- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014(1) wedi eu diwygio, i’r graddau y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, hepgorer paragraff (1A).
(3) Yn rheoliad 5—
(a)yn lle paragraff (2)(b) rhodder—
“(b)yn cynnwys datganiad gan Weinidogion Cymru o’r gyfradd am y cyfnod hwnnw;”;
(b)hepgorer paragraff (3).
(4) Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 15 mewnosoder—
16.—(1) Ni chaiff buddiolwr drosi, aredig neu ailhadu darnau penodol o laswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif ond—
(a)os yw hysbysiad y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r buddiolwr aredig neu drosi darnau penodol o’r safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu
(b)os yw’r caniatâd i wneud hynny wedi ei roi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
(2) Yn y paragraff hwn—
ystyr “glaswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif” (“environmentally sensitive permanent grassland”) yw—
glaswelltir a leolir mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; a
glaswelltir y mae’n ofynnol cael caniatâd ysgrifenedig i aredig mewn perthynas ag ef yn unol ag adran 28E(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(2) ond nad yw caniatâd o’r fath wedi ei gael;
mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.”
11.—(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 2014(3)wedi eu diwygio, i’r graddau ag y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “competent authority”, hepgorer “, except as otherwise provided by regulation 3,”.
(3) Yn rheoliad 3 (awdurdod cymwys)—
(a)hepgorer paragraffau (2) i (3A);
(b)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) In this regulation, “holding” has the meaning given by Article 4(1)(b) of the Direct Payments Regulation.”.
12.—(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015(4) wedi eu diwygio, i’r graddau ag y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)mae’r ddarpariaeth bresennol wedi ei hailrifo fel paragraff (1);
(b)ar ddechrau’r paragraff (1) a ailrifwyd, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(c)ar ôl y paragraff (1) a ailrifwyd mewnosoder—
“(2) Caniateir i daliadau uniongyrchol gael eu rhoi i ffermwr pan fo arwynebedd cymwys y daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn llai na 5 hectar os oedd taliadau uniongyrchol wedi eu hawlio gan y ffermwr hwnnw yn 2020 neu’n ddyledus iddo bryd hynny—
(a)cyn cymhwysiad Erthygl 63 o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013; a
(b)mewn cysylltiad â daliad o’r fath (fel y’i diffinnir ar gyfer blwyddyn hawlio 2020)—
(i)a leolir yng Nghymru ac o leiaf un diriogaeth arall;
(ii)pan fo arwynebedd cymwys a leolir yng Nghymru y daliad hwnnw yn llai na 5 hectar; a
(iii)yr oedd taliad wedi ei hawlio neu’n ddyledus mewn cysylltiad â’r arwynebedd cymwys a leolir yng Nghymru.”
(3) Hepgorer rheoliad 9.
(4) Yn rheoliad 10—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer “Erthygl 24 neu”;
(b)hepgorer paragraffau (3) a (4).
(5) Yn rheoliad 11(3), yn lle “30 Ebrill” rhodder “15 Mai”.
(6) Hepgorer rheoliadau 14 i 16, a 19.
O.S. 2014/3223 (Cy. 328), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/217 (Cy. 86), O.S. 2016/1154, O.S. 2017/565 (Cy. 134), O.S. 2019/688 (Cy. 132) o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ymlaen, ac O.S. 2020/104 (Cy. 17).
O.S. 2014/3263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1325. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2015/1252 (Cy. 84), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/217 (Cy. 86), O.S. 2019/688 (Cy. 132) o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ymlaen, ac O.S. 2020/104 (Cy. 17).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: