- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
20 Mawrth 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1) (“Deddf 2014”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn briodol ynghylch drafft o’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Chwefror 2020.
Yn unol ag adran 146(3) o Ddeddf 2014, o fewn cyfnod o 40 niwrnod ni phenderfynodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â chymeradwyo’r Cod Ymarfer drafft mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, a dyroddwyd y cod ar ffurf y drafft.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Chwefror 2020 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 31 Mawrth 2020.
2. Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 1 Ebrill 2020.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2020 fel y diwrnod y daw’r Cod Ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i rym (“y Cod”).
Mae’r Cod wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddwyd o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.
Mae’r Cod yn disodli’r Cod Ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol a ddyroddwyd ym mis Ebrill 2016.
Gellir gweld y Cod ar y rhyngrwyd ar https://llyw.cymru/.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: