- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
22 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbon Senedd Cymru
29 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y Rheoliadau hyn heb osod drafft o’r offeryn gerbron Senedd Cymru, na chymeradwyo’r drafft hwnnw drwy benderfyniad ganddi.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—
11A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod amodau mewnforio arbennig mewn cysylltiad â mewnforion o drydydd gwledydd o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, gan roi sylw i’r sefyllfa o ran iechyd anifeiliaid yn y drydedd wlad neu yn y trydydd gwledydd dan sylw, a chânt at y diben hwnnw ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(3).
(2) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan y paragraff hwn—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol; ac
(c)yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, darfodol, trosiannol neu ddarpariaeth arbed y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol.
(3) Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y paragraff hwn yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.”
3.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder—
“ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Controls Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu, y Rheoliadau Dirprwyedig a’r offerynnau statudol a wnaed oddi tano;”;
(b)yn y diffiniad o “swyddog gorfodi”, yn lle “orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “orfodi’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”;
(c)yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “Ewropeaidd a domestig” rhodder “uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig”.
(3) Yn rheoliad 4, hepgorer “yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill”.
(4) Yn rheoliadau 4, 5(1), 9(3), 11(1), 12(1) a 13, ym mhob lle y maent yn digwydd, yn lle “a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “a’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “â’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “neu’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” ac yn lle “yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “yn y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”.
(5) Yn rheoliad 9—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer “o Aelod-wladwriaeth arall”;
(ii)yn is-baragraff (a), hepgorer y gair “gwlad”;
(b)hepgorer paragraff (2).
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran gweithrediad sy’n ymwneud â rheolaethau swyddogol i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44 (Cy. 5)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Ran 2 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).
O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU (OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 234).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: