Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 18

F1ATODLEN 1LL+CMesurau gwladol dros dro

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rheoliad 23

ATODLEN 2LL+C

RHAN 1LL+CDehongli cyffredinol

1.  Yn yr Atodlen hon—LL+C

F2...

F2...

F2...

[F3ystyr “EPPO PM 7/21” (“EPPO PM 7/21”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Ralstonia solanacearum, R. pseudosolanacearum ac R. syzygii a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;

ystyr “EPPO PM 7/40” (“EPPO PM 7/40”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Globodera rostochiensis a Globodera pallida a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;

ystyr “EPPO PM 7/59” (“EPPO PM 7/59”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Clavibacter michiganensis subsp. sepedonicus a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;

ystyr “EPPO PM 7/119” (“EPPO PM 7/119”) yw’r safon sy’n disgrifio’r gweithdrefnau ar gyfer echdynnu nematodau a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor;.]

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;

ystyr “Pydredd coch tatws” (“Potato brown rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Pydredd cylch tatws” (“Potato ring rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y bacteriwm Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. spp. Sependonicus (Spieckermann a Kotthof) Davis et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Rheoliadau Tatws Hadyd” (“Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(1);

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu wir had neu unrhyw blanhigyn arall o Solanum tuberosum L, neu unrhyw rywogaeth arall o’r genws Solanum L. sy’n ffurfio cloron.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CDarpariaethau cyffredinol ynglŷn â phlannu rhywogaethau mochlysaidd penodol

Cyfyngiadau cyffredinol ar blannu tatwsLL+C

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw datws a dyfwyd mewn trydedd wlad [F4y mae’r gwaharddiad yn Erthygl 40(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion yn gymwys iddynt], neu

(b)unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny.

(2Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu unrhyw datws, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—

(a)eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan [F5raglen ar gyfer ardystio tatws a gymeradwywyd yn swyddogol gan awdurdod cymwys neu awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron] ,

(b)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn [F6EPPO PM 7/21], ac

(c)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn [F7EPPO PM 7/59].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 3LL+CMesurau i reoli Clefyd y ddafaden tatws

DehongliLL+C

3.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “Clefyd y ddafaden tatws” yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y ffwng Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival neu’r ffwng hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

(b)mae llain o dir i’w hystyried yn llain halogedig os bydd prawf swyddogol yn cadarnhau bod Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol ar o leiaf un planhigyn sy’n tyfu neu a dyfwyd ar y llain honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau swyddogol ynglŷn â lleiniau tir halogedigLL+C

4.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddarnodi unrhyw lain halogedig a pharth diogelwch o amgylch y llain honno sy’n ddigon mawr i sicrhau diogelwch yr ardal o’i hamgylch.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gloron neu wlydd tatws sy’n bresennol ar y llain halogedig neu sydd wedi dod o’r llain halogedig, gael eu trin mewn modd sy’n sicrhau bod Clefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol arnynt yn cael ei ddinistrio.

(3Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod unrhyw gloron neu wlydd tatws wedi eu halogi â Chlefyd y ddafaden tatws ac na all yr arolygydd ganfod a fu’r cloron neu’r gwlydd hynny yn bresennol ar lain halogedig, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r swp cyfan sy’n cynnwys y cloron neu’r gwlydd yr effeithiwyd arnynt gael ei drin mewn modd sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Clefyd y ddafaden tatws yn lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Gwahardd plannu tatws ar leiniau halogedigLL+C

5.—(1Pan fo llain halogedig wedi ei darnodi o dan baragraff 4(1), ni chaiff unrhyw berson—

(a)tyfu unrhyw datws ar y llain, neu

(b)tyfu neu storio ar y llain unrhyw blanhigion a fwriedir i’w trawsblannu.

(2Ni chaiff unrhyw berson dyfu tatws mewn parth diogelwch a ddarnodir o dan baragraff 4(1) oni bai bod arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni eu bod o rywogaeth sydd ag ymwrthedd i’r hiliau o Glefyd y ddafaden tatws a geir ar y llain halogedig y mae’r parth diogelwch yn ymwneud â hi.

(3Bernir bod amrywogaeth tatws yn un sydd ag ymwrthedd i hil benodol o Glefyd y ddafaden tatws at ddibenion is-baragraff (2) pan fo’r amrywogaeth honno yn adweithio i halogiad gan gyfrwng pathogenig yr hil honno mewn modd sy’n sicrhau nad oes perygl o sgil-heintio.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Dirymu darnodiad llain halogedigLL+C

6.  Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni nad yw Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol mwyach ar lain a ddarnodir o dan baragraff 4(1) neu ar ei pharth diogelwch cysylltiedig, rhaid i’r arolygydd ddirymu’r darnodiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 4LL+CMesurau i reoli poblogaethau Ewropeaidd o Lyngyr tatws

DehongliLL+C

7.  Yn y Rhan hon—

ystyr “bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible bulbs”) yw bylbiau, cloron neu risomau, a dyfwyd mewn pridd ac a fwriedir i’w plannu, o Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. Ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L., heblaw’r rhai y ceir tystiolaeth drwy gyfrwng eu pecynnau neu drwy ddulliau eraill y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion neu flodau wedi eu torri;

ystyr “cae” (“field”) yw ardal sydd wedi ei darnodi fel cae at ddibenion [F8y Rhan hon];

ystyr “cae a heigiwyd” (“infested field”) yw cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol â pharagraff 9(1);

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion cynhaliol, bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws, gan gynnwys unrhyw fath neu bathoteip o lyngyr o’r fath;

[F9ystyr “mesurau penodedig” (“specified measures”) yw—

(a)

at ddibenion paragraff 9(2), ail-samplu swyddogol y cae a chynnal profion swyddogol ar y samplau, a gynhelir o leiaf bob tair blynedd ar ôl gweithredu mesurau rheoli priodol a gymeradwywyd yn swyddogol yn y cae neu, yn unrhyw achos arall, o leiaf bum mlynedd ar ôl y flwyddyn y canfuwyd Llyngyr tatws neu y tyfwyd tatws ddiwethaf yn y cae ynddi;

(b)

at ddibenion paragraffau 11(3) a 15—

(i)

dadheigio’r bylbiau neu’r planhigion drwy ddulliau priodol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;

(ii)

symud pridd oddi ar y bylbiau neu’r planhigion drwy eu golchi neu eu brwsio hyd nes eu bod yn rhydd rhag pridd i bob pwrpas, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;]

ystyr “planhigion cynhaliol” (“host plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.;

ystyr “planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

[F10Profion swyddogolLL+C

7A.  Rhaid cynnal unrhyw brofion swyddogol ar samplau at ddibenion y Rhan hon yn unol ag EPPO PM 7/40 ac EPPO PM 7/119.]

Ymchwiliadau ac arolygon swyddogolLL+C

8. [F11(1)]  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod ymchwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol [F12â’r Rhan hon] ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau y bwriedir plannu neu storio ynddynt datws hadyd neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu planhigion i’w plannu, a

(b)bod arolygon swyddogol yn cael eu cynnal yn unol [F13â’r Rhan hon] ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws, heblaw’r rhai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd.

[F14(2) Rhaid i ymchwiliad swyddogol i gae at ddibenion paragraff 8(1)(a) gael ei gynnal—

(a)cyn y plannu neu storio arfaethedig, a

(b)oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o ymchwiliad swyddogol blaenorol sy’n cadarnhau na chanfuwyd unrhyw Lyngyr tatws yn ystod yr ymchwiliad ac nad oedd tatws na phlanhigion cynhaliol yn bresennol ar adeg yr ymchwiliad hwnnw ac nad ydynt wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad hwnnw, rhwng cynaeafu’r cnwd diwethaf yn y cae a’r gwaith arfaethedig o blannu tatws hadyd neu ddeunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

(3) Yn achos cae lle y mae tatws hadyd neu blanhigion cynhaliol, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

(4) Yn achos cae lle y mae bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys—

(a)samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau, neu

(b)gwirio, ar sail canlyniadau profion priodol a gymeradwywyd yn swyddogol, na fu Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol neu wirio, ar sail hanes cnydio hysbys y cae, na thyfwyd unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol.

(5) Rhaid i arolwg swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(b) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu briodol ar o leiaf 0.5% o’r erwau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws yn y flwyddyn berthnasol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.

(6) Nid yw paragraff 8(1)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws ac—

(a)bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei ddefnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu i’w ddefnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol,

(b)bod tatws hadyd i’w defnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol, neu

(c)yn achos unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, bod y planhigion a gynaeafir i fod yn destun mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol.

(7) At ddibenion is-baragraffau (3) i (5)—

(a)“y gyfradd samplu briodol”, mewn perthynas â chae, yw’r gyfradd samplu ofynnol a bennir yn y tabl a ganlyn—

Is-baragraffCaeY Gyfradd
(3) a (4)Cae ≤ 8 hectar1,500 ml o bridd fesul hectar a gesglir o 100 craidd/hectar o leiaf
Cae > 8 hectarYr 8 hectar cyntaf1,500 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol400 ml o bridd fesul hectar
Cae ≤ 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)400 ml o bridd fesul hectar
Cae > 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b)Y 4 hectar cyntaf400 ml o bridd fesul hectar
Pob hectar ychwanegol200 ml o bridd fesul hectar
(5)Cae ≤ 4 hectar

Unrhyw un neu ragor o’r cyfraddau a ganlyn:

—400 ml o bridd fesul hectar

—gwaith samplu wedi ei dargedu ar o leiaf 400 ml o bridd yn dilyn cynnal archwiliad gweledol o wreiddiau sydd â symptomau gweledol, neu

—pan fo’n bosibl olrhain y tatws a gynaeafwyd i’r cae lle y’u tyfwyd, 400 ml o bridd sy’n gysylltiedig â’r tatws a gynaeafwyd.

(b)y meini prawf yw—

(i)bod tystiolaeth ddogfennol yn bodoli i ddangos nad yw tatws na phlanhigion cynhaliol wedi eu tyfu yn y cae yn y chwe mlynedd cyn yr ymchwiliad swyddogol, neu nad oeddent yn bresennol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw;

(ii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws wedi eu canfod yn ystod y ddau ymchwiliad swyddogol olynol diweddaraf mewn samplau o 1,500 ml o bridd/hectar, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers y cyntaf o’r ddau ymchwiliad hynny;

(iii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws na Llyngyr tatws heb gynnwys byw wedi eu canfod yn yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf a oedd ar ffurf maint sampl o 1,500 ml o bridd/hectar o leiaf, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf.]

Cofnodion swyddogol ymchwiliadau ac arolygonLL+C

9.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canlyniadau pob ymchwiliad swyddogol neu arolwg swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 8 yn cael eu cofnodi i ddangos a ganfuwyd Llyngyr tatws yn y caeau yn ystod yr ymchwiliad neu’r arolwg.

(2Pan fo’r mesurau [F15penodedig perthnasol] wedi eu cymryd mewn cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol ag is-baragraff (1) ac, ar ôl cwblhau’r mesurau hynny, y cadarnheir yn swyddogol nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Hysbysiadau mewn perthynas â chaeau a heigiwyd a deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a halogwydLL+C

10.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i’r person arall sydd â gofal am gae a heigiwyd, sy’n pennu ffiniau’r cae a heigiwyd.

(2Ni chaniateir tynnu’r hysbysiad yn ôl hyd nes y cadarnheir, yn unol â pharagraff 9(2) nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach.

(3Rhaid i arolygydd iechyd planhigion, drwy hysbysiad, ddynodi bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n dod o gae y cofnodwyd yn swyddogol ei fod wedi ei heigio o dan baragraff 9(1) neu unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sydd wedi bod mewn cysylltiad â phridd lle cafwyd Llyngyr tatws yn ddeunydd halogedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Gwahardd plannu tatws mewn caeau a heigiwydLL+C

11.—(1Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—

(a)plannu unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd mewn cae a heigiwyd, neu

(b)plannu neu storio unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei blannu mewn cae a heigiwyd.

(2Caiff arolygydd iechyd planhigion awdurdodi plannu bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau mewn cae a heigiwyd.

(3Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (2) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys [F16un o’r mesurau penodedig perthnasol].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Atal Llyngyr tatwsLL+C

12.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws mewn cae a heigiwyd nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd iechyd planhigion.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a dim ond os yw’r arolygydd wedi ei fodloni bod pob cam rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae wedi eu cymryd yn unol â’r rhaglen reoli swyddogol a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer atal Llyngyr tatws y caniateir iddo gael ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheolaethau ar datws hadyd halogedig etc.LL+C

13.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws hadyd nac unrhyw blanhigion cynhaliol sydd wedi eu dynodi yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3), oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau sy’n angenrheidiol ym marn yr arolygydd i ddihalogi’r tatws hadyd neu’r planhigion cynhaliol hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheolaethau ar datws ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannolLL+C

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw datws a ddynodwyd yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3) ac a fwriedir ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannol, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r tatws gael eu danfon i safle prosesu neu raddio sydd â gweithdrefnau gwaredu gwastraff priodol a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Llyngyr tatws yn lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheolaethau ar fylbiau halogedig etc.LL+C

15.  Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu dynodi fel rhai a halogwyd yn unol â pharagraff 10(3), oni bai eu bod wedi bod yn destun [F17un o’r mesurau penodedig perthnasol] a bod arolygydd wedi cadarnhau drwy hysbysiad nad ydynt wedi eu halogi mwyach.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Ymchwiliadau pellach ar gyfer presenoldeb llyngyr tatwsLL+C

16.  Os yw unrhyw achos a amheuir o Lyngyr tatws neu unrhyw achos o bresenoldeb Llyngyr tatws a gadarnhawyd yn deillio o fethiant neu newid o ran effeithiolrwydd amrywogaeth tatws sydd ag ymwrthedd sy’n ymwneud â newid eithriadol o ran cyfansoddiad rhywogaethau llyngyr, pathodeipiau neu grwpiau gwenwyndra, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir drwy ddulliau priodol ymchwiliad i’r rhywogaeth o Lyngyr tatws dan sylw a, pan fo’n gymwys, y pathoteip a’r grŵp gwenwyndra dan sylw, a’u bod yn cael eu cadarnhau drwy ddulliau priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 5LL+CMesurau i reoli Pydredd cylch tatws

DehongliLL+C

17.  Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig [F18yn unol â pharagraff 19(1)(a)];

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw cloron neu blanhigion Solanum tuberosum L.;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei dynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion [F18yn unol â pharagraff 19(1)(a)] ;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion [F19yn unol â pharagraff 19(1)(b)];

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a nodir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Arolygon a phrofion swyddogolLL+C

18.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolygon swyddogol systemataidd ar gyfer Pydredd cylch tatws yn cael eu cynnal yng Nghymru ar gloron Solanum tuberosum L. a, pan fo’n briodol, ar blanhigion Solanum tuberosum L.F20....

[F21(1A) Yn achos cloron Solanum tuberosum L., rhaid i’r arolygon hynny gynnwys cynnal profion swyddogol ar samplau o datws hadyd a thatws eraill yn unol ag EPPO PM 7/59.

(1B) Yn achos planhigion Solanum tuberosum L., rhaid cynnal yr arolygon hynny yn unol â dulliau priodol, a rhaid iddynt gynnwys cynnal profion swyddogol priodol ar samplau.

(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraffau (1A) ac (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd cylch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol.]

(2Pan amheuir bod Pydredd cylch tatws yn bresennol mewn deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F22EPPO PM 7/59] i gadarnhau a yw’n bresennol ai peidio,

(b)bod y canlynol yn cael eu cadw a’u diogelu’n briodol tra disgwylir i’r profion swyddogol gael eu cwblhau—

(i)yr holl gloron a samplwyd, a lle bynnag y bo’n bosibl, yr holl blanhigion a samplwyd;

(ii)unrhyw echdyniad sy’n weddill a deunydd paratoi ychwanegol ar gyfer y profion sgrinio;

(iii)yr holl ddogfennaeth berthnasol, ac

(c)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd cylch tatws wedi eu gweld, neu pan fo symptomau Pydredd cylch tatws wedi eu canfod gan brawf imiwnofflworoleuedd cadarnhaol neu brawf cadarnhaol priodol arall—

(i)bod symud yr holl lotiau neu lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod camau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd i atal y pla planhigion rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(c)(i) i (iii).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd cylch tatwsLL+C

19.—(1Os yw presenoldeb Pydredd cylch tatws yn cael ei gadarnhau mewn sampl o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 18(2)(a) neu is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y llwyth neu’r lot ac unrhyw wrthrych y cymerwyd y sampl ohono a, pan fo’n briodol, y man cynhyrchu a’r cae y cynaeafwyd y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ohonynt, yn cael eu dynodi yn halogedig gan arolygydd iechyd planhigion;

(b)bod arolygydd iechyd planhigion yn canfod graddau’r halogi tebygol drwy gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu neu drwy unrhyw gyswllt cynhyrchu ag unrhyw beth a ddynodir yn halogedig o dan baragraff (a), gan [F23roi sylw i’r ffactorau a ganlyn— ;

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a dyfir yn y man cynhyrchu halogedig;

(ii)y mannau cynhyrchu sydd ag unrhyw gysylltiad cynhyrchu â’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(iii)cynhyrchu deunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y man cynhyrchu halogedig, neu bresenoldeb deunydd o’r fath yn y man hwnnw;

(iv)y mangreoedd sy’n trafod tatws o’r man cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu a grybwyllir yn is-baragraff (ii);

(v)unrhyw wrthrych a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(vi)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a gaiff ei storio mewn unrhyw wrthrych cyn iddo gael ei ddiheintio, neu ddeunydd o’r fath sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw wrthrych o’r fath;

(vii)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n perthyn fel chwaer neu riant drwy glonio i’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a mannau cynhyrchu’r deunydd hwnnw;]

(c)bod parth yn cael ei ddarnodi gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad a wneir o dan baragraff (a), gan ystyried [F24agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu tatws neu blanhigion cynhaliol eraill a chynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd].

[F25(1A) Wrth wneud dynodiad neu benderfyniad o dan is-baragraff (1), rhaid i arolygydd roi sylw i egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd cylch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol.]

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau wedi ei ddynodi yn halogedig o dan is-baragraff (1)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir profion ar stociau tatws sy’n perthyn drwy glonio i’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y dull a bennir ym mharagraff 18(2)(a) er mwyn canfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(3Rhaid cynnal unrhyw brofion o’r fath ar faint bynnag o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ag sy’n angenrheidiol i ganfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(4Rhaid i unrhyw ddynodiad gan arolygydd iechyd planhigion o dan y paragraff hwn hon gael ei wneud drwy hysbysiad.

(5Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn canfod o dan is-baragraff (1)(b) fod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, neu unrhyw wrthrych, yn halogedig o bosibl, rhaid i’r arolygydd ddynodi drwy hysbysiad fod y deunydd hwnnw neu’r gwrthrych hwnnw yn halogedig o bosibl.

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogwyd o bosibl â Phydredd cylch tatwsLL+C

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 19(1) neu (5), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd gael ei waredu drwy ei ddinistrio neu drwy [F26ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws];

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu [F27mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws];

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2)(c)(ii) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion [F28y Rhan hon].

Mesurau mewn perthynas â man cynhyrchu halogedigLL+C

21.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig—

(a)mewn perthynas ag unrhyw gae halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail gyfres o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Dyma’r set gyntaf o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf dair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(iii)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F29EPPO PM 7/59], a

(d)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws nesaf yn dilyn cylch cylchdroi priodol (rhaid i’r cylch hwnnw fod o leiaf ddwy flynedd pan fo’r tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd).

(3Dyma’r ail set o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gofyniad bod y cae yn cael ei gadw, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fraenar neu’n dir pori parhaol, gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F30EPPO PM 7/59].

(4Dyma’r drydedd set o fesurau dileu—

(a)pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei ddileu, gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws,

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws, a

(iii)tatws hadyd ardystiedig, oni bai eu bod ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta yn unig,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ganlynol—

(i)tatws hadyd ardystiedig, a

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd cylch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n fan cynhyrchu halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn ystod o leiaf y drydedd flwyddyn dyfu, a

(d)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn dyfu er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws a gofyniad bod profion swyddogol yn cael eu cynnal ar y cloron a gynaeafwyd ym mhob cae gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F31EPPO PM 7/59].

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf, a

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

(8Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn cyflwyno hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal mewn perthynas â’r cae a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) yn unol ag [F32EPPO PM 7/59].

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys i uned cynhyrchu cnwd o dan orchuddLL+C

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n eu cynnal ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Pan roddir awdurdodiad o dan is-baragraff (2), caiff yr awdurdodiad bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig, cloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd cylch tatwsLL+C

23.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth yn unol â pharagraff 19(1)(c).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodwyd i atal y risg y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid i unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre yn y parth a ddarnodwyd a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio mewn modd priodol, fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i unrhyw datws hadyd a dyfir mewn man cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl gael eu profi’n swyddogol ar ôl eu cynaeafu;

(d)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre yn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur i gael effaith ac am ba hyd,

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir, a

(b)i unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws o fewn y parth a ddarnodir.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws, a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract, yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion drwy gydol y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod penodedig yn unol ag [F33EPPO PM 7/59];

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(8At ddibenion is-baragraffau (3) a (7), ystyr “y cyfnod penodedig” yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid iddo fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 6LL+CMesurau i reoli Pydredd coch tatws

24.  Yn y Rhan hon—LL+C

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu halogedig yn halogedig [F34yn unol â pharagraff 26(2)(c)];

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron) heblaw gwir hadau Solanum tuberosum L. neu blanhigion, heblaw ffrwythau neu hadau Solanum lycopersicum L.;

ystyr “gofynion PRHG perthnasol” (“relevant RNQP requirements”), mewn perthynas â phlanhigion at blannu Solanum lycopersicum L., yw—

(a)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019, y gofynion a oedd yn gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu yn rhinwedd y Gyfarwyddeb honno;

(b)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd ar neu ar ôl 14 Rhagfyr 2019, y gofynion sy’n gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol neu yn rhinwedd y Rheoliad hwnnw;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion [F34yn unol â pharagraff 26(2)(c)];

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion [F35yn unol â pharagraff 26(2)(d)];

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Arolygon a phrofion swyddogolLL+C

25.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir arolygon swyddogol systemataidd blynyddol yng Nghymru er mwyn nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau F36....

[F37(1A) Rhaid i’r arolygon hynny fod yn seiliedig ar asesiad risg i nodi ffynonellau halogi posibl eraill sy’n peryglu cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a chynnwys arolygon swyddogol wedi eu targedu mewn ardaloedd cynhyrchu, yn seiliedig ar yr asesiad risg perthnasol, i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar—

(a)deunydd perthnasol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau,

(b)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac

(c)gollyngiadau gwastraff hylifol o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol sy’n trafod deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

(1B) Rhaid i’r arolygon hynny hefyd fod yn seiliedig ar fioleg Pydredd coch tatws a’r systemau cynhyrchu perthnasol, a rhaid iddynt gynnwys—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum tuberosum L., cynnal arolygiadau gweledol o’r cnwd sy’n tyfu, ar adegau priodol, neu samplu tatws hadyd a thatws eraill yn ystod y tymor tyfu neu wrth eu storio, a rhaid i hynny gynnwys cynnal arolygiad gweledol swyddogol o gloron drwy eu torri;

(b)yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21;

(c)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum lycopersicum L., cynnal arolygiadau gweledol, ar adegau priodol, o leiaf o’r cnwd o blanhigion sy’n tyfu y bwriedir eu defnyddio i’w hailblannu at ddefnydd proffesiynol;

(d)ar gyfer planhigion cynhaliol, ac eithrio deunyddiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac ar gyfer dŵr gan gynnwys gwastraff hylifol, cynnal profion swyddogol.

(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraff (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd coch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol o ran deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phlanhigion cynhaliol eraill Pydredd coch tatws.]

(2Pan amheuir bod Pydredd coch tatws yn bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal i gadarnhau a yw’n bresennol—

(i)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F38EPPO PM 7/21];

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio unrhyw ddull a gymeradwyir yn swyddogol;

(b)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd coch tatws wedi eu gweld, ac y cafwyd canlyniad cadarnhaol mewn prawf sgrinio cyflym, neu y cafwyd canlyniad cadarnhaol yn y profion sgrinio [F39y cyfeirir atynt yn EPPO PM 7/21]

(i)bod symud yr holl blanhigion a’r holl gloron o’r holl gnydau, yr holl lotiau neu’r holl lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod mesurau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd er mwyn atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(b)(i) i (iii).

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd coch tatwsLL+C

26.—(1Os bydd presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 25(2)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cymerir y camau a bennir yn is-baragraffau (2) i (4) yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws.

(2Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F40sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn— ;

(i)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;

(ii)tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;

(iii)tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;

(iv)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;

(v)tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(vi)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;

(vii)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;

(viii)mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr wyneb sy’n halogedig o bosibl;

(ix)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;]

(b)profion swyddogol pellach, gan gynnwys profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;

(c)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion bod y pethau a ganlyn yn halogedig—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;

(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gysylltiad â’r sampl honno;

(iii)unrhyw uned cynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;

(d)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion ynghylch graddau’r halogiad tebygol drwy ddod i gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;

(e)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F41gan ystyried y ffactorau perthnasol].

(3Yn achos planhigion cynhaliol, heblaw deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F42sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a)(i) i (ix)];

(b)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion fod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol;

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F43gan ystyried y ffactorau perthnasol].

(4Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad, sy’n cynnwys cynnal arolwg swyddogol, ar adegau priodol, ar samplau o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;

(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd iechyd planhigion, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan baragraff (a);

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan baragraff (b);

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F44gan ystyried y ffactorau perthnasol].

[F45(5) Y “ffactorau perthnasol” yw—

(a)at ddibenion is-baragraffau (2)(e) a (3)(d)—

(i)agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(ii)cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;

(iii)mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;

(b)at ddibenion is-baragraff (4)(d)—

(i)mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;

(ii)unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;

(iii)crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.]

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatwsLL+C

27.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 26(2), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd fod yn destun unrhyw [F46ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws];

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu [F47drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws];

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion [F48y Rhan hon].

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedigLL+C

28.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff 26(2)(e)—

(a)mewn perthynas â chae halogedig neu uned cynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas â chae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig a, pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf, er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F49EPPO PM 7/21], a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd.

(3Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, fod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar,

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes risg y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn dyfu, mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F50EPPO PM 7/21].

(4Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gofyniad na phlennir planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws neu mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ar gyfer cynhyrchu ffrwythau,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes tatws i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes planhigion tomatos i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(d)gofyniad, yn achos tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y cae,

(e)gofyniad, yn achos tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y cae,

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws, ac

(g)arolygiadau swyddogol o gnydau sy’n tyfu ar adegau priodol a phrofion swyddogol ar datws a gynaeafwyd yn unol â’r dull a nodir yn [F51EPPO PM 7/21].

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf,

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio, ac

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu, at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

Mesurau ychwanegol mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchuddLL+C

29.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws, planhigion tomatos neu hadau tomatos neu blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Caiff awdurdodiad o dan is-baragraff (2)—

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd coch tatwsLL+C

30.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth mewn perthynas â chadarnhad bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan baragraff 26(3)(d) neu (4)(d).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodir i atal y risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid glanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre o fewn y parth a ddarnodir a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drin cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig;

(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(e)na chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, pan fo’n briodol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd iechyd planhigion;

(f)os oes gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, fod rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu ddiwydiannol yn y parth sy’n trin deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd iechyd planhigion.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu mewn perthynas â phob mesur a yw’n gymwys yn gyffredinol ynteu i ardal o ddŵr wyneb yn y parth a ddarnodwyd,

(d)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur yn cael effaith ac am ba hyd,

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(f)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir;

(b)i unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig,

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig ar fangre o fewn y parth a ddarnodir y mae’r person yn ei meddiannu neu y mae ganddo ofal amdani, a

(iii)sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth a ddarnodir.

(7Ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu’r mesurau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) ond pan fo’r parth wedi ei darnodi—

(a)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F52paragraff 26(3)(d)];

(b)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (e) ac (f) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F53paragraff 26(4)(d)].

(8Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion yn ystod y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag [F54EPPO PM 7/21] yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(9At ddibenion is-baragraffau (3) ac (8), rhaid i’r “cyfnod penodedig”, mewn perthynas â pharth a ddarnodir yn unol â pharagraff 26(3)(d) neu (4)(d) fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

RHAN 7LL+CMesurau ynglŷn â thatws o’r Aifft

[F55Mesurau ychwanegol ynglŷn â thatws o’r Aifft]LL+C

31.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “tatws o’r Aifft” yw unrhyw gloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o’r Aifft a gyflwynir i [F56Brydain Fawr] o dan [F57Erthygl 41(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion].

(2Ni chaiff unrhyw weithredwr proffesiynol—

(a)symud unrhyw datws o’r Aifft yng Nghymru oni bai eu bod wedi eu labelu i ddangos eu bod yn tarddu o’r Aifft;

(b)prosesu, paratoi, golchi neu becynnu unrhyw datws o’r Aifft mewn mangre yng Nghymru heblaw mewn mangre y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo mewn ysgrifen at y diben hwnnw.

(3Nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i becynnu neu baratoi unrhyw datws o’r Aifft mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tŷ tafarn, ysgol, ysbyty, neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i’w ddanfon at y defnyddiwr terfynol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheoliad 38(1)(d) i (f)

ATODLEN 3LL+CTroseddau: darpariaethau perthnasol [F58mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd]

RHAN 1LL+C [F59Y Rheoliad Iechyd Planhigion]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Y Ddarpariaeth yn [F60y Rheoliad Iechyd Planhigion]Y Pwnc
Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 8(1))Yn gwahardd cyflwyno pla [F61cwarantin Prydain Fawr] i [F62Brydain Fawr] , symud pla [F61cwarantin Prydain Fawr] o fewn [F62Prydain Fawr] neu ddal, lluosogi neu ryddhau pla [F61cwarantin Prydain Fawr] o fewn [F62Prydain Fawr] (2).
Erthygl 9(3) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol hysbysu awdurdodau cymwys ar unwaith am unrhyw dystiolaeth a all fod ganddynt ynghylch perygl sydd ar fin digwydd:

(a)

y daw pla cwarantin [F63Prydain Fawr] neu [F64bla cwarantin Prydain Fawr dros dro] i [F65Brydain Fawr] neu i ran o [F65Brydain Fawr] lle nad yw’n bresennol eto, neu

(b)

y daw pla cwarantin [F66PFA] i’r [F67ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw].

Erthygl 14(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n amau neu sy’n dod yn ymwybodol:

(a)

bod pla cwarantin [F68Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro] yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr;

(b)

bod pla cwarantin [F69PFA] yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr yn [F70yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw],

hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith a chymryd camau rhagofalus i atal y pla rhag ymsefydlu a lledaenu.

Erthygl 14(3)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol:

(a)

ymgynghori â’r awdurdod cymwys pan fo’r gweithredwr proffesiynol wedi cael cadarnhad swyddogol ynghylch presenoldeb pla cwarantin [F71Prydain Fawr] mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr, a

(b)

pan fo’n gymwys, bwrw ymlaen â’r camau sy’n ofynnol o dan Erthygl 14(4) i (7).

Erthygl 15(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15(2), 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson nad yw’n weithredwr proffesiynol hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith pan fydd y person yn dod yn ymwybodol o’r canlynol, neu pan fo ganddo reswm i amau’r canlynol:

(a)

presenoldeb pla cwarantin [F72Prydain Fawr];

(b)

presenoldeb pla cwarantin [F73PFA] yn [F74yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw].

Erthygl 32(2)Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin [F75PFA] i’r priod barth gwarchodedig, symud pla cwarantin [F75PFA] yn [F76yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw] neu’r daliad, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin [F75PFA] yn [F76yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw] (3).
Erthygl 37(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 39, ac Erthygl 17 o’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol)Yn gwahardd gweithredwr proffesiynol rhag cyflwyno i [F77Brydain Fawr] bla nad yw’n bla cwarantin [F78Prydain Fawr] a reoleiddir ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt, neu symud pla nad yw’n bla cwarantin [F78Prydain Fawr] a reoleiddir o fewn [F77Prydain Fawr] ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt(4).
Erthygl 40(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill penodol i [F79Brydain Fawr] os ydynt yn tarddu o bob trydedd wlad neu diriogaeth neu rai penodol ohonynt(5).
Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(6);

(b)

symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(7).

[F80Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1)) Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.
Erthygl 41(1A) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1))Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o diriogaethau Dibynnol y Goron oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.
Erthygl 41(1B) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1))Yn gwahardd symud o fewn Prydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.]
Erthygl 42(2) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno i [F81Brydain Fawr] blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n uchel eu risg o drydydd gwledydd(8).
Erthygl 43(1)Yn gwahardd cyflwyno i [F81Brydain Fawr] ddeunydd pecynnu pren, p’un a yw’n cael ei ddefnyddio i gludo gwrthrychau o unrhyw fath neu beidio, oni bai ei fod yn cyflawni’r gofynion penodedig neu ei fod yn destun yr esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn SRFFf 15.
Erthygl 45(1), y trydydd paragraff (fel y’i darllenir gydag Erthygl 55)Yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau post a gweithredwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gwerthu drwy gontractau pellter drefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i’w cleientiaid drwy’r rhyngrwyd.
Erthygl 53(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd i [F82ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr];

(b)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o [F83Brydain Fawr neu diriogaeth Ddibynnol y Goron i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] (9).

Erthygl 54(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill [F84i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r [F85ardaloedd hynny sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] wedi eu cyflawni;

(b)

symud planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill [F84mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r [F85ardaloedd hynny sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] wedi eu cyflawni(10).

Erthygl 59

Yn ei gwneud yn ofynnol:

(a)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i [F86Brydain Fawr] neu o’i mewn, neu drwy [F86Brydain Fawr], fod yn rhydd rhag plâu [F87cwarantin Prydain Fawr neu blâu cwarantin Prydain Fawr dros dro];

(b)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i’r [F88ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] neu o’u mewn, neu drwy [F89ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], fod yn rhydd rhag y plâu cwarantin [F90PFA] [F91sy’n ymwneud â’r ardaloedd hynny].

Erthygl 62(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu fonitro’r orsaf neu’r cyfleuster a’r cyffiniau agos, am bresenoldeb anfwriadol plâu cwarantin [F92Prydain Fawr a phlâu cwarantin Prydain Fawr dros dro].

Erthygl 62(2)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu gymryd camau priodol ar sail y cynllun wrth gefn y cyfeirir ato ym mhwynt (e) o Erthygl 61(1) ac i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau i weithredwyr proffesiynol yn Erthygl 14 pan ganfyddir neu pan amheuir presenoldeb anfwriadol pla cwarantin [F93Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro].

Erthygl 64(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 64(2))Yn gwahardd rhyddhau planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o orsafoedd cwarantin neu gyfleusterau cyfyngu oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi gan yr awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol penodol gyflwyno cais am gofrestru i’r awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(5) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cofrestredig, pan fo’n berthnasol:

(a)

cyflwyno diweddariad blynyddol ynghylch unrhyw newidiadau yn y data y cyfeirir ato ym mhwyntiau (d) ac (e) o Erthygl 66(2) neu yn y datganiadau y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (b) ac (c) o Erthygl 66(2);

(b)

diweddaru’r data y cyfeirir ato ym mhwynt (a) o Erthygl 66(2) heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y newid yn y data hwnnw.

Erthygl 69(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 65(3) a 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol y cyflenwir iddo blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd bob uned fasnach.
Erthygl 69(2) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd pob uned fasnach iddo.
Erthygl 69(4)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol gadw’r cofnodion sy’n ofynnol yn unol ag Erthygl 69(1) i (3) am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 70(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol y cyflenwir y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 69(1) a (2) iddynt, neu sy’n cyflenwi’r rheiny, fod â systemau neu weithdrefnau olrhain ar waith i ganiatáu i symudiadau’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny o fewn a rhwng eu mangreoedd eu hunain gael eu hadnabod.
Erthyglau 72(1) a 73Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i [F94Brydain Fawr] o drydydd gwledydd oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(11).
Erthygl 74(1)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd i [F95ardaloedd penodol sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr] oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(12).
Erthygl 79(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 , 83 [F96, 92a a 95a(2)])Yn gwahardd symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn [F97Prydain Fawr neu gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i Brydain Fawr o diriogaeth Ddibynnol y Goron heb basbort planhigion y DU] (13).
Erthygl 80(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 , 83 [F98, 92a a 95a(2)])Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i [F99ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], neu symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn [F99ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], heb basbort planhigion [F100y DU] (14).
Erthygl 84(1)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol rhag dyroddi pasbortau planhigion [F101y DU] oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi a rhag dyroddi pasbortau planhigion [F101y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill nad ydynt yn gyfrifol amdanynt.
Erthygl 84(3)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F101y DU] ac eithrio mewn mangreoedd, warysau cyfun neu ganolfannau anfon penodedig.
Erthygl 85 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F102y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill oni bai bod y gofynion penodedig wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 86(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 86(2) a 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F103y DU] ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i [F104ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr], neu i’w symud o’i fewn, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
[F105Erthygl 86a Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion y DU ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i diriogaeth Ddibynnol y Goron, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.]
Erthygl 88Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol atodi pasbortau planhigion [F106y DU] i uned fasnach y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o dan sylw, neu pan fo’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill yn cael eu symud mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, i’r pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
Erthygl 90(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr awdurdodedig:

(a)

nodi a monitro’r pwyntiau yn ei broses gynhyrchu a phwyntiau allweddol penodol eraill ynglŷn â symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill pan fo’r gweithredwr awdurdodedig yn bwriadu dyroddi pasbort planhigion [F107y DU] mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny, a

(b)

cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd.

Erthygl 90(2)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i’w bersonél sy’n ymwneud â’r archwiliadau y cyfeirir atynt yn Erthygl 87.
Erthygl 93(1)Yn gwahardd gweithredwyr awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion [F108y DU] amnewid oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni.
Erthygl 93(5)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig gadw pasbortau planhigion [F109penodol] neu eu cynnwys am o leiaf dair blynedd.
[F110Erthygl 95a(1)Yn gwahardd cyflwyno uned fasnach GI berthnasol i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon oni bai bod y pasbort planhigion a oedd yn ofynnol ar gyfer ei symud o fewn Gogledd Iwerddon yn dod gyda hi.]
Erthygl 96(1)

Yn gwahardd marcio deunydd pecynnu pren, pren neu wrthrychau eraill o fewn [F111Prydain Fawr]:

(c)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(d)

heblaw yn y modd gofynnol.

Erthygl 97(1)

Yn gwahardd trwsio deunydd pecynnu pren:

(a)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(b)

heblaw yn y modd gofynnol.

Diwygiadau Testunol

RHAN 2LL+CY Rheoliad Rheolaethau Swyddogol

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 3 Rhn. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Rheolaethau SwyddogolY pwnc
Erthygl 47(5) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 7 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(15))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n dod [F112i Brydain Fawr] sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar y safle rheoli ar y ffin lle daw [F112i Brydain Fawr] am y tro cyntaf.
Erthygl 50(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol y mae Erthygl 47(1) yn gymwys iddo gyflwyno’r tystysgrifau neu’r dogfennau swyddogol gwreiddiol y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda’r llwyth i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin.
Erthygl 50(3)

Yn gwahardd gweithredwr llwyth perthnasol rhag hollti’r llwyth nes y bydd rheolaethau swyddogol wedi eu cyflawni a bod y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol (“DMIC”) wedi ei chwblhau.

Erthygl 56(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol gwblhau’r rhan berthnasol o’r DMIC.
Erthygl 56(4) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod [F112i Brydain Fawr] (16) a rheoliad 9)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin fod y llwyth yn cyrraedd cyn i’r llwyth gyrraedd [F112Prydain Fawr] yn gorfforol.

RHAN 3LL+CDeddfwriaeth arall yr UE

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 3 Rhn. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UEY pwnc
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(17)
Erthygl 3 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 4(a), 5(1)(b) a (d), 5(2)(a) ac (c) a 6(a))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth sicrhau bod DMIC yn mynd gyda’r llwyth cyn ei ryddhau ar gyfer cylchredeg rhydd yn unol ag Erthygl 57(2)(b) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
[F113Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion pan ganiateir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol wrth bwyntiau rheoli a phan ganiateir cynnal gwiriadau dogfennol bellter oddi wrth safleoedd rheoli ar y ffin, ac o dan ba amodau y caniateir gwneud hynny
Erthygl 2(1)(d), (e), (f), (g)(i) ac (h) (fel y’u darllenir gydag Erthygl 2(2) a (3)), Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 5(2), Erthygl 6(1) a (4) ac Erthygl 8(2))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth gydymffurfio ag amodau penodol pan fo gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar y llwyth i’w cynnal wrth bwynt rheoli ac eithrio safle rheoli ar y ffin.]
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb(18)
Erthygl 5(a) a (b)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i gludo’r llwyth ymlaen i nodi manylion penodol yn y DMIC a chyflwyno’r DMIC.
Erthygl 6Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i’w gludo ymlaen gydymffurfio â’r amodau penodedig ynglŷn â’i gludo a’i storio.
Erthygl 16(1) a (3)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol a drawslwythir roi’r wybodaeth benodedig i awdurdodau cymwys.

Erthygl 22(4)

Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n cael ei gludo drwy [F114Brydain Fawr] gymryd mesurau penodol ynglŷn â chludo’r llwyth.

Rheoliad 38

[F115ATODLEN 3ALL+CTroseddau: troseddau perthnasol yn Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023

Y ddarpariaeth yn Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023Y pwnc
Rheoliad 9(3)Yn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig ynglŷn a dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.
Rheoliad 11(1) a (2)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig:
(a) nodi a monitro’r pwyntiau yn eu proses gynhyrchu a’r pwyntiau sy’n ymwneud â symud y nwyddau perthnasol sy’n allweddol o ran cydymffurfio â rheoliad 12 a rheoliad 13 yn y rheoliadau hynny, pan fônt yn bwriadu dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon; a
(b) cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd.
Rheoliad 11(3)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’w personél sy’n ymwneud ag archwiliadau.
Rheoliad 12Yn gwahardd dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni, ond dim ond pan ddyroddir y label gan weithredwr awdurdodedig y mae torri rheoliad 12 yn drosedd.
Rheoliad 14(1)Yn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig mewn perthynas â gosod label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.
Rheoliad 14(2)Yn gosod gofynion ar weithredwyr proffesiynol mewn perthynas â gosod label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.
Rheoliad 18(1) i 18(4)Yn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig a gweithredwyr proffesiynol mewn perthynas â chadw cofnodion.
Rheoliad 18(5)Yn gosod gofynion ar weithredwyr proffesiynol i gyfleu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys, ar gais.
Rheoliad 19(4)Yn gosod amodau mewn perthynas â dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon amnewid, ond dim ond pan ddyroddir y label gan weithredwr awdurdodedig y mae torri rheoliad 19(4) yn drosedd.
Rheoliad 19(6) a (7)Yn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig mewn perthynas â chadw label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon a amnewidiwyd neu ei gynnwys.
Rheoliad 20(2), (3), (5) a (7)Yn gosod gofynion ar weithredwyr proffesiynol mewn perthynas ag annilysu a thynnu label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.
Rheoliad 21Yn gwahardd anfon llwythi â label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon i Ogledd Iwerddon gan bersonau heblaw gweithredwyr awdurdodedig a gweithredwyr cofrestredig, a chan gweithredwyr awdurdodedig a gweithredwyr cofrestredig oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni.]

. . . . . . . . . . . .

F116ATODLEN 4LL+C . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rheoliad 48A

[F117ATODLEN 4A LL+CSancsiynau sifil

RHAN 1LL+CY pŵer i osod sancsiynau sifil

Hysbysiad cydymffurfioLL+C

1.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio”) osod ar y person hwnnw ofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan yr awdurdod priodol, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau na fydd y drosedd yn parhau nac yn ailddigwydd.

(3) Ni chaniateir gosod hysbysiad cydymffurfio ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

Hysbysiad adferLL+C

2.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad (“hysbysiad adfer”) osod ar y person hwnnw ofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan yr awdurdod priodol, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni.

(3) Ni chaniateir gosod hysbysiad adfer ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

Gosod cosb ariannol benodedigLL+C

3.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad osod ar y person hwnnw ofyniad i dalu cosb ariannol i’r awdurdod priodol o £250 pan fo’r person yn unigolyn a £2000 pan fo’r person yn gorff corfforedig, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig (“cosb ariannol benodedig”).

(3) Ni chaniateir gosod cosb ariannol benodedig ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

(4) Caiff yr awdurdod priodol adennill unrhyw gosb ariannol benodedig a osodir o dan y paragraff hwn fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(5) Rhaid i gosb ariannol benodedig a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Gosod cosb ariannol amrywiadwyLL+C

4.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad osod ar y person hwnnw ofyniad i dalu cosb ariannol i’r awdurdod priodol o unrhyw swm a benderfynir ganddo (“cosb ariannol amrywiadwy”).

(3) Ni chaniateir gosod cosb ariannol amrywiadwy ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

(4) Ni chaniateir i swm cosb ariannol amrywiadwy fod yn fwy na £250,000.

(5) Cyn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas â chosb ariannol amrywiadwy, caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person y mae’r hysbysiad hwnnw i’w gyflwyno iddo ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol i bennu swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i’r drosedd.

(6) Caiff yr awdurdod priodol adennill unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir o dan y paragraff hwn fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(7) Rhaid i gosb ariannol amrywiadwy a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Hysbysiad o fwriadLL+C

5.(1) Os yw’r awdurdod priodol yn bwriadu cyflwyno i berson hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad yn gosod cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy o dan y Rhan hon, rhaid iddo gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).

(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad arfaethedig;

(b)gofynion yr hysbysiad arfaethedig ac, yn achos cosb, y swm sydd i’w dalu a sut y gellir talu;

(c)yn achos cosb ariannol benodedig—

(i)datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, a

(ii)gwybodaeth am effaith rhyddhau’r gosb;

(d)gwybodaeth o ran—

(i)yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad, a

(ii)o dan ba amgylchiadau na chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno’r hysbysiad arfaethedig.

Cyfuniad o gosbauLL+C

6.(1) Ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os, mewn perthynas â’r un drosedd—

(a)cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop i’r person hwnnw (gweler paragraffau 1, 2 a 17),

(b)gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw (gweler paragraff 4), neu

(c)derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti neu ymgymeriad gorfodi oddi wrth y person hwnnw (gweler paragraffau 9 a 23).

(2) Ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy, na chyflwyno hysbysiad stop os, mewn perthynas â’r un drosedd—

(a)gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu

(b)rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig yn dilyn cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.

Rhyddhau rhag atebolrwydd – cosbau ariannol penodedigLL+C

7.  Caiff cosb ariannol benodedig ei rhyddhau os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadauLL+C

8.  Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod priodol mewn perthynas â’r bwriad o gyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad yn gosod cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy.

Ymgymeriadau trydydd partiLL+C

9.(1) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo mewn perthynas â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy gynnig ymgymeriad o ran camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).

(2) Caiff yr awdurdod priodol dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti.

(3) Rhaid i’r awdurdod priodol ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti y mae’n ei dderbyn wrth benderfynu pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, ac, os yw’n cyflwyno hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy, wrth benderfynu swm y gosb.

Hysbysiad terfynolLL+C

10.(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu p’un ai i osod y gofynion a ddisgrifir yn yr hysbysiad o fwriad, gyda neu heb addasiadau.

(2) Pan fo’r awdurdod priodol yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 11 (ar gyfer hysbysiadau cydymffurfio neu hysbysiadau adfer) neu 12 (ar gyfer cosbau ariannol penodedig neu amrywiadwy).

(3) Ni chaiff yr awdurdod priodol osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(4) Pan fo’r awdurdod priodol yn cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd, ni chaiff yr awdurdod priodol mewn perthynas â’r drosedd honno gyflwyno—

(a)hysbysiad cydymffurfio,

(b)hysbysiad adfer,

(c)hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy, neu

(d)hysbysiad stop.

(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei ryddhau rhag cosb ariannol benodedig yn unol â pharagraff 7.

Cynnwys hysbysiad terfynol: hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau adferLL+C

11.  Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad,

(b)pa gamau cydymffurfio neu adfer sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid eu cwblhau,

(c)hawliau i apelio, a

(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cynnwys hysbysiad terfynol: cosbau ariannol penodedig a chosbau ariannol amrywiadwyLL+C

12.  Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb,

(b)y swm sydd i’w dalu,

(c)sut y gellir talu,

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu (y “cyfnod talu”), ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 56 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

(e)yn achos cosb ariannol benodedig, manylion y disgownt am dalu’n gynnar (gweler paragraff 13) a’r cosbau am dalu’n hwyr (gweler paragraff 15(2) a (3)),

(f)hawliau i apelio, ac

(g)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cosb ariannol benodedig: disgownt am dalu’n gynnarLL+C

13.  Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo mewn perthynas â chosb ariannol benodedig arfaethedig yn gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff 8, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb derfynol o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad terfynol.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynolLL+C

14.(1) Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad terfynol iddo apelio yn ei erbyn.

(2) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

(d)yn achos gofyniad nad yw’n ofyniad ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

(f)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Cosb ariannol benodedig: peidio â thalu o fewn y cyfnod talu a nodirLL+C

15.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig.

(2) Os na thelir y gosb derfynol o fewn y cyfnod talu a nodir, cynyddir y swm sy’n daladwy gan 50%.

(3) Yn achos apêl sy’n aflwyddiannus, mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau o benderfynu’r apêl, ac os nad yw wedi ei dalu o fewn 28 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb gan 50%.

Achosion troseddolLL+C

16.(1) Os—

(a)cyflwynir hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer i unrhyw berson,

(b)derbynnir ymgymeriad trydydd parti gan unrhyw berson,

(c)cyflwynir hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy i unrhyw berson, neu

(d)cyflwynir cosb ariannol benodedig i unrhyw berson,

ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o drosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti, y gosb ariannol amrywiadwy neu’r gosb ariannol benodedig ac eithrio mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) (ac nad yw hefyd yn dod o fewn paragraff (c)) pan fo’r person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti (yn ôl y digwydd).

(2) Caniateir cychwyn achos troseddol am droseddau y mae hysbysiad neu ymgymeriad trydydd parti yn is-baragraff (1) yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at 6 mis o’r dyddiad pan fydd yr awdurdod priodol yn hysbysu’r person y mae’r achos i’w gymryd yn ei erbyn fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad neu’r ymgymeriad hwnnw.

RHAN 2LL+CHysbysiadau stop

Hysbysiadau stopLL+C

17.(1) Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad stop”) i unrhyw berson yn gwahardd y person hwnnw rhag cynnal gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes y bydd y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Ni chaniateir ond cyflwyno hysbysiad stop—

(a)pan fo’r person yn cynnal y gweithgaredd neu pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y person yn debygol o gynnal y gweithgaredd,

(b)pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed economaidd neu amgylcheddol, neu effeithiau andwyol ar iechyd planhigion, ac

(c)pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y gweithgaredd sy’n cael ei gynnal, neu sy’n debygol o gael ei gynnal, gan y person hwnnw yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

(3) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) fod yn gamau i ddileu’r risg y cyflawnir y drosedd.

Cynnwys hysbysiad stopLL+C

18.  Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad stop,

(b)y gweithgaredd a waherddir,

(c)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid iddynt gael eu cwblhau,

(d)hawliau i apelio, ac

(e)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

ApelauLL+C

19.(1) Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.

(2) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

(e)nad yw’r person wedi cyflawni trosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad wedi ei gyflwyno;

(f)na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

(g)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Tystysgrifau cwblhauLL+C

20.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif gwblhau”) os, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y person y’i cyflwynwyd iddo wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Mae hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.

(3) Caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cymerwyd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

(4) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo ar unrhyw adeg wneud cais am dystysgrif gwblhau.

(5) Rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r ceisydd (gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio), o fewn 14 o ddiwrnodau o gael y cais.

(6) Caiff y ceisydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau fod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

DigollediadLL+C

21.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol ddigolledu person am golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad stop neu wrthod tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—

(a)bod yr hysbysiad stop wedi ei dynnu’n ôl neu wedi ei ddiwygio wedi hynny gan yr awdurdod priodol am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol,

(b)bod yr awdurdod priodol yn torri ei ymrwymiadau statudol,

(c)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu

(d)bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.

(2) Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad ar y seiliau—

(a)bod penderfyniad yr awdurdod priodol yn afresymol,

(b)bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir, neu

(c)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

TroseddauLL+C

22.  Os nad yw person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

RHAN 3LL+CYmgymeriadau gorfodi

Ymgymeriadau gorfodiLL+C

23.  Pan fo gan yr awdurdod priodol seiliau rhesymol i amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn, caiff yr awdurdod priodol dderbyn ymgymeriad ysgrifenedig (“ymgymeriad gorfodi”) a roddir gan y person hwnnw i gymryd unrhyw gamau a bennir yn yr ymgymeriad o fewn unrhyw gyfnod a bennir.

Cynnwys ymgymeriad gorfodiLL+C

24.(1) Rhaid i ymgymeriad gorfodi bennu—

(a)camau i’w cymryd gan y person i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau nac yn ailddigwydd,

(a)camau i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni, neu

(c)camau (gan gynnwys talu swm o arian) i’w cymryd gan y person er budd unrhyw berson yr effeithir arno gan y drosedd.

(2) Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau.

(3) Rhaid iddo gynnwys—

(a)datganiad y gwneir yr ymgymeriad yn unol â’r Atodlen hon,

(b)amodau’r ymgymeriad, ac

(c)gwybodaeth o ran sut a phryd yr ystyrir bod y person wedi cyflawni’r ymgymeriad.

(4) Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu estyn y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau ynddo, os yw’r awdurdod priodol a’r person a roddodd yr ymgymeriad yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

Derbyn ymgymeriad gorfodiLL+C

25.(1) Os yw’r awdurdod priodol wedi derbyn ymgymeriad gorfodi gan berson—

(a)ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi, a

(b)ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer na hysbysiad stop, na gosod cosb ariannol benodedig na chosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw, mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw person a roddodd yr ymgymeriad wedi methu â chydymffurfio ag ef neu ag unrhyw ran ohono.

Cyflawni ymgymeriad gorfodiLL+C

26.(1) Os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodi, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif gyflawni”) i’r perwyl hwnnw.

(2) Mae ymgymeriad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gyflawni.

(3) Caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.

(4) Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif gyflawni.

(5) Rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gyflawni, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r ceisydd (gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio), o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.

(6) Caiff y ceisydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gyflawni ar y seiliau fod y penderfyniad—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)yn anghywir mewn cyfraith;

(c)yn annheg neu’n afresymol;

(d)yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniolLL+C

27.(1) Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

(2) Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif gyflawni a ddyroddwyd o dan baragraff 26 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.

Peidio â chydymffurfio ag ymgymeriad gorfodiLL+C

28.(1) Os nad yw person yn cydymffurfio ag ymgymeriad gorfodi, caiff yr awdurdod priodol, yn achos trosedd a gyflawnir o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn—

(a)cyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad stop neu gosb am fethu â chydymffurfio, neu

(b)dwyn achos troseddol.

(2) Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu sancsiwn arall ar y person.

(3) Caniateir cychwyn achos troseddol am droseddau y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at 6 mis o’r dyddiad y mae’r awdurdod priodol yn hysbysu’r person fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad.

RHAN 4LL+CCosbau am beidio â chydymffurfio

Cosbau am beidio â chydymffurfioLL+C

29.(1) Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad i berson yn gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio ag—

(a)hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd ai peidio, neu

(b)ymgymeriad gorfodi.

(2) Rhaid i’r awdurdod priodol bennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi.

(3) Rhaid i’r awdurdod priodol bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno, os yw’n briodol, fod yn 100%.

(4) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio,

(b)y swm sydd i’w dalu,

(c)sut y mae rhaid talu,

(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

(e)hawliau i apelio,

(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac

(g)o dan ba amgylchiadau y caiff yr awdurdod priodol leihau swm y gosb.

(5) Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi cyn y terfyn amser a bennir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.

(6) Ar ôl i’r cyfnod talu penodedig ddod i ben, caiff yr awdurdod priodol adennill y gosb am beidio â chydymffurfio fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(7) Rhaid i gosb am beidio â chydymffurfio a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

ApelauLL+C

30.(1) Caiff y person y cyflwynwyd iddo yr hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.

(2) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn anghywir am reswm arall.

RHAN 5LL+CTynnu hysbysiadau yn ôl a diwygio hysbysiadau

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiadLL+C

31.  Caiff yr awdurdod priodol ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

(a)tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw, er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad,

(b)tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig, neu

(c)tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio, neu leihau swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad.

RHAN 6LL+CAdennill cost

Adennill costau gorfodaethLL+C

32.(1) Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad adennill cost os yw unrhyw un neu ragor o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni.

(2) Mae hysbysiad adennill cost yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu costau’r awdurdod priodol.

(3) Yr amodau yw bod yr awdurdod priodol wedi—

(a)cyflwyno i’r person hysbysiad cydymffurfio o dan baragraff 1,

(b)cyflwyno i’r person hysbysiad adfer o dan baragraff 2,

(c)cyflwyno i’r person gosb ariannol amrywiadwy o dan baragraff 4, neu

(d)cyflwyno i’r person hysbysiad stop o dan baragraff 17.

(4) Yn is-baragraff (2), mae cyfeiriad at gostau yn gyfeiriad at unrhyw gostau sy’n ymwneud â llunio a rhoi hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad stop, yn ôl y digwydd, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at gostau unrhyw ymchwiliad cysylltiedig neu gyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(5) Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)swm y costau y mae rhaid eu talu,

(b)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

(c)sut y mae rhaid talu,

(d)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod talu a bennir, ac

(e)hawliau i apelio.

(6) Ar ôl i’r cyfnod talu penodedig ddod i ben, caiff yr awdurdod priodol adennill y costau y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad adennill cost fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn gan y llys.

(7) Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad adennill cost iddo apelio yn ei erbyn.

(8) Y seiliau dros apelio yw—

(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

(d)bod swm y gosb yn afresymol;

(e)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

RHAN 7LL+CApelau

ApelauLL+C

33.(1) Rhaid i unrhyw apêl o dan yr Atodlen hon gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

(2) Mewn unrhyw apêl rhaid i’r Tribiwnlys benderfynu ar y safon profi.

(3) Mae apêl yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan yr Atodlen hon (ac eithrio hysbysiad stop) yn atal dros dro effaith yr hysbysiad yr apelir yn ei erbyn hyd nes y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.

(4) Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

(a)tynnu yn ôl y gofyniad neu’r hysbysiad;

(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(c)amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;

(d)cymryd unrhyw gamau y gallai’r awdurdod priodol eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad;

(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at yr awdurdod priodol.

RHAN 8LL+CCanllawiau a chyhoeddusrwydd

Canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifilLL+C

34.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o sancsiynau sifil.

(2) Rhaid i’r awdurdod priodol adolygu a diweddaru canllawiau pan fo’n briodol.

(3) Rhaid i’r awdurdod priodol roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau a adolygwyd ac a ddiweddarwyd wrth arfer ei swyddogaethau.

(4) Yn achos canllawiau ynghylch hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer, cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau stop a chosbau am beidio â chydymffurfio, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae sancsiwn sifil yn debygol o gael ei osod,

(b)o dan ba amgylchiadau nad yw’n debygol o gael ei osod,

(c)pan fo’n berthnasol, hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

(d)hawliau i apelio, ac

(e)yn achos canllawiau ynghylch cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio, y materion y mae’r awdurdod priodol yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano ei hun).

(5) Yn achos canllawiau ynghylch ymgymeriadau gorfodi, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—

(a)o dan ba amgylchiadau y mae’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi, a

(b)o dan ba amgylchiadau nad yw’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi.

Ymgynghori ar ganllawiauLL+C

35.  Rhaid i’r awdurdod priodol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’r awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy cyn cyhoeddi—

(a)unrhyw ganllawiau, neu

(b)unrhyw ddiwygiadau neu ddiweddariadau sylweddol i ganllawiau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Cyhoeddi camau gorfodiLL+C

36.(1) Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi yn flynyddol—

(a)yr achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt;

(b)pan fo sancsiwn sifil yn hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt;

(c)yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad gorfodi ynddynt.

(2) Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan osodwyd sancsiwn ond a gafodd ei wrthdroi ar apêl.

(3) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r awdurdod priodol o’r farn y byddai cyhoeddi yn amhriodol.]

Rheoliad 49

ATODLEN 5LL+CDiwygio is-ddeddfwriaeth ynglŷn â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion

RHAN 1LL+CRheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995

1.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Council Directive 2000/29/EC” rhodder “the EU Plant Health Regulation”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) In this regulation, “the EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CRheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999((20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

the EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants;;

(b)hepgorer y diffiniad o “Directive 2000/29/EC”.

(3Yn rheoliad 6A(4), yn y diffiniad o “responsible official body”, yn lle’r geiriau o “a body” hyd at y diwedd, rhodder “, in relation to Wales, the Welsh Ministers”.

(4Yn rheoliad 7, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Registration of a supplier on the register of professional operators for the purposes of the EU Plant Health Regulation is deemed to constitute registration for the purposes of paragraph (1) above.

(5Yn rheoliad 8(3)—

(a)yn lle’r geiriau o “notifiable” hyd at “Order 2018” rhodder “plant pest of a description specified in Annex 2, 3 or 4 to Commission Implementing Regulation (EU) 2019/2072 establishing uniform conditions for the implementation of Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and the Council, as regards protective measures against pests of plants,”;

(b)yn lle “article 42 of that Order (notification of the presence or suspected presence of certain plant pests)” rhodder “the EU Plant Health Regulation”.

(6Yn rheoliad 9(2), yn lle “Directive 2000/29/EC” rhodder “the EU Plant Health Regulation”.

(7Yn rheoliad 12(3), yn lle’r geiriau o “if he delivers” hyd at y diwedd rhodder “, in relation to Wales, if the supplier delivers a phytosanitary certificate for export or a phytosanitary certificate for re-export to the Welsh Ministers”.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 3LL+CRheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn rheoliad 2(2), yn y diffiniad o “plant passport”, yn lle “the Plant Health (Forestry) Order 2005” rhodder “Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 4LL+CRheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(22) wedi eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)” (“the Official Controls (Plant Health) Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020;.

(3Yn rheoliad 13(9), ar ôl “y Rheoliadau hyn” mewnosoder “, Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 3(d)—

(i)yn lle “Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 3 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(ii)yn lle “Gorchymyn hwnnw” rhodder “Rheoliadau hynny”;

(b)ym mharagraff 4(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(c)ym mharagraff 7(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(d)ym mharagraff 9(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”.

(5Yn Atodlen 2, ym mharagraff 10(b), hepgorer “neu yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006”.

(6Yn Atodlen 5, ym mharagraff 3(b)—

(a)yn lle “Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 3 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(b)yn lle “Gorchymyn hwnnw” rhodder “Rheoliadau hynny”.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 5LL+CRheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

5.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “man arolygu a gymeradwywyd” yn lle “erthygl 3 o’r Gorchymyn” rhodder “rheoliad 13(10) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “hysbysiad adfer coedwigaeth” (“forestry remedial notice”) yw hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 10 neu 15(1) neu (2) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;;

(c)yn lle’r diffiniad o “trwydded” rhodder—

ystyr “trwydded” (“licence”) yw—

(a)

trwydded y cyfeirir ati yn rheoliad 51(1) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru, neu

(b)

awdurdodiad a ddisgrifir yn rheoliad 20(1)(a) neu (b)(i) neu 21(1)(a) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru.;

(d)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020” (“the Official Controls (Plant Health) Regulations 2020”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020;;

(e)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion;;

(f)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;;

(g)yn y diffiniad o “awdurdodiad pasbort planhigion”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”;

(h)hepgorer y diffiniad o “y Gorchymyn”;

(i)hepgorer y diffiniad o “hysbysiad adfer”;

(j)yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn” rhodder “hysbysiad adfer coedwigaeth, neu gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;

(k)yn y diffiniad o “awdurdodiad DPP”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”.

(3Yn rheoliad 3—

(a)hepgorer paragraff (6);

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(6A) Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer coedwigaeth iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd iechyd planhigion mewn cysylltiad â llwyth a reolir.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

RHAN 6LL+CRheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(24) wedi eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn rheoliad 3(1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2000/29/EC”.

(3Hepgorer rheoliad 10(6).

(4Yn rheoliad 11(7), yn lle’r geiriau o “masnachwr planhigion” hyd at “2018” rhodder “gweithredwr proffesiynol at ddibenion Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.

(5Yn rheoliad 15(1)(g), yn lle paragraff (iii) rhodder—

(iii)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Rheoliad 50

ATODLEN 6LL+CDirymu offerynnau

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 6 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

OfferynCyfeirnod
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 2004O.S. 2004/1684
Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004O.S. 2004/2245 (Cy. 209)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005O.S. 2005/2517
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006O.S. 2006/1701 (Cy. 163)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006O.S. 2006/2695
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2006O.S. 2006/2696
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2008O.S. 2008/644
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2009O.S. 2009/594
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Rhif 2) 2009O.S. 2009/3020
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2012O.S. 2012/2707
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2013O.S. 2013/1658 (Cy. 156)
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014O.S. 2014/1463 (Cy. 144)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014O.S. 2014/1759 (Cy. 174)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015O.S. 2015/1723 (Cy. 235)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2016O.S. 2016/1084 (Cy. 259)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018O.S. 2018/772 (Cy. 156)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018O.S. 2018/1064 (Cy. 223)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2019O.S. 2019/132 (Cy. 33)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2019O.S. 2019/498 (Cy. 115)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2019O.S. 2019/1153 (Cy. 202)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019O.S. 2019/1167 (Cy. 204)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2019O.S. 2019/1280 (Cy. 224)
(2)

Nodir y rhestr o blâu cwarantin yr Undeb yn Atodiad 2 i Reoliad (EU) 2019/2072 (“Rheoliad Amodau Ffytoiechydol”) sy’n pennu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”).

(3)

Nodir y rhestr o barthau gwarchodedig a’r priod blâu parth gwarchodedig yn Atodiad 3 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(4)

Nodir y rhestr o blâu nad ydynt yn blâu cwarantin Undeb a reoleiddir a’r planhigion perthnasol i’w plannu, gyda chategorïau a throthwyon, yn Atodiad 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(5)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a’r trydydd gwledydd, y grwpiau o drydydd gwledydd neu’r ardaloedd penodol o drydydd gwledydd y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(6)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u cyflwyno i diriogaeth yr Undeb yn Atodiad 7 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(7)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o’r Undeb a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u symud o fewn tiriogaeth yr Undeb yn Atodiad 8 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(8)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill uchel eu risg y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 1 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/2019 yn sefydlu rhestr dros dro o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill uchel eu risg, o fewn ystyr Erthygl 42 o Reoliad (EU) 2016/2031 a rhestr o blanhigion nad yw tystysgrifau ffytoiechydol yn ofynnol ar eu cyfer i’w cyflwyno i’r Undeb, o fewn ystyr Erthygl 73 o’r Rheoliad hwnnw (OJ Rhif L 323, 19.12.2018, t. 10).

(9)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 9 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(10)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 10 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(11)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 72(1) yn Rhan A o Atodiad 11 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol. Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 73(1) yn Rhan B o’r Atodiad hwnnw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill yn y rhestr a nodir yn Rhan C o’r Atodiad hwnnw.

(12)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 12 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(13)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 13 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(14)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 14 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(15)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.

(16)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.

(17)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 6.

(18)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 73.

(19)

O.S. 1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy. 174); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(21)

O.S. 2002/3026, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/496 (Cy. 133); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(22)

O.S. 2016/106 (Cy. 52); ceir offerynnau diwygio ond nid yw’r un yn berthnasol.

(24)

O.S. 2017/691 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/368 (Cy. 90); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources