliadwyedd, neu sefydlogyddion fflora’r perfedd. Mae O.S. 2010/2690 wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(5)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).

(6)

O.S. 2006/31 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1482; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2019/1482 (Cy. 266); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

OJ Rhif L 116, 4.5.2007, t. 9, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 dyddiedig 18 Tachwedd 2019 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin (OJ Rhif L 312, 3.12.19, t. 1).

(10)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2127 dyddiedig 10 Hydref 2019 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dyddiad cymhwyso darpariaethau penodol Cyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC, 97/78/EC a 2000/29/EC (OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 111).

(11)

OJ L 277, 29.10.2019, t. 89, fel y’i diwygwyd ddiweddaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1540 dyddiedig 22 Hydref 2020 mewn perthynas â hadau sesamum sydd yn tarddu o India (OJ Rhif L 353, 23.10.20, t. 4).

(12)

OJ Rhif L 157, 30.4.2004, t. 33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi ei nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 195, 2.6.2004, t. 12).

(13)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1.

(14)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi ei nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 3) y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L 204, 4.8.2007, t. 26).

(15)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi ei nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 22), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L 204, 4.8.2007, t. 26).

(16)

OJ Rhif L 271, 15.10.2005, t. 17.

(17)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 1, fel y’i darllenir gyda’r Corigenda yn OJ Rhif L 278, 10.10.2006, t. 32 ac OJ Rhif L 283, 14.10.2006, t. 62.

(18)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 27.

(19)

OJ Rhif L 242, 20.9.2011, t. 2.

(20)

OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18.

(21)

OJ Rhif L 68, 12.3.2013, t. 16.

(22)

OJ Rhif L 68, 12.3.2013, t. 24.

(23)

OJ Rhif L 160, 29.5.2014, t. 14.

(24)

OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t. 7.

(25)

OJ Rhif L 29, 3.2.2017, t. 21.

(26)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1.

(27)

OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4.

(28)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 1.

(29)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 18.

(30)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 31.

(31)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 51.

(32)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 101.

(33)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 4.

(34)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.

(35)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 10.

(36)

OJ Rhif L 171, 26.6.2019, t. 1.

(37)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 6.

(38)

OJ Rhif L 255, 4.10.2019, t. 1.

(39)

OJ Rhif L 261, 14.10.2019, t. 37.

(40)

OJ Rhif L 277, 29.10.2019, t. 89.

(41)

OJ Rhif L 289, 8.11.2019, t. 50.

(42)

OJ Rhif L 312, 3.12.2019, t. 1.

(43)

OJ Rhif L 316, 6.12.2019, t. 6.

(44)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.

(45)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 64.

(46)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 73.

(47)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 104.

(48)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 122.

(49)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 128.

(50)

OJ Rhif L 98, 31.3.2020, t. 30.

(51)

OJ Rhif L 257, 6.8.2020, t. 1.

(52)

OJ Rhif L 157, 30.4.2004, t. 33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi ei nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 195, 2.6.2004, t. 12).

(53)

OJ Rhif L 157, 30.4.2004, t. 33.

(54)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1.

(55)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 1.

(56)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 55.

(57)

OJ Rhif L 271, 15.10.2005, t. 17

(58)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 1.

(59)

OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 27.

(60)

OJ Rhif L 29, 3.2.2017, t. 21.

(61)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1.

(62)

OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4.

(63)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 1.

(64)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 18.

(65)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 31.

(66)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 51.

(67)

OJ Rhif L 131, 17.5.2019, t. 101.

(68)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 4.

(69)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.

(70)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 10.

(71)

OJ Rhif L 171, 26.6.2019, t. 1.

(72)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 6.

(73)

OJ Rhif L 255, 4.10.2019, t. 1.

(74)

OJ Rhif L 261, 14.10.2019, t. 37.

(75)

OJ Rhif L 277, 29.10.2019, t. 89.

(76)

OJ Rhif L 289, 8.11.2019, t. 50.

(77)

OJ Rhif L 312, 3.12.2019, t. 1.

(78)

OJ Rhif L 316, 6.12.2019, t. 6.

(79)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.

(80)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 64.

(81)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 73.

(82)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 104.

(83)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 122.

(84)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 128.

(85)

OJ Rhif L 98, 31.3.2020, t. 30.

(86)

OJ Rhif L 257, 6.8.2020, t. 1.