Darpariaeth drosiannol ynghylch aelwydydd estynedig
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo aelwyd yn rhan o aelwyd estynedig yn ystod cyfnod y Nadolig yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 3 neu 4 o’r Atodlen hon (“aelwyd estynedig y Nadolig”), a
(b)pan oedd yr aelwyd, yn union cyn cyfnod y Nadolig, yn rhan o aelwyd estynedig a ffurfiwyd o dan neu yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 3 (“aelwyd estynedig cyn y Nadolig”) fel y mae’n gymwys heb yr addasiadau a wneir ym mharagraff 3.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn fel y’u haddesir gan yr Atodlen hon—
(a)mae’r aelwyd estynedig cyn y Nadolig i’w thrin fel pe na bai’n bodoli mwyach, a
(b)mae’r aelwyd i’w thrin fel pe na bai wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig cyn cytuno i ffurfio rhan o aelwyd estynedig y Nadolig.
(3) Yn union ar ddiwedd cyfnod y Nadolig, mae’r aelwyd i’w thrin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe na bai wedi gwneud unrhyw gytundeb blaenorol i gael ei thrin fel rhan o aelwyd estynedig.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfnod y Nadolig” mewn perthynas ag aelwyd yw—
(a)y cyfnod sy’n dechrau â 23 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 27 Rhagfyr 2020, neu
(b)pan fo’r aelwyd—
(i)yn byw yng Ngogledd Iwerddon, neu
(ii)yn rhan o aelwyd estynedig y Nadolig gydag aelwyd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon,
y cyfnod sy’n dechrau â 22 Rhagfyr 2020 ac sy’n dod i ben â 28 Rhagfyr 2020.