Aelwydydd estynedig yn ystod cyfnod y Nadolig
4.—(1) Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 3 (aelwydydd estynedig) rhodder—
“Y Nadolig: aelwyd estynedig
3.—(1) Caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gydag aelwyd arall yn ystod cyfnod y Nadolig.
(2) Yn ychwanegol at y 2 aelwyd sydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
(3) Er mwyn cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig rhaid i holl aelodau’r aelwydydd sy’n oedolion gytuno (ond gweler is-baragraff (4)).
(4) Caiff aelod o aelwyd (“aelwyd wreiddiol”) sy’n oedolyn gytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig nad yw aelod arall o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolyn wedi cytuno i fod yn rhan ohoni.
(5) Pan fo is-baragraff (4) yn gymwys—
(a)mae’r aelwyd wreiddiol i’w thrin at ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 1, 2 a 3A fel 2 aelwyd (neu ragor) ar wahân,
(b)rhaid i’r aelodau sy’n oedolion o’r aelwyd wreiddiol benderfynu pa un neu ragor o’r aelwydydd ar wahân hynny sy’n cynnwys unrhyw aelod o’r aelwyd wreiddiol sy’n—
(i)plentyn, neu
(ii)oedolyn y mae gan oedolyn arall ar yr aelwyd gyfrifoldebau gofalu drosto, ac
(c)mae’r aelodau o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolion i ddychwelyd i gael eu trin fel un aelwyd pan nad ydynt yn rhan o aelwyd estynedig mwyach.
(6) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig.
(7) Mae aelwyd estynedig yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(8) Os yw aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig arall gydag unrhyw aelwyd arall.
(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
Addasu “cyfnod y Nadolig”: aelwydydd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon
3A.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo aelwyd sy’n ffurfio rhan o aelwyd estynedig yn aelwyd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon.
(2) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff 3(1) at “cyfnod y Nadolig” i’w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020.”
(3) Ym mharagraff 7—
(a)yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “(pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8)”;
(b)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—
“(5) Mae is-baragraffau (6) a (7) yn gymwys pan fo mangre busnes bwyd a diod (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.
(6) Nid yw is-baragraff (1)—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;
(b)yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr —
(i)fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 11(3)), neu
(ii)rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.”
(4) Yn lle paragraff 8 rhodder—
“Gwestai a llety teithio: gofynion ynghylch preswylwyr
8.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraff 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio), erbyn diwedd y dydd ar 27 Rhagfyr 2020—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)darparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, or
(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(d)darparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw ac sy’n teithio i Ogledd Iwerddon ar 28 Rhagfyr 2020;
(e)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill —
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(3) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.”