Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 7Gorfodi

Swyddogion gorfodaeth

25.—(1At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 8, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol—

(a)at ddibenion y Rheoliadau hyn,

(b)o dan reoliad 17(A1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(1),

(c)o dan reoliad 21(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(d)o dan reoliad 25(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

(2At ddibenion rheoliadau 19, 20, 27 i 34, 36 a 47, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)awdurdod lleol,

at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu

(d)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—

(i)rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2) yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),

(ii)rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,

(iii)rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu

(iv)o dan reoliad 25(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(ond gweler paragraff (3)).

(3Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond—

(a)mewn perthynas â thorri gofyniad (neu achos honedig o’i dorri) yn—

(i)rheoliad 16(1) neu 17(1)

(ii)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 1,

(iii)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 2,

(iv)paragraff 7(1), 8(1) neu (2) neu 10(1) o Atodlen 3, neu

(v)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) neu 10(1) o Atodlen 4, neu

(b)o dan ac yn rhinwedd Atodlen 8.

Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliol

26.  Mae Atodlenni 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliadau 16(1) a 17(1) ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.

Hysbysiadau cydymffurfio

27.—(1Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn—

(a)rheoliad 19(5),

(b)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 1,

(c)paragraff 7(1) neu 8(1) neu (2) o Atodlen 2,

(d)paragraff 7(1), 8(1) neu (2) neu 10(1) o Atodlen 3, neu

(e)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) neu 10(1) o Atodlen 4.

(2Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

Pwerau symud a gwasgaru: cynulliadau a bod oddi cartref

28.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat yn groes i—

(a)paragraff 1(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 1(1) o Atodlen 2,

(c)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.

(2Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau nad yw’r person yn byw yn yr annedd—

(i)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r annedd;

(ii)symud y person o’r annedd.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn man ac eithrio annedd breifat yn groes i—

(a)paragraff 2(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 2,

(c)paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.

(4Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r man lle y mae’r cynulliad yn digwydd;

(c)symud y person o’r man hwnnw.

(5Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’r person yn byw yn groes i baragraff 1(1) o Atodlen 4, caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

(b)symud y person i’r man hwnnw.

Pwerau sy’n ymwneud â chyfyngiadau teithio

29.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin mynd i ardal yn groes i—

(a)paragraff 6(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 6(1) o Atodlen 2,

(c)paragraff 6(1) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 6(1) o Atodlen 4.

(2Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r ardal.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person mewn ardal yn groes i—

(a)paragraff 6(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 6(1) o Atodlen 2,

(c)paragraff 6(1) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 6(1) o Atodlen 4.

(4Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r ardal;

(b)symud y person o’r ardal.

(5Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael ag ardal yn groes i—

(a)paragraff 6(2) o Atodlen 1,

(b)paragraff 6(2) o Atodlen 2, neu

(c)paragraff 6(2) o Atodlen 3.

(6Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â’r ardal.

(7Mae paragraff (8) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael ag ardal yn groes i—

(a)paragraff 6(2) o Atodlen 1,

(b)paragraff 6(2) o Atodlen 2, neu

(c)paragraff 6(2) o Atodlen 3.

(8Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r ardal;

(b)dychwelyd y person i’r ardal.

Pwerau sy’n ymwneud â thorri gofyniad ynysu

30.  Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

(b)symud y person i’r man hwnnw.

Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadau

31.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—

(a)yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);

(b)yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i (neu y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried ei fod yn debygol o fod yn groes i) baragraff 4 o Atodlen 1, paragraff 4 o Atodlen 2, paragraff 4 o Atodlen 3 neu baragraff 4 o Atodlen 4.

(2Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

(b)symud P o leoliad y digwyddiad;

(c)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

(d)symud unrhyw berson o’r digwyddiad;

(e)pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—

(i)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;

(ii)symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2, paragraff 5 o Atodlen 3 neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;

(b)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

(c)symud P o leoliad y digwyddiad;

(d)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

(e)symud unrhyw berson o’r digwyddiad.

Gorfodi gofynion gorchuddion wyneb

32.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;

(b)symud y person o’r cerbyd.

(2Pan fo gan—

(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu

(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,

sail resymol dros amau bod person ar fin torri rheoliad 19(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 20(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r fangre;

(b)symud y person o’r fangre.

Gorfodi: plant

33.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) y caiff y swyddog arfer pŵer mewn cysylltiad ag ef o dan y Rhan hon yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i gymryd unrhyw gamau gweithredu mewn cysylltiad â P y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(2At ddibenion paragraff (1), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Pŵer mynediad

34.—(1Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—

(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.

(3Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

(4Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.

Pŵer yr heddlu i gynnal archwiliadau ar y ffyrdd

35.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “archwiliad ar y ffordd” yw arfer y pŵer a roddir gan adran 163 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(3) mewn ardal yn y fath fodd i stopio, yn ystod y cyfnod pan fydd y pŵer hwnnw yn parhau i gael ei arfer yn yr ardal honno, bob cerbyd neu gerbydau sydd wedi eu dethol yn ôl unrhyw faen prawf.

(2Caiff cwnstabl gynnal archwiliad ar y ffordd at ddiben canfod a yw cerbyd yn cario person y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni, neu

(b)ei fod yn bwriadu cyflawni

trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i archwiliad ar y ffordd gael ei awdurdodi gan gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch.

(4Ond caiff cwnstabl o dan y rheng honno awdurdodi archwiliad ar y ffordd os yw’r cwnstabl yn ystyried ei fod yn angenrheidiol fel mater o frys.

(5Caiff cwnstabl awdurdodi archwiliad ar y ffordd os oes gan y cwnstabl sail resymol dros gredu bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn yr ardal y byddai cerbydau’n cael eu stopio ynddi, neu ar fin bod yn yr ardal honno.

(6Rhaid i awdurdodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)yr ardal y mae cerbydau i’w stopio ynddi;

(b)y cyfnod, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, pan ganiateir cynnal yr archwiliad ar y ffordd;

(c)a yw’r archwiliad ar y ffordd i’w gynnal—

(i)yn barhaus drwy gydol y cyfnod, neu

(ii)ar adegau penodol yn ystod y cyfnod (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r awdurdodiad bennu’r adegau hynny);

(d)enw’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad.

(7Pan fo archwiliad ar y ffordd wedi ei awdurdodi o dan baragraff (4)

(a)ni chaiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (6)(b) fod yn hwy na 2 ddiwrnod;

(b)rhaid i’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r awdurdodiad, roi gwybod i gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch ei fod wedi ei roi.

(8Caiff cwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch roi awdurdodiad yn ysgrifenedig i archwiliad ar y ffordd barhau am gyfnod pellach, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, y tu hwnt i’r cyfnod yr awdurdodwyd yr archwiliad ar y ffordd amdano yn wreiddiol.

(9Pan fo cerbyd yn cael ei stopio yn ystod archwiliad ar y ffordd, mae gan y person sy’n gyfrifol am y cerbyd ar yr adeg pan yw’n cael ei stopio hawlogaeth i gael datganiad ysgrifenedig am ddiben yr archwiliad ar y ffordd drwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig—

(a)i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle y cynhelir yr archwiliad ar y ffordd, a

(b)heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis o’r diwrnod pan stopiwyd y cerbyd.

Gorfodi: darpariaeth atodol

36.—(1Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.

(2Caiff y camau gweithredu a gymerir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried—

(i)ei bod neu ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog i benderfynu pa un ai i arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, neu

(ii)ei bod neu ei fod yn berthnasol fel arall i arfer pŵer o’r fath;

(b)cyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(3Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—

(a)rheoliad 28(2)(b)(ii), (4)(c) neu (5)(b);

(b)rheoliad 29(4)(b) neu (8)(b);

(c)rheoliad 30(b);

(d)rheoliad 31(2)(b), (d) neu (e)(ii), neu (3)(c) neu (e);

(e)rheoliad 32(1)(b) neu (3)(b);

(f)rheoliad 34(1).

(4Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(5Yn y Rhan hon a Rhan 8, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

(3)

1988 p. 52, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40) a Deddf Rheoli Traffig 2004 (p. 18).

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources