- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 11 mewnosoder—
11A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod amodau mewnforio arbennig mewn cysylltiad â mewnforion o drydydd gwledydd o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, gan roi sylw i’r sefyllfa o ran iechyd anifeiliaid yn y drydedd wlad neu yn y trydydd gwledydd dan sylw, a chânt at y diben hwnnw ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(2).
(2) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan y paragraff hwn—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol; ac
(c)yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, darfodol, trosiannol neu ddarpariaeth arbed y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol.
(3) Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y paragraff hwn yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.”
3.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder—
“ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Controls Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu, y Rheoliadau Dirprwyedig a’r offerynnau statudol a wnaed oddi tano;”;
(b)yn y diffiniad o “swyddog gorfodi”, yn lle “orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “orfodi’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”;
(c)yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “Ewropeaidd a domestig” rhodder “uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig”.
(3) Yn rheoliad 4, hepgorer “yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill”.
(4) Yn rheoliadau 4, 5(1), 9(3), 11(1), 12(1) a 13, ym mhob lle y maent yn digwydd, yn lle “a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “a’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “â’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “neu’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” ac yn lle “yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” rhodder “yn y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”.
(5) Yn rheoliad 9—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer “o Aelod-wladwriaeth arall”;
(ii)yn is-baragraff (a), hepgorer y gair “gwlad”;
(b)hepgorer paragraff (2).
O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU (OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 234).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: